Cynllun iaith Gymraeg

Mae Cynllun Iaith Gymraeg y Swyddfa Gartref yn berthnasol i'r Swyddfa Gartref yn ei chyfanrwydd a holl asiantaethau'r Swyddfa Gartref, a chyrff cyhoeddus.


Mae’r Swyddfa Gartref wedi mabwysiadu’r egwyddor y bydd, wrth gynnal busnes cyhoeddus yng Nghymru, yn trin y Gymraeg a’r Saesneg ar y sail eu bod yn gyfartal. Mae’r cynllun hwn yn nodi sut y mae’r Swyddfa Gartref, gan gynnwys ei hasiantaethau cysylltiedig a restrir, yn bwriadu cyflawni’r ymrwymiad hwn wrth ddarparu gwasanaethau i’r cyhoedd yng Nghymru.

Mae Cynllun Iaith Gymraeg y Swyddfa Gartref (PDF, 317 KB, 27 pages) yn berthnasol i’r Swyddfa Gartref yn ei chyfanrwydd a holl asiantaethau’r Swyddfa Gartref, a chyrff cyhoeddus, oni bai eu bod yn rhedeg eu Cynllun Iaith Gymraeg eu hunain.

Cymeradwyodd Comisiynydd y Gymraeg Gynllun Iaith Gymraeg diwygiedig y Swyddfa Gartref ar 28 Chwefror 2024.

Dywedodd Comisiynydd y Gymraeg, Efa Gruffudd Jones:

Mae’r Swyddfa Gartref yn adeiladu ar y seiliau a osodwyd eisoes o ran cynnig gwasanaethau Cymraeg i ddinasyddion Cymru. Rwy’n edrych ymlaen at weld y Cynllun Iaith yn cael ei weithredu a bod gan bobl gyfle i ddefnyddio’r Gymraeg wrth ymwneud â’r Swyddfa Gartref.

Os oes gennych chi unrhyw sylwadau ynglŷn â’r cynllun, neu’r deunydd a allai fod ar y wefan hon mewn perthynas â hynny, anfonwch e-bost at Cymraeg@homeoffice.gov.uk