Cyfarwyddwr Cyffredinol, Pobl a Gallu

Julie Blomley

Bywgraffiad

Ymunodd Julie â’r Adran Gwaith a Phensiynau ym mis Ebrill 2024 fel Cyfarwyddwr Cyffredinol Pobl a Gallu, ar ôl dal swydd Prif Swyddog Pobl yn y Swyddfa Gartref ers mis Rhagfyr 2021.

Dechreuodd Julie ei gyrfa AD gyda BNFL Magnox Generation yn Swydd Gaerloyw ym 1997 ac mae wedi treulio ei gyrfa gyfan mewn amrywiaeth o rolau Adnoddau Dynol, gan gynnwys 14 mlynedd ym maes manwerthu fel Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol Grŵp gyda Matalan, New Look a’r JD Group.

Mae’n Gymrawd o’r Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu ac mae’n angerddol am bobl a datblygiad sefydliadol.

Mae Julie yn briod ac yn ei hamser hamdden, mae’n mwynhau beicio, Pilates, ioga, mynychu cyngherddau a’r theatr a theithio.

Cyfarwyddwr Cyffredinol, Pobl a Gallu

Mae’r Cyfarwyddwr Cyffredinol, Pobl a Gallu yn gosod ac yn arwain strategaeth pobl yr adran, gan alinio hyn â strategaeth fusnes a chynllun gweithlu ehangach y Gwasanaeth Sifil.

Mae’r rôl yn atebol am:

  • model gweithredu a swyddogaeth AD llawn
  • iechyd a diogelwch
  • dysgu a datblygu
  • cynllunio’r gweithlu strategol
  • creu gweithlu hyblyg, cynhwysol a dysgu parhaus

Adran Gwaith a Phensiynau

Rolau blaenorol yn y llywodraeth

  • Chief People Officer