Jeremy Moore

Bywgraffiad

Roedd Jeremy Moore yn was sifil gyrfaol tan ei ymddeoliad yn 2017. Yn ystod y cyfnod hwnnw, bu’n gweithio yn y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, yr Adran Addysg, Trysorlys EF a’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP). Ei rôl olaf cyn ymddeol oedd fel Cyfarwyddwr Cyffredinol polisi DWP, gan gwmpasu ystod lawn o gyfrifoldebau polisi’r  adran.

Roedd yn gyfarwyddwr anweithredol y ‘Student Loans Company’ am 4 blynedd.

Gwnaed Jeremy yn Gydymaith y Baddon yn 2016. Ar ôl ymddeol o’r gwasanaeth cyhoeddus, ymgymerodd â rolau anweithredol amrywiol.  Ymunodd â bwrdd y Sefydliad Dysgu a Gwaith (LWI) lle mae’n gadeirydd ar hyn o bryd.  Gwasanaethodd ar fwrdd Shaw Trust am 4 blynedd o 2019. Roedd yn gadeirydd BPDTS Ltd rhwng mis Ionawr 2019 a mis Gorffennaf 2021. Sefydlwyd BPDTS Ltd i ddarparu gwasanaethau technoleg ddigidol arbenigol i DWP.  Daeth yn rhan o DWP ym mis Gorffennaf 2021.

Yn 2025, ymunodd Jeremy â’r panel cynghori ar gyfer yr Adolygiad Annibynnol o Ordaliadau Lwfans Gofalwr, i gefnogi’r Adolygydd Annibynnol trwy ddarparu cyngor a gweithredu fel ffrind beirniadol i’r adolygiad.

Rolau blaenorol yn y llywodraeth

  • Chair of BPDTS Ltd
  • Cyfarwyddwr Cyffredinol Strategaeth, Polisi a Dadansoddiad