Aelod Anweithredol o'r Bwrdd

Elliot Jordan

Bywgraffiad

Prif Swyddog Ariannol ac aelod o Fwrdd Gweithredol Farfetch yw Elliot. Ymunodd â Farfetch yn Ionawr 2015 ac mae’n gyfrifol am dimau ariannol, cyfreithiol, strategaeth ac adnoddau dynol y cwmni ar draws gweithrediadau byd-eang Farfetch. Arweiniodd Elliot a’i dîm gynnig cyhoeddus cychwynnol Farfetch ar gyfnewidfa stoc Efrog Newydd ym Medi 2018, gan roi hwb i’r busnes ar gam nesaf ei daith. Fel model rôl balch, Elliot yw noddwr gweithredol Amrywiaeth a Chynhwysiant Farfetch ac mae’n hyrwyddo’r sgwrs ar gynnwys y gymuned a datblygiad proffesiynol parhaus. Fe’i penodwyd yn Aelod Anweithredol yng Nghofrestrfa Tir EM ar 15 Awst 2019.

Cyn ymuno â Farfetch, Elliot oedd Cyfarwyddwr Cyllid ASOS plc ac roedd ganddo sawl swydd ariannol uwch yn J Sainsbury plc. Cyn ymuno â’r diwydiant manwerthu, bu Elliot yn gweithio yn Credit Suisse yn Llundain a KPMG yn Auckland.

Mae’n raddedig o Brifysgol Waikato yn Seland Newydd, ac mae’n gyfrifydd siartredig cymwysedig gyda Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Seland Newydd.

Aelod Anweithredol o'r Bwrdd

Mae Aelod Anweithredol o’r Bwrdd yn gyfrifol am herio’n adeiladol, a darparu arweiniad a chymorth i’r Bwrdd Gweithredol.

Cofrestrfa Tir EF