Deborah McLaughlin

Bywgraffiad
Ymunodd Deborah McLaughlin â Chofrestrfa Tir EF fel Cyfarwyddwr Anweithredol yn Chwefror 2025, ac mae’n gwasanaethu fel Cadeirydd y Pwyllgor Cwsmeriaid a Newid. Mae’n gwasanaethu fel Cadeirydd Parth Datblygu Maerol Ashton hefyd.
Ym Mai 2025, penodwyd Deborah yn Gomisiynydd Llywodraeth Leol yng Nghyngor Spelthorne ac yn Arweinydd Adfywio a Thai, ar ôl bod yn aelod o Dîm Arolygu Gwerth Gorau Cyngor Spelthorne yn Surrey. Yn fwy diweddar, penodwyd Deborah hefyd yn Gomisiynydd Llywodraeth Leol yng Nghyngor Woking cyn yr ad-drefnu llywodraeth leol. Cyn hynny, treuliodd dair blynedd fel Comisiynydd Llywodraeth Leol, gan ganolbwyntio ar eiddo ac adfywio yng Nghyngor Dinas Lerpwl.
Bu gan Deborah nifer o uwch rolau gweithredol, gan gynnwys Cyfarwyddwr Gweithredol yn Homes England, Rheolwr Gyfarwyddwr Eiddo Tirol yn Capita a Chyfarwyddwr Tai yng Nghyngor Dinas Manceinion.
Aelod Anweithredol o'r Bwrdd
Mae Aelod Anweithredol o’r Bwrdd yn gyfrifol am herio’n adeiladol, a darparu arweiniad a chymorth i’r Bwrdd Gweithredol.