John-Mark Frost
Bywgraffiad
Cymerodd John-Mark rôl y Cyfarwyddwr Cyflenwi Trawsnewid ym mis Chwefror 2021 ar ôl ymuno â Thŷ’r Cwmnïau ym mis Mehefin 2018 fel y Pennaeth Cyflenwi Gwasanaethau a dod yn Gyfarwyddwr Gweithrediadau yn gynnar yn 2019.
Mae gan John-Mark dros 15 mlynedd o brofiad yn y sectorau cyhoeddus a phreifat yn arwain timau gweithredol ar raddfa fawr a swyddogaethau ymchwil cymdeithasol ac ystadegol arbenigol ac mae wedi arwain a bod yn rhan o lawer o brosiectau a rhaglenni llwyddiannus yn y DU ac yn rhyngwladol.
Cyn ymuno â Thŷ’r Cwmnïau, roedd gan John-Mark nifer o rolau yn yr Adran Gwaith a Phensiynau a’r Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Rolau blaenorol yn y llywodraeth
-
Cyfarwyddwr Cyflenwi Trawsnewid
-
Cyfarwyddwr Gweithrediadau