Diana Breeze

Bywgraffiad

Mae Diana Breeze yn Gyfarwyddwr Grŵp Adnoddau Dynol ar gyfer Bunzl PLC, y grŵp dosbarthu a chontractau allanol byd-eang. Mae’n aelod o’i Bwyllgor Gweithredol ac yn mynychu’r Pwyllgorau Tâl ac Enwebiadau. Cyn hynny, roedd yn Gyfarwyddwr AD y Grŵp ar gyfer Land Securities Group, datblygwr eiddo masnachol y DU, a bu ganddi uwch rolau AD yn Sainsbury’s. Yn gynharach yn ei gyrfa, pan oedd yn ymgynghori gydag Accenture, arbenigodd Diana mewn dylunio a datblygu sefydliadol. Dechreuodd ei gyrfa ar raglen raddedigion Partneriaeth John Lewis.

Mae gan Diana radd mewn Hanes Modern o Brifysgol Rhydychen a gradd Meistr mewn Cysylltiadau Diwydiannol a Rheoli Personél o Ysgol Economeg Llundain. Mae’n Gymrawd Siartredig Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu.

Rolau blaenorol yn y llywodraeth

  • Aelod Anweithredol o'r Bwrdd