Non-Executive Director for the Defence Audit and Risk Assurance Committee

Alison White

Bywgraffiad

Mae Alison yn Gyfarwyddwr Anweithredol a Chadeirydd profiadol, sy’n gweithio gydag amrywiaeth o sefydliadau sector cyhoeddus sy’n mynd drwy broses drawsnewid neu addasu.

Mae ei chefndir gweithredol ym myd busnes: ar ôl cymhwyso fel cyfrifydd a chael gradd Meistr mewn Gweinyddu Busnes (MBA), arweiniodd weithrediadau a busnes masnachol ar gyfer Grŵp y Post Brenhinol ac yna am y pum mlynedd nesaf, amrywiaeth o fusnesau yr oedd angen eu gweddnewid fel Prif Weithredwr dros dro.

Erbyn hyn mae gan Alison bortffolio o benodiadau cyhoeddus, gan gynnwys ei rôl fel Cyfarwyddwr Anweithredol Arweiniol ar gyfer Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru, a chadeirio pedwar Pwyllgor Archwilio mewn meysydd amrywiol o wasanaethau cyhoeddus, lle mae’n cyfuno sgiliau strategol, ariannol a masnachol cryf, gydag arbenigedd proffesiynol mewn llywodraethu corfforaethol, rheoli risg, ymgysylltu â rhanddeiliaid, atebolrwydd y Bwrdd, rheoleiddio cymesur a thrawsnewid perfformiad sefydliadol.

Darllenwch fwy am benodiadau cyhoeddus Alison.

Non-Executive Director for the Defence Audit and Risk Assurance Committee

Non-Executive Directors provide independent scrutiny for departments, supporting them in maintaining good governance and providing advice on policy matters and cross-government initiatives.

Rolau blaenorol yn y llywodraeth

  • Non-executive Director
  • Prif Gyfarwyddwr Anweithredol