Ashok Ahir

Bywgraffiad

Ymunodd Ashok â Llywodraeth y DU yng Nghymru ym mis Gorffennaf 2018 fel Cyfarwyddwr Cyfathrebu.

Cyn ymuno â Llywodraeth y DU, rhedodd Ashok gwmni cyfathrebu dwyieithog llwyddiannus yng Nghaerdydd. Cyn hyn bu’n gweithio i’r BBC fel newyddiadurwr, golygydd a chynhyrchydd rhaglenni yn Llundain a Chaerdydd. Am fwy na degawd, bu’n gyfrifol am dîm gwleidyddol BBC Cymru yn goruwchwylio darllediadau gwleidyddiaeth Cymru ar y teledu, radio a gwasanaethau digidol.

Rolau blaenorol yn y llywodraeth

  • Dirprwy Gyfarwyddwr, Cyfathrebu