Ed Westhead
Bywgraffiad
Ar hyn o bryd mae Ed Westhead yn aelod anweithredol o fwrdd Cofrestrfa Tir EM. Cyn hynny, roedd yn aelod anweithredol o fwrdd Tŷ’r Cwmnïau.
Cyn ymuno â’r Weithrediaeth Cyfranddalwyr (UKGI bellach) yn 2015, treuliodd Ed dair blynedd ar ddeg mewn cyllid corfforaethol gyda Macquarie yn Sydney a Llundain, gan gynghori ar M&A, codi cyfalaf a buddsoddi mewn ecwiti preifat, yn bennaf yn y sector gwasanaethau ariannol. Cyn Macquarie, bu Ed yn gweithio i BAE Systems, yn y lle cyntaf fel peiriannydd awyrennol gyda BAe Airbus ym Mryste ac yna mewn rolau datblygu corfforaethol/M&A yn y brif swyddfa gorfforaethol ac ar gyfer gweithrediadau BAe yn Awstralia.
Rolau blaenorol yn y llywodraeth
-
Aelod Anweithredol o'r Bwrdd
-
Aelod o’r Prif Fwrdd, y Pwyllgor Archwilio a’r Pwyllgor Cydnabyddiaeth Ariannol