Cyfarwyddwr Gweithrediadau

Jill Callan

Bywgraffiad

Cymerodd Jill Callan rôl y Cyfarwyddwr Gweithrediadau Dros Dro ym mis Chwefror 2021 ar ôl ymuno â Thŷ’r Cwmnïau ym mis Mai 2019 fel y Pennaeth Cyflenwi Gwasanaethau.

Mae gan Jill Callan dros 30 mlynedd o brofiad yn y sector cyhoeddus yn arwain timau gweithredol ar raddfa fawr ac mae wedi arwain a bod yn rhan o lawer o brosiectau a rhaglenni llwyddiannus yn y DU.

Cyn ymuno â Thŷ’r Cwmnïau, roedd gan Jill Callan nifer o rolau yn y DVLA.

Cyfarwyddwr Gweithrediadau

Mae’r Cyfarwyddwr Gweithrediadau yn goruchwylio’r adrannau sy’n gyfrifol am:

  • cynnal cofrestr gywir o ddata’r cwmni
  • darparu cefnogaeth i gwsmeriaid trwy’r ganolfan gyswllt a’r timau cymorth ail linell
  • gweithredu cydymffurfiaeth, uniondeb y gofrestr a swyddogaethau gorfodi

Tŷ'r Cwmnïau