Jeremy Boss

Bywgraffiad

Penodwyd Jeremy yn Gyfarwyddwr Anweithredol y DVLA yn Ionawr 2016.

Addysg

Mae gan Jeremy radd BSc Anrhydedd (2:1) mewn Economeg o Brifysgol Warwick (1982). Mae ef yn Gymrawd Sefydliad Cyfrifyddion Siartredig ac yn Gymrawd Cymdeithas Gyfrifiadureg Prydeinig.

Gyrfa

Mae gan Jeremy dros 30 mlynedd o brofiad o weithio yn y maes cyllid, archwilio a technoleg gwybodaeth o fewn y sector cyhoeddus a’r preifat.

Wedi iddo gymhwyso fel Cyfrifydd Siartredig, dechreuodd ei yrfa fel Archwilydd ac Ymgynghorwr gydag un o’r pedwar cwmni archwilio rhyngwladol gorau. Yn ystod yr amser hwnnw, enillodd fwy na 20 mlynedd o brofiad yn gweithio fel Prif Swyddog Technoleg Gwybodaeth, neu’n gyfateb i’r swydd honno, i gwmni FTSE100, corfforaeth gyhoeddus (Comisiwn Archwilio) a’r Adran Gwladol (Ynni a Newid Hinsawdd). Bu’n aelod o’r Grŵp Arweinwyr Digidol a’r Grŵp Arweinwyr Technoleg y Llywodraeth DU o 2010 tan 2015.

Ymddiswyddodd Jeremy fel Uwch Gwas Sifil yn gynnar yn 2015 er mwyn creu portffolio o waith anweithredol, gwirfoddol a chynghorol (drwy ei gwmni ei hun Boss Cyber Limited). Ar hyn o bryd, mae ef yn Gadeirydd Cymdeithas Widcombe, sef y gymdeithas preswylwyr fwyaf yn Ninas Caerfaddon (Bath) ac yn aelod o’r Fforwm Dinas Caerfaddon wedi’i hyrwyddo gan y Cyngor.

Rolau blaenorol yn y llywodraeth

  • Cyfarwyddwr Anweithredol