Cyfarwyddwr Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cyrmu

Glynne Jones CBE

Bywgraffiad

Mae Glynne Jones wedi bod yn was sifil drwy gydol ei yrfa ac wedi gweithio ochr yn ochr â Gweinidogion ers bron i 20 mlynedd. Mae wedi bod yn Gyfarwyddwr Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru ers mis Ionawr 2013, gan helpu i gyflawni rhai o gerrig milltir datganoli yng Nghymru, gan gynnwys Deddf Llywodraeth Cymru 2006, y refferendwm ar bwerau cryfach yn 2011, sefydlu Comisiwn Silk yn yr un flwyddyn, Cytundeb Dydd Gŵyl Dewi yn 2015 a Deddfau Cymru 2014 a 2017. Ymunodd â’r adran ym mis Tachwedd 2005 ac mae wedi bod mewn amrywiaeth o swyddi uwch gan gynnwys Prif Ysgrifennydd Preifat, Dirprwy Gyfarwyddwr Strategaeth a Chyfansoddiad a Dirprwy Gyfarwyddwr Polisi.

Cyn symud i Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru, roedd Glynne yn dal nifer o swyddi yn Whitehall, gan gynnwys Prif Ysgrifennydd Preifat i Arweinwyr olynol Tŷ’r Cyffredin (Robin Cook, John Reid, Peter Hain a Geoff Hoon) a swyddi Swyddfa’r Cabinet mewn meysydd megis moderneiddio gwasanaethau cyhoeddus a lleihau biwrocratiaeth yn y sector cyhoeddus.

Dyfarnwyd CBE i Glynne am wasanaeth cyhoeddus yn 2019.

Cyfarwyddwr Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cyrmu

Cyfarwyddwr Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cyrmuu sy’n atebol am berfformiad yr adran drwyddi draw.

Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru