Charlotte Moar
Bywgraffiad
Ymunodd Charlotte Moar â Chyllid a Thollau EF fel Cyfarwyddwr Anweithredol ar y Pwyllgor Archwilio a Risg ym mis Medi 2024. Mae Charlotte yn gyfrifydd cymwysedig ac yn Gymrawd Sefydliad Siartredig y Cyfrifwyr Rheoli.
Bu Charlotte yn gweithio fel Cyfarwyddwr Cyllid a Dirprwy Brif Weithredwr yn Ymddiriedolaethau’r GIG a sefydliadau comisiynu am dros 20 mlynedd. Roedd ganddi gyfrifoldeb gweithredol dros gynllunio ariannol a rheoli cyllidebau o fwy na £1 biliwn, cyfrifoldeb am brosiectau ystadau, cyfleusterau a chyfalaf, yn ogystal â llywodraethu gwybodaeth a digidol, cynllunio a pherfformiad.
Yn fwy diweddar, bu’n gweithio i GIG Lloegr, gan gydweithio’n agos â’r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol i ddatblygu polisi gofal iechyd parhaus ac, o ganlyniad i’r gwaith hwnnw, cynllunio cyfalaf.
Mae Charlotte bellach yn canolbwyntio ar ei rolau fel ymddiriedolwr a Chyfarwyddwr Anweithredol. Mae hi’n Gyfarwyddwr Anweithredol ac yn Gadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Risg yn y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr.
Mae hi hefyd yn aelod o Gomisiwn Tŷ’r Arglwyddi ac yn cadeirio’r Pwyllgor Archwilio a Risg. Mae hi’n aelod annibynnol ar Bwyllgorau Archwilio a Risg yr Adran Addysg, Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, Cymdeithas y Gyfraith a’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.
Yn flaenorol, roedd Charlotte yn Gyfarwyddwr Anweithredol ac yn Gadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Risg yn NHS Resolution, yn aelod o gyngor Prifysgol Caerfaddon, ac yn ymddiriedolwr Comic Relief.
Mae gan Charlotte radd MA o Brifysgol Caergrawnt, lle’r oedd ganddi ysgoloriaeth chwarae’r organ. Drwy gydol ei gyrfa, mae Charlotte wedi dangos diddordeb penodol yn y modd y gall gwasanaethau cyhoeddus sicrhau eu bod yn effeithlon ac yn canolbwyntio ar anghenion y cwsmer.
Non-Executive Director
Non-Executive Directors bring external experience and expertise to the department, playing an important role in providing advice, challenge and scrutiny to the work of the Executive Committee and the department more widely, both within and outside of formal Board and sub-committee meetings.
Non-Executives contribute their expertise outside the formal Board and subcommittee structures — for example, working closely with executives on specific initiatives, mentoring and undertaking in-depth examinations of risk.
Non-Executive Directors also support the effectiveness of programme boards for HMRC’s most significant transformation programmes.