Clare Dinnis

Bywgraffiad
Ymunodd Clare â’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) ym mis Medi 2026. Fel Cyfarwyddwr Gwydnwch Systemau, mae hi’n arwain ein gwaith ar draws y system fwyd i reoli risgiau i ddiogelwch a dilysrwydd bwyd. Mae cydweithio ac ymgysylltu â rhanddeiliaid a phartneriaid ar draws y system fwyd yn ganolog i hyn, gan sicrhau ein bod ni’n deall risg, yn rhannu gwybodaeth ac yn rheoli digwyddiadau pan fyddant yn codi.
Bu Clare yn gweithio yn WWT – yr elusen gwlyptiroedd, lle bu’n Gyfarwyddwr Cadwraeth Gwlyptiroedd, gan oruchwylio gwaith ymchwil a chadwraeth gwlyptiroedd yn y DU ac yn rhyngwladol.
Cyn hyn, roedd Clare yn gweithio yn Asiantaeth yr Amgylchedd lle bu’n dal sawl rôl uwch ym meysydd rheoli digwyddiadau, adnoddau a safon dŵr, strategaeth risg llifogydd a rheoleiddio gwastraff. Yn y rolau hyn, gwnaeth hi feithrin partneriaethau rhwng sefydliadau sy’n gweithio ar draws systemau cymhleth i ddod â manteision i gymunedau a’r amgylchedd drwy ysgogi gwydnwch hinsoddol ac economaidd.