Skip to main content

Ein defnydd o ynni - Intellectual Property Office

Manylion am ddefnydd ynni’r Swyddfa Eiddo Deallusol yn ein holl adeiladau, a’n gwaith i leihau gwastraff.


Adran 6 Dyletswydd Bioamrywiaeth a Gwydnwch Ecosystemau o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016

Adran 6 Dyletswydd Bioamrywiaeth a Gwydnwch Ecosystemau o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (ODT, 39.9 KB)

Ein Polisi Amgylcheddol

Mae’r Swyddfa Eiddo Deallusol (IPO) yn cydnabod y gall ein gweithgareddau a’n gwasanaethau gael effaith gadarnhaol a negyddol ar newid hinsawdd, natur ac ecosystemau, yn lleol ac yn fyd-eang. Mae ein polisi amgylcheddol yn ymdrin â sut rydym yn rheoli risgiau, effeithiau a chyfrifoldebau amgylcheddol. Rydym wedi ymrwymo i welliant parhaus a datblygu cynaliadwy.

Byddwn yn llunio ein diwylliant amgylcheddol, drwy gyflawni ein rhwymedigaethau cydymffurfio amgylcheddol, a byddwn yn anelu at leihau effaith ein gweithrediadau ar yr amgylchedd naturiol er mwyn sicrhau’r gwelliant amgylcheddol mwyaf posibl a’i wella. Er mwyn atal llygredd a lleihau risg amgylcheddol byddwn yn:

  • parhau â’n taith tuag at sero net o ran carbon, a gosod targed ar gyfer pryd y gall yr IPO ddod yn niwtral o ran carbon

  • gweithio i ddileu gwastraff tirlenwi drwy ddilyn hierarchaeth gwastraff

  • prynu mewn modd sy’n gyfrifol yn amgylcheddol

  • ystyried yr effaith ar yr amgylchedd mewn unrhyw weithgareddau a wnawn gan ategu’r uchelgais o fod y Swyddfa IP orau gyda gwerthoedd ac ymddygiadau a rennir

  • anelu at leihau effaith teithio yn ddomestig, yn rhyngwladol ac wrth deithio i’r gwaith

  • gwella a chadwraethu bioamrywiaeth ac ecosystemau ar ein hystâd

  • lleihau ein defnydd o adnoddau cyfyngedig

  • addysgu, hyfforddi a chymell gweithwyr i gyflawni tasgau mewn modd sy’n gyfrifol yn amgylcheddol; annog pob gweithiwr i leihau’r effeithiau amgylcheddol sy’n gysylltiedig â’u gwaith, a’u hannog i ddod yn llythrennog o ran carbon

  • parhau i hyrwyddo ac annog cyfranogiad y swyddfa mewn mentrau lleol cynaliadwy drwy ein rhaglen cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol.

  • bodloni’r holl rwymedigaethau a gofynion cydymffurfio perthnasol

  • dyrannu adnoddau priodol a rhoi digon o gyfrifoldeb i reolwyr weithredu’r polisi hwn

  • rheoli ein risgiau a’n cyfleoedd amgylcheddol drwy system rheoli amgylcheddol (EMS) sydd wedi’i hardystio yn unol â’r safon ryngwladol ISO 14001:2015. Mae cwmpas EMS yr IPO yn cynnwys ein gweithrediadau yn Concept House a’n cyfleuster archif yn Nine Mile Point

  • gosod a chyflawni amcanion a thargedau amgylcheddol, ac asesu a gwella effeithiolrwydd ein system rheoli amgylcheddol yn barhaus

  • sicrhau bod effaith amgylcheddol yn cael ei nodi’n gynnar yn ystod prosesau newid a rheoli prosiectau, gan osod cyfeiriad hirdymor clir sy’n cynnig hyblygrwydd i addasu i ffyrdd newydd o weithio

  • darparu amgylchedd iach, hyblyg a chynaliadwy i’n pobl weithio ynddo

  • gwneud ein dogfennaeth amgylcheddol ar gael i bartïon sydd â diddordeb a rhanddeiliaid

  • nodi anghenion a disgwyliadau rhanddeiliaid, gan gynnwys llywodraethau’r DU a Chymru, o ran disgwyliadau a mentrau amgylcheddol er budd i’r ddwy ochr

  • gwneud y polisi hwn ar gael i’r holl staff a phartïon sydd â diddordeb drwy gyfryngau a gymeradwywyd gan y llywodraeth, a’i adolygu’n flynyddol

Adam Williams
Y Prif Weithredwr
13 Hydref 2026