Prif Swyddog Pobl

Esther Wallington

Bywgraffiad

Cyn dechrau yn ei swydd bresennol gyda Chyllid a Thollau EF ym mis Rhagfyr 2016, roedd Esther yn Gyfarwyddwr AD yn y Weinyddiaeth Amddiffyn, lle bu’n arwain y swyddogaeth Adnoddau Dynol (AD) ar gyfer gweithlu sifilaidd yr Adran o 58,000.

Mae Esther yn weithiwr AD proffesiynol gyda mwy na 15 mlynedd o brofiad yn y sectorau preifat a chyhoeddus, ymunodd â’r Gwasanaeth Sifil ddeng mlynedd yn ôl, lle bu’n gweithio gyntaf ar adolygiadau gallu, rheoli talent y 200 gorau a chynllunio ar gyfer olyniaeth yn Swyddfa’r Cabinet. Symudodd i’r Weinyddiaeth Amddiffyn yn 2011 fel Pennaeth Strategaeth AD, cyn dod yn Gyfarwyddwr AD ym mis Medi 2014.

Prif Swyddog Pobl

Mae’r Prif Swyddog Pobl yn gyfrifol am redeg y Gymuned AD yn effeithiol ac yn effeithlon yng Nghyllid a Thollau EM. Mae’r Gymuned AD yn atebol am y gallu i reoli a neilltuo pobl ar draws CThEF, ac mae’n goruchwylio’r gwaith o ddarparu gwasanaethau AD. Maent yn atebol am ddatblygu Strategaeth Pobl a Brand y Cyflogwr ar gyfer CThEF, yn ogystal â darparu gwasanaeth dylunio sefydliad arbenigol.

Mae’r Prif Swyddog Pobl hefyd yn atebol am rôl CThEF fel sefydliad corfforaethol cyfrifol; ac am lywodraethu a chyflawni gweithgareddau dysgu a thalent CThEF.

Cyllid a Thollau EF