Skip to main content
Cyfarwyddwr Masnachol

Darren Thompson

Bywgraffiad

Dychwelodd Darren i DVLA yn 2023 fel Cyfarwyddwr Masnachol.

Addysg

Mae gan Darren radd mewn Economeg a Meistr mewn Gweinyddu Busnes (MBA) o Brifysgol Abertawe. Cafodd ei ethol yn Gymrawd y Sefydliad Siartredig Prynu a Chyflenwi (CIPS) yn 2022.

Gyrfa

Mae Darren wedi adeiladu ei yrfa yn y sector cyhoeddus a’r proffesiwn masnachol. Yn 2013, datblygodd ac ymsefydlodd broses sicrhau caffael yn yr Adran Drafnidiaeth (DfT) a’i hasiantaethau. Mae wedi cyflawni sawl caffaeliad proffil uchel gan ddefnyddio deialog gystadleuol a gweithdrefnau negodi, gan gyflawni arbedion sylweddol a chefnogi ffyrdd digidol newydd o weithio.

Yn fwy diweddar, roedd Darren yn rhan o uwch dîm Gwasanaeth Masnachol y Goron yn arwain y tîm Caffael Cynorthwyol. Mae’r tîm hwn yn ymgymryd â chaffael ar ran cwsmeriaid y sector cyhoeddus ar draws mwy nag 80 o gytundebau masnachol. Maent yn cyflawni lefelau uchel o foddhad cwsmeriaid.

Yn ystod y pandemig COVID-19, cefnogodd timau Darren yr Adran Iechyd ac Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU, gan ddyfarnu mwy na 300 o gontractau yn y categorïau rheoli cyfleusterau, technoleg, logisteg, canolfannau cyswllt ac ymgynghori.

Cyfarwyddwr Masnachol

Mae’r Cyfarwyddwr Masnachol yn darparu arweinyddiaeth fasnachol, caffael a datblygu busnes ar lefelau strategol a gweithrediadol. Mae’n gweithio i leihau costau nad yw’n gysylltiedig â staff ac yn nodi cyfleoedd i farchnata a datblygu gwasanaethau DVLA.

Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau

Rolau blaenorol yn y llywodraeth

  • Cyfarwyddwr Masnachol Dros Dro