Jen Tippin
Bywgraffiad
Prif Swyddog Gweithredu ar gyfer Grŵp NatWest yw Jen, ac mae hi’n aelod o’r Pwyllgor Gweithredol.
Yn y swydd hon, mae Jen yn gyfrifol am ddiffinio ac ysgogi strategaeth ar draws ystod eang o swyddogaethau, gan gynnwys materion corfforaethol, llywodraethiant corfforaethol/ysgrifenyddiaeth y cwmni, AD/pobl, cyfreithiol, materion rheoleiddio, marchnata, buddsoddi, teithiau cwsmeriaid, eiddo, a chadwyn gyflenwi. Yn ogystal â hyn, mae hi’n Noddwr Gweithredol ar gyfer LHDT+ a Llesiant.
Ers iddi ymuno â NatWest, mae hi wedi gweithio fel Prif Swyddog Trawsnewid y Grŵp a Phrif Swyddog Pobl a Thrawsnewid y Grŵp.
Ymunodd Jen â Grŵp NatWest yn 2020 yn dilyn 15 blynedd o weithio â Grŵp Bancio Lloyds. Cafodd ei phenodi i Bwyllgor Gweithredol y Grŵp yn 2017, pan oedd hi’n Gyfarwyddwr y Grŵp dros Bobl a Chynhyrchiant. Cyn hynny, roedd hi’n Gyfarwyddwr Dylunio Sefydliadol a Rheoli Costau’r Grŵp, yn Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cwsmeriaid y Grŵp ac yn Rheolwr Gyfarwyddwr Gwasanaethau Bancio Busnes, gan wasanaethu dros filiwn o gwsmeriaid busnesau bach. Mae Jen hefyd wedi gweithio yn y sectorau peirianneg a chwmnïau hedfan.
Mae gan Jen brofiad eang a helaeth o wasanaethu ar fyrddau – mae hi hefyd yn Gyfarwyddwr Anweithredol ar fwrdd Morgan Sindall plc (lle mae hi hefyd yn cadeirio eu Pwyllgor Tâl), City HR, a’r Financial Services Skills Commission. Yn flaenorol, mae hi wedi gwasanaethu ar fyrddau City, Prifysgol Llundain, Marchnadoedd Corfforaethol Banc Lloyds Bank ac Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Cymunedol Caint.
Mae hi’n Gymrawd o’r CIPD ac yn gyd-sylfaenydd Stratos, rhaglen ddatblygu fyd-eang ar gyfer menywod uwch ym maes gwasanaethau ariannol.
Graddiodd Jen o Brifysgol Rhydychen ac mae ganddi 3 o blant.
Non-executive Director
Non-Executive Directors bring external experience and expertise to the department, playing an important role in providing advice, challenge and scrutiny to the work of the Executive Committee and the department more widely, both within and outside of formal Board and sub-committee meetings.
Non-Executives contribute their expertise outside the formal Board and subcommittee structures — for example, working closely with executives on specific initiatives, mentoring and undertaking in-depth examinations of risk.
Non-Executive Directors also support the effectiveness of programme boards for HMRC’s most significant transformation programmes.