Dirprwy Gyfarwyddwr, Cyfathrebu

Dafydd Jones

Bywgraffiad

Ymunodd Dafydd â Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru ym mis Ionawr 2021. Dafydd sy’n arwain y tîm cyfathrebu, gan oruchwylio pob agwedd ar gysylltiadau â’r cyfryngau, cyfryngau digidol a chymdeithasol, ymgysylltu â rhanddeiliaid yn ogystal â digwyddiadau ac ymweliadau.

Gyrfa

Cyn symud i Swyddfa Cymru, treuliodd Dafydd 15 mlynedd yn gweithio i amrywiaeth eang o allfeydd cyfryngau gan gynnwys y BBC, ITV a radio masnachol.

Dirprwy Gyfarwyddwr, Cyfathrebu

Mae’r Dirprwy Gyfarwyddwr, Cyfathrebu yn arwain tîm cyfathrebu Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru ac yn cefnogi’r Ysgrifennydd Gwladol a gweinidogion.

Rôl Bwrdd Rheoli Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru yw:

• darparu arweiniad effeithiol ac ar y cyd i Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru a phennu ei chyfeiriad corfforaethol a’i safonau galluogrwydd, yn seiliedig ar nodau, amcanion a blaenoriaethau Gweinidogion Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru • goruchwylio’r modd y caiff amcanion a blaenoriaethau’r gweinidogion eu cyflawni, fel y maent wedi’u pennu yn y cynllun busnes, a rheoli’r risgiau allweddol cysylltiedig • sicrhau bod asedau ac adnoddau ariannol Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn cael eu rheoli’n ddoeth ac yn effeithiol • cytuno a chynnal system dryloyw a chadarn o ran rheolau mewnol • arwain a goruchwylio’r broses o newid ac arbedion effeithlonrwydd • arwain y broses o reoli a datblygu gweision sifil Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar y cyd

Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru