Cyfarwyddwr Anweithredol

Charmion Pears

Bywgraffiad

Penodwyd Charmion Pears yn Gyfarwyddwr Anweithredol y DVLA ym mis Chwefror 2024.

Addysg

Mae Charmion wedi bod yn gyfrifydd siartredig gyda Chyfrifwyr Siartredig Awstralia a Seland Newydd (CAANZ) ers 25 mlynedd. Mae ganddi radd Baglor mewn Masnach (BCom) o Brifysgol Auckland, Seland Newydd.

Gyrfa

Mae Charmion yn gyfarwyddwr anweithredol profiadol ac yn ymddiriedolwr gyda ffocws ar y sectorau cyhoeddus a gwirfoddol. Mae’n Gyfarwyddwr Anweithredol ac yn Gadeirydd Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg y Comisiwn Ansawdd Gofal (CQC) ac yn Aelod Annibynnol o Bwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE).

Mae rolau blaenorol yn cynnwys Cyfarwyddwr Anweithredol Corserv Ltd, Uwch Gyfarwyddwr Anweithredol Annibynnol Cwmni Gwastraff Bryste ac Ymddiriedolwr Blue Cross UK a Hosbis i Blant Demelza. Roedd gyrfa weithredol Charmion yn cynnwys rolau arwain mewn cynllunio strategol ac arloesi yn y diwydiant awyrennau a’r gwasanaethau ariannol.

Cyfarwyddwr Anweithredol

Yn gyfrifol am gyflwyno syniadau ac yn darparu cyngor, o’i brofiad yn y byd busnes ehangach ac o’i safbwynt ef fel dinesydd preifat.

Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau