Julie Lennard

Bywgraffiad

Mae Julie Lennard wedi bod yn Brif Weithredwr DVLA ers Mawrth 2018.

Gyrfa

Fel Prif Weithredwr, mae Julie yn arwain y trawsnewid digidol a busnes ar gyfer un o sefydliadau gwasanaeth aml-sianel mwyaf y DU, gyda mwy na 52 miliwn o gwsmeriaid, mwy na 6,000 o staff, a bron i £8 biliwn mewn refeniw wedi’i gasglu ar gyfer llywodraeth y DU yn flynyddol. Yn 2023 i 2024, wnaeth DVLA brosesu 95.5 miliwn o drafodion cwsmeriaid unigol y proseswyd 84% ohonynt trwy sianeli digidol. Fe wnaeth DVLA hefyd brosesu 4.4 biliwn o ryngweithiadau digidol y flwyddyn honno (roedd y mwyafrif ohonynt yn ymholiadau awtomataidd rhwng DVLA ac adrannau eraill y llywodraeth), a oedd i fyny o fwy nag 1 biliwn yn 2017 i 2018. Yn 2023 i 2024 cyrhaeddodd DVLA garreg filltir hanesyddol trwy lansio’r Cyfrif gyrwyr a cherbydau gyda’r cyhoedd, a fydd yn trawsnewid y ffordd y mae cwsmeriaid yn rhyngweithio â DVLA.

Mae DVLA yn gyfrannwr net i gyllid y llywodraeth, ac yn 2023 i 2024 cododd dros £276 miliwn ar gyfer Trysorlys EF a’r Adran dros Drafnidiaeth trwy werthu a phrosesu trosglwyddiadau a rhifau cofrestru personol.

Ymunodd Julie â DVLA yn 2014 fel Cyfarwyddwraig Strategaeth, Polisi a Chyfathrebu, ble roedd yn gyfrifol am ddarparu datblygiad polisi a strategaeth busnes y sefydliad. Roedd Julie wedi goruchwylio cyfarwyddiaeth sy’n cynnwys diogelu data, cyswllt seneddol a chyfathrebu.

Cyn ymuno â DVLA, bu Julie’n gweithio mewn nifer o rolau yn yr Archifau Cenedlaethol. Cyn hynny, bu’n gweithio i Which?, y sefydliad defnyddwyr mwyaf yn Ewrop, mewn ystod o rolau gan gynnwys gweithio fel newyddiadurwr ac yn cynrychioli’r sefydliad ymgyrchol i adrannau llywodraethol, asiantaethau a rhanddeiliaid eraill ar lefel cenedlaethol a rhyngwladol.

Rolau blaenorol yn y llywodraeth

  • Prif Weithredwr
  • Cyfarwyddwr Strategaeth, Polisi a Chyfathrebu