Becky Bishop

Bywgraffiad
Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol Dros Dro Cofrestrfa Tir EF yw Becky Bishop.
Wedi ei phenodi i’r sefydliad yn Ebrill 2025, mae gan Becky dros dair degawd o brofiad mewn adnoddau dynol, datblygu sefydliadol, a thrawsnewid strategol ar draws y sectorau cyhoeddus, preifat ac addysg. Mae wedi dal rolau arweinyddiaeth dros dro uwch mewn sefydliadau sy’n mynd trwy newid sylweddol, gan gynnwys dnata Catering UK, Awdurdod Cyfunol Maerol De Swydd Efrog, a’r Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd.
Mae Becky yn arbenigo mewn dylunio a chyflwyno modelau Gwasanaethau Pobl sy’n gwella perfformiad busnesau yn ogystal â phrofiad gweithwyr. Mae ei harweinyddiaeth wedi bod yn allweddol mewn prosiectau trawsnewid mawr hefyd, yn fwyaf nodedig mewn rôl dros dro mewn addysg uwch yn Goldsmiths, Prifysgol Llundain.
Cyn ei phortffolio dros dro, gweithiodd Becky fel Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol Grŵp yn LTE Group, gan oruchwylio swyddogaethau Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol ar gyfer gweithlu o dros 4,000. Mae rolau cynharach yn cynnwys Cyfarwyddwr Cynorthwyol yng Nghyngor Kirklees, Rheolwr Adnoddau Dynol yn Univar, a swyddi Darlithydd yng Ngholegau Barnsley a Tameside. Dechreuodd ei gyrfa fel Cynrychiolydd Gwerthu Meddygol gyda Pfizer.
Mae Becky yn adnabyddus am ei dirnadaeth strategol, ei hymgysylltiad â rhanddeiliaid, a’i hymrwymiad i foderneiddio arferion Adnoddau Dynol i ddiwallu anghenion sefydliadol sy’n esblygu.
Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol
Mae’r Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol Dros Dro yn gyfrifol am ddatblygu a gweithredu ‘strategaeth pobl’ y sefydliad.