Ymchwil yn IPO
Rydym yn cynnal ac yn comisiynu ymchwil sy'n ymwneud ag eiddo deallusol, ceisiadau am batentau, nodau masnach a hawlfraint.
Mae ein rhaglen ymchwil yn anelu at ein helpu i ddatblygu polisi sydd wedi’i lywio gan dystiolaeth, ac i’n helpu i ddeall anghenion defnyddwyr gwasanaethau.
Ymchwil ac ystadegau
Mae rhestr lawn o holl ymchwil cyhoeddedig yr IPO ar gael.
Blaenoriaethau dadansoddi’r Swyddfa Eiddo Deallusol
Ers 2010, mae tîm Economeg, Ymchwil a Thystiolaeth (ERE) yn y Swyddfa Eiddo Deallusol (IPO) wedi cyhoeddi dros 100 o adroddiadau ymchwil. Yn cynnwys arbenigwyr blaenllaw o’r DU ac o bob cwr o’r byd. Mae’r tîm ymroddedig hwn o economegwyr, ymchwilwyr a dadansoddwyr yn gweithio i:
-
lunio data ar rôl Eiddo Deallusol (IP) yn economi’r DU
-
gysylltu data IP â data busnes er mwyn deall cymhellion ac effeithiau yn well
-
mynd i’r afael â’r bylchau mewn tystiolaeth empirig, ac asesu effaith y prif flaenoriaethau polisi ar gyfer yr IPO
Gwerthuso
Rydym wedi ymrwymo i werthuso ein polisïau er mwyn dangos effaith. Mae ein [Atodiad Mewnol:1] yn amlinellu’r egwyddorion rydym yn eu cymhwyso wrth benderfynu sut i gynllunio a chynnal ein prosiectau gwerthuso.
Ymchwil ac adroddiadau ar orfodi a thorri rheolau
Casgliad o ymchwil cyhoeddiadau ac adroddiadau sy’n ymwneud â gorfodi hawliau eiddo deallusol a thorri’r hawliau hynny.
Ffeithiau a ffigurau: patentau, nodau masnach, dyluniadau a gwrandawiadau: 2025
Mae’r ystadegau yn yr adroddiad hwn yn darparu gwybodaeth ffeithiol sy’n ymwneud â cheisiadau a chofrestriadau hawliau eiddo deallusol yn ystod 2025.
Cysylltu â’r tîm ymchwil
Am fwy o wybodaeth am ymchwil yr IPO, anfonwch e-bost at research@ipo.gov.uk.
I dendro ar gyfer gwaith ymchwil yr IPO, cysylltwch â’n tîm ar procurement@ipo.gov.uk.