Cynllun cyhoeddi

Mae gan bob adran y llywodraeth gynllun cyhoeddi, sy’n darparu gwybodaeth i’r cyhoedd am sut mae’n gweithredu ac yn gwario ei chyllideb.


Mae’n ofynnol yn ôl y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, fod adrannau’r llywodraeth a chyrff cyhoeddus eraill yn sicrhau bod cymaint o wybodaeth â phosib ar gael i’r cyhoedd.

Dan y ddeddf, mae’n rhaid i ni gael cynllun cyhoeddi sy’n dweud wrthych pa wybodaeth sydd ar gael gennym yn rheolaidd.

Mae’r cynllun cyhoeddi yn nodi’r categorïau (neu ‘ddosbarthiadau’) o wybodaeth rydym yn eu cyhoeddi ac yn esbonio sut mae cael gafael ar y wybodaeth honno.

Nid oes rhaid i chi wneud cais Rhyddid Gwybodaeth am y wybodaeth a restrir isod; mae ar gael am ddim ar y wefan hon.

Pwy ydym ni a beth rydym ni’n ei wneud

Mae’r dosbarth gwybodaeth hwn yn cynnwys manylion:

Faint rydym ni’n ei wario a sut rydym ni’n gwneud hynny

Mae’r dosbarth hwn yn cynnwys manylion:

Sut rydym ni’n gwneud penderfyniadau

Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am:

  • contractau a thendrau (data tryloywder)

Beth yw ein blaenoriaethau a sut hwyl rydym ni’n ei gael

Mae hyn yn cynnwys:

Ein polisïau a’n gweithdrefnau

Mae hyn yn cynnwys:

Ein hymrwymiadau

Mae’n ofynnol yn ôl Adran 19 Deddf Rhyddid Gwybodaeth, fod Swyddfa Cymru yn mabwysiadu ac yn cynnal cynllun cyhoeddi, er mwyn sicrhau bod gwybodaeth ar gael i’r cyhoedd yn rheolaidd.

Rhaid i’r cynllun cyhoeddi nodi:

  • y wybodaeth y byddwn yn ei chyhoeddi’n rheolaidd
  • sut bydd y wybodaeth honno yn cael ei chyhoeddi
  • a fydd y wybodaeth ar gael yn ddi-dâl neu am ffi

Yn gyffredinol, ni fyddwn yn cyhoeddi gwybodaeth:

  • sydd wedi’i diogelu rhag cael ei datgelu
  • sydd ar ffurf drafft
  • nad yw ar gael yn hwylus bellach

Mae cynllun cyhoeddi enghreifftiol Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) wedi’i ddatblygu i annog mwy o onestrwydd a thryloywder, codi ymwybyddiaeth a gwella cyhoeddi yn rhagweithiol. Mae gwybodaeth am y cynllun cyhoeddi enghreifftiol ar gael ar wefan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.