Aelod Anweithredol o'r Bwrdd

Ann Henshaw

Bywgraffiad

Uwch Aelod Annibynnol Anweithredol Bwrdd CTEF yw Ann Henshaw.

Mae Ann wedi gweithio’n helaeth ym maes adnoddau dynol ac wedi arwain busnes trawsnewid ac ymgynghori ers dros 20 mlynedd. Mae ei phrofiad yn cwmpasu sawl sector – yn y DU ac yn rhyngwladol. Bu Ann yn Gyfarwyddwr AD British Land, ac mae rolau blaenorol eraill yn cynnwys Cyfarwyddwr AD Grŵp yn Clear Channel International a Chyfarwyddwr AD yn EDF Energy. Mae wedi gweithio i Vodafone, BUPA, JP Morgan Chase ac Equinix yn ystod ei gyrfa hefyd.

Mynychodd Ann Brifysgol Nottingham ac Ysgol Economeg Llundain, ac mae wedi bod yn Ymddiriedolwr Student Minds, yr elusen iechyd meddwl genedlaethol i fyfyrwyr hefyd.

Mae Ann yn Gadeirydd Cerddorfa Symffoni Basingstoke ar hyn o bryd.

Aelod Anweithredol o'r Bwrdd

Mae Aelod Anweithredol o’r Bwrdd yn gyfrifol am herio’n adeiladol, a darparu arweiniad a chymorth i’r Bwrdd Gweithredol.

Cofrestrfa Tir EF