Huw Bryer

Bywgraffiad
Mae Huw Bryer yn Ddirprwy Gyfarwyddwr yn Swyddfa Cymru. Mae’n gyfrifol am Bolisi Cyfansoddiadol a Deddfwriaeth, Materion Domestig a Thwf Rhanbarthol, gan gynnwys y pedair Fargen Ddinesig a Thwf yng Nghymru.
Yn flaenorol, roedd Huw yn Ddirprwy Gyfarwyddwr Polisi Cyfansoddiadol a Chyflawni yng Nghymru yng Nghyfarwyddiaeth yr Undeb a Datganoli yn yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau. Cyn hynny, roedd yn Bennaeth Busnes Cymru yn Llywodraeth Cymru.
Yn gynharach yn ei yrfa, treuliodd Huw gyfnodau yn gweithio yn y sectorau preifat ac elusennol fel ymgynghorydd polisi i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.