Aelod Anweithredol o'r Bwrdd

Caroline Crowther and Charlotte Spencer

Bywgraffiad

Ymunodd Caroline a Charlotte â Chofrestrfa Tir EF fel Aelodau Anweithredol o’r Bwrdd yn Ebrill 2025, gan gynrychioli adran nawdd Cofrestrfa Tir EF, sef y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol. Maent yn gwasanaethu fel Cyfarwyddwyr (Rhannu Swydd) ar gyfer Lesddaliad, Rhentu Preifat a Digidol yn y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol. Mae’r rôl hon yn cynnwys cyfrifoldeb uwch swyddog ar gyfer rhaglen gynllunio Digidol Portffolio Prosiectau Mawr y Llywodraeth ac uwch noddwr y Gwasanaeth Cynghori ar Lesddaliad. Ymunodd Caroline a Charlotte â’r Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol yn 2020 a buont yn gweithio’n flaenorol fel Cyfarwyddwyr Strategaeth yn Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig. Maent wedi bod yn bartneriaid rhannu swydd er 2016.

Mae Caroline yn was sifil profiadol gyda hanes profedig o weithio mewn gweinyddiaeth lywodraethol ers dros 20 mlynedd. Mae wedi goruchwylio ystod eang o waith yn ystod y cyfnod hwn, gan ymgymryd â rolau o fewn y Swyddfa Gartref a’r Adran Gwaith a Phensiynau. Mae ei harbenigedd eang yn ymestyn ar draws y llywodraeth, gyda chyfranogiad uniongyrchol mewn polisi cyflogaeth a lles, cynhaliaeth plant, cymorth cyfreithiol ac, wrth gwrs, tai. Mae ganddi hanes cryf o gyflawni ar faterion cymhleth mewn cyd-destunau sy’n newid yn gyflym: polisi cyhoeddus, economeg, gweithredol, a strategaeth.

Mae Charlotte yn was sifil profiadol gyda hanes profedig o weinyddiaeth y llywodraeth er 2005, ar ôl gweithio yn y sector preifat yn flaenorol. Mae Charlotte wedi arwain ystod eang o waith polisi a chyflawni yn ystod y cyfnod hwn, gan gynnwys yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder, yr Adran Gwaith a Phensiynau, yr Adran Iechyd, Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig a Swyddfa’r Cabinet, ac ar ddeddfwriaeth.

Aelod Anweithredol o'r Bwrdd

Mae Aelod Anweithredol o’r Bwrdd yn gyfrifol am herio’n adeiladol, a darparu arweiniad a chymorth i’r Bwrdd Gweithredol.

Comisiynydd Asedau Segur

Cofrestrfa Tir EF