Chris Morson

Bywgraffiad

Ail-benodwyd Chris fel Cyfarwyddwr Anweithredol ac aelod o Bwyllgor Archwilio a Risg DVLA ym mis Chwefror 2023 am gyfnod dros dro i gyflenwi swydd wag ar y Bwrdd.

Addysg

Mae gan Chris BSc mewn Economeg a Chyfrifeg o Brifysgol Loughborough ac fe fynychodd raglen gyllid Ysgol Fusnes Llundain. Mae gan Chris MBA gyda rhagoriaeth o Cranfield, lle dyfarnwyd iddo’r wobr ‘Courage’ am berfformiad cyffredinol a’r wobr ‘Venture Capital’.

Mae Chris hefyd wedi cwblhau diploma Cyfarwyddwyr Anweithredol y Financial Times.

Gyrfa

Mae Chris wedi treulio llawer o’i yrfa weithredol mewn gwasanaethau ariannol. Yn fwyaf diweddar, mae wedi arbenigo mewn trawsnewid digidol ar raddfa, fel Rheolwr Gyfarwyddwr busnes digidol RBS/NatWest, ac yna yn Virgin Money. Cyn hynny, roedd ganddo rolau uwch fel Cyfarwyddwr Strategaeth, Rheolwr Gyfarwyddwr busnes cyllid defnyddwyr Ewropeaidd ac fel Cyfarwyddwr Gweithrediadau.

Yn gynharach yn ei yrfa, bu Chris yn gweithio fel ymgynghorydd rheoli gyda Price Waterhouse.

Fe’i penodwyd yn Gyfarwyddwr Anweithredol ac aelod o’r Pwyllgor Archwilio a Risg yn DVLA ym mis Tachwedd 2013 a’i ailbenodi ym mis Tachwedd 2016 i 2020. Cafodd ei ail-benodi yn Gyfarwyddwr Anweithredol ac aelod o Bwyllgor Archwilio a Risg DVLA ym mis Chwefror 2023 am gyfnod dros dro i gyflenwi swydd wag ar y Bwrdd.

Mae Chris hefyd yn Gyfarwyddwr Anweithredol ac yn gadeirydd Pwyllgor Archwilio yn y Rheoleiddiwr Pensiynau, ac mae hefyd yn Gyfarwyddwr Anweithredol yn Royal London Asset Management Ltd a RLAM Holdings Ltd.

Yn y gorffennol mae wedi gwasanaethu fel Cyfarwyddwr Anweithredol yn Gofrestrfa Tir EF o fis Ionawr 2018 ac mae wedi bod yn gadeirydd dros dro ar y Pwyllgor Archwilio ac yn aelod o’r Pwyllgor Cyflogau.

Cyn hynny, bu’n Gyfarwyddwr Anweithredol yn y Gwasanaeth Cynghori Ariannol, yn ogystal ag aelod o’r Pwyllgor Archwilio a Risg a’r Pwyllgor Enwebiadau.

Rolau blaenorol yn y llywodraeth

  • Cyfarwyddwr Anweithredol Interim
  • Aelod Anweithredol o'r Bwrdd
  • Aelod Anweithredol o’r Bwrdd