Cynllun iaith Gymraeg
Wrth gynnal busnes cyhoeddus yng Nghymru, bydd Yr Asiantaeth Safonau Gyrru (DSA) yn ymdrin â’r ieithoedd Saesneg a Chymraeg yn gyfartal.
Datganiad o Egwyddor
Mae’r cynllun hwn yn cyflwyno sut y byddwn yn cynnal yr egwyddor hon wrth ddarparu gwasanaethau i’r cyhoedd yng Nghymru. Mae’r cynllun:
- yn defnyddio canllawiau a gyhoeddir gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg
- yn mynd i gael ei gyhoeddi a bydd ar gael i’n holl staff a’r cyhoedd
Ein cyfrifoldebau ac amcanion
Ein prif nod yw hyrwyddo diogelwch ar y ffyrdd ym Mhrydain Fawr trwy wella safonau gyrru ac yn arbennig trwy brofi gyrwyr (gan gynnwys reidwyr beiciau modur) a hyfforddwyr gyrru’n deg ac effeithlon.
Rydym yn gyfrifol am 3 o swyddogaethau statudol yr Ysgrifennydd Ggwladol:
- profion gyrru, gan gynnwys y prawf theori
- goruchwylio hyfforddwyr gyrru ceir
- y cynllun hyfforddiant sylfaenol gorfodol (CBT) ar gyfer reidwyr beiciau modur sy’n dysgu
Hefyd rydym yn gyfrifol am gynnal Rheolau’r Ffordd Fawr. Wrth ddilyn ein nodau, disgwylir inni gwrdd â’r amcanion canlynol:
- diogelwch ar y ffyrdd – i ddarparu canolfan ragoriaeth ar gyfer hyfforddi gyrwyr a safonau gyrru, gan sicrhau safonau uchel a chyson wrth asesu gyrwyr a hyfforddwyr gyrru ym Mhrydain Fawr
- gwasanaethau cwsmeriaid – i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel yn seiliedig ar ddealltwriaeth o anghenion cwsmeriaid, gan weithio’n agos gyda rhannau eraill y Llywodraeth i gyflawni gwasanaethau cydgysylltiedig
- datblygu staff – i sicrhau bod ein holl staff yn cael eu datblygu a hyfforddi gyda’r sgiliau sydd eu hangen i gyflawni ein hamcanion
- effeithlonrwydd – i wella’n barhaol effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd ein gweithrediadau yn unol â pholisi’r Llywodraeth ac arfer busnes gorau
- cyllid – i gyflawni’r ffi flynyddol trwy adennill costau
Cynllunio a chyflenwi gwasanaethau
Polisïau, deddfwriaeth a mentrau
Byddwn yn sicrhau, cyn belled ag y mae o fewn ein pŵer, na fydd deddfwriaeth a gweithdrefnau gweinyddol newydd rydym ni’n gyfrifol amdanynt, yn atal neu rwystro defnydd o’r iaith Gymraeg. Bydd ein polisïau yn gyson â’r cynllun heb ei danseilio.
Cyflenwi gwasanaethau
Byddwn yn cefnogi a chyflenwi gwasanaethau yn Gymraeg pryd bynnag mae’n bosibl. Bydd y Rheolwr Gweithrediadau Cwsmeriaid yn:
- sicrhau bod yr egwyddor o gydraddoldeb iaith yn cael ei hystyried a gweithredu ym mhob agwedd ar waith yr asiantaeth sy’n effeithio ar y cyhoedd yng Nghymru
- hysbysu staff a’r cyhoedd o’n hymrwymiad i gydraddoldeb iaith
- prif gyswllt cyntaf ar gyfer ymholiadau ynghylch y cynllun a’i weithredu
Bydd penaethiaid canghennau o fewn yr asiantaeth yn gyfrifol am sicrhau yr ystyrir darpariaethau’r cynllun yng ngwaith eu meysydd eu hunain.
Bydd profion yn Gymraeg ar gael ym mhob canolfan brawf theori ac ymarferol yng Nghymru, yn ogystal â’r rhai hynny y tu allan i Gymru y mae eu dalgylch yn cynnwys rhannau o
Gymru. Bydd safon ac ansawdd ein gwasanaethau’n gyson ledled Cymru.
Bydd y safonau rydym wedi’u sefydlu yn y cynllun hwn yn gweithredu i bob sefydliad arall sy’n cyflawni dyletswyddau statudol ar ein rhan.
Y Prawf Theori
Er y contractir trefnu a chyflenwi’r prawf theori yn genedlaethol, rydym yn cadw rheolaeth ar gynnal y casgliadau o gwestiynau yn Gymraeg a Saesneg. Lleolir naw canolfan brawf theori yng Nghymru.
Os bydd ymgeisydd yn dewis sefyll prawf theori yn Gymraeg ar adeg ei drefnu, mae cyflenwi yn Gymraeg yn awtomatig yn y ganolfan brawf.
Y Prawf Ymarferol
Lleolir saith canolfan brawf yng Ngogledd Cymru ac 21 yn Ne Cymru. Rydym yn monitro amseroedd aros am y prawf ymarferol ar sylfaen gyfun ar gyfer profion Cymraeg a Saesneg. Byddwn yn sicrhau y bydd arholwyr sy’n siarad Cymraeg mewn canolfannau prawf lle mae galw am brofion yn Gymraeg. Gall ymgeisydd ddewis ei iaith/hiaith ddewisach wrth drefnu’r prawf a gall e/hi fod yn hyderus y bydd arholwr y prawf ymarferol yn siarad Cymraeg.
Technoleg gwybodaeth a chyfathrebu
Mae ein cyfleusterau TG presennol yn cwrdd â’r gofynion i weithredu’r mesurau a gynhwysir yn y cynllun hwn. Byddwn yn sicrhau bod manylebau ar gyfer systemau newydd neu amnewidiol yn ystyried darpariaethau’r cynllun hwn er mwyn darparu gwybodaeth a gwasanaethau yn Gymraeg.
Cyfathrebu â’r cyhoedd sy’n siarad Cymraeg
Cyfathrebu ysgrifenedig
Rydym ni (a thrwy hynny ein contractwyr ac is-gontractwyr) yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg a Saesneg. Atebir gohebiaeth yn Gymraeg a Saesneg o fewn yr un amseroedd targed yn unol â’n safonau ynghylch gwasanaethau cwsmeriaid.
Os bydd cwsmer yn ysgrifennu inni yn Gymraeg byddwn yn ymateb yn Gymraeg oni bai fod y cwsmer yn datgan ei fod yn well ganddo Saesneg. Yn yr un ffordd, bydd gohebiaeth yn Gymraeg os yw’r cysylltiad geiriol yn Gymraeg, neu os yw’r cwsmer wedi datgan ei fod yn well ganddo Gymraeg.
Pan ddechreuwn ohebiaeth gydag unigolyn, grŵp neu sefydliad, byddwn yn gwneud hynny yn Gymraeg pan wyddom ei fod yn well ganddynt gyfathrebu yn Gymraeg. Bydd yr holl ohebiaeth a gyhoeddwn yn cynnwys llofnod electronig Cymraeg (neu ddwyieithog).
Cyfathrebu ar y ffôn
Rydym yn croesawu ymholiadau ar y ffôn yn Gymraeg neu Saesneg.
Mae rhif genedlaethol wahanol i gyrchu gweithredwyr sy’n siarad Cymraeg neu wasanaeth seiliedig ar gyfieithu. Bydd system Ymateb Llais Rhyngweithiol yn ymateb yn Gymraeg. Gall y galwr ddewis cyrchu’r llinell brawf theori neu’r llinell brawf ymarferol. Yna bydd y system yn trosglwyddo’r galwad i gynrychiolydd y gwasanaeth cwsmeriaid Cymraeg. Os nad ydynt ar gael, bydd y galwad yn mynd i siaradwr Saesneg a fydd yn gweithredu cyfieithiad byw trwy siaradwr Cymraeg yn y DVLA.
Cyfarfodydd cyhoeddus
Cylchredir gwahoddiadau a hysbysebion ar gyfer cyfarfodydd yng Nghymru yn Gymraeg a Saesneg.
Byddwn yn:
- rhoi gwybod i’r rheini sy’n mynychu cyfarfodydd cyhoeddus pan yw cyfleusterau cyfieithu ar gael gan annog cyfraniadau yn Gymraeg
- sicrhau, mewn cyfarfodydd fel Diwrnodau Agored yng Nghymru, y bydd aelodau staff ar gael sy’n gallu siarad Cymraeg a Saesneg i ddelio ag ymholiadau
Cyhoeddusrwydd a deunydd printiedig
Gweithgareddau hysbysebu a chyhoeddusrwydd
Rydym yn defnyddio hysbysebu i hysbysu’r cyhoedd a busnesau o amrediad eang o faterion cyfredol. Mae’r cyfryngau rydym yn eu defnyddio’n dibynnu ar natur yr ymgyrch, y gynulleidfa darged, amseru, neges a gwerth am arian.
Wrth gymryd rhan mewn unrhyw arddangosfa neu ddigwyddiad cyhoeddus yng Nghymru, byddwn yn sicrhau bod deunydd arddangos ar gyfer y cyhoedd mewn fformat dwyieithog. Os arddangosir deunydd yn Gymraeg, bydd maint, ansawdd, eglurdeb a blaenoriaeth yr un peth ag ydyw yn Saesneg.
Arolygon cyhoeddus
Byddwn yn egluro ar arolygon a holiaduron cyhoeddus eu bod ar gael yn Gymraeg os oes angen.
Cyhoeddiadau
Mewn cyhoeddiadau iaith Gymraeg, bydd hysbysebion yn Gymraeg yn unig. Cyfieithir crynodeb o’r Cynllun Busnes i’r Gymraeg bob blwyddyn.
Gwefannau
Erbyn hyn mae cyhoeddiadau ar y we trwy ragosodiad ac oherwydd hynny maent yn amodol ar bolisi Llywodraeth-eang.
Bydd ein gwefan yn cynnwys tudalennau yn Gymraeg a Saesneg ill dau a’n trefn arferol fydd i ddarparu fersiynau Cymraeg o’r tudalennau rhyngweithiol. Pan bostiwn gyhoeddiad iaith Saesneg ar ein gwefan, caiff y fersiwn Cymraeg ei bostio ar yr un pryd, os yw ar gael. Rydym yn gweithio gyda Gwasanaeth Digidol y Llywodraeth (GDS0) er mwyn darparu cyfieithiad i’r Gymraeg yn unol â pholisi Swyddfa’r Cabinet ynghylch cyfieithu cymesur.
Ffurflenni a deunydd eglurhaol
Byddwn yn cynhyrchu fersiynau Cymraeg o’r dilynol:
- adroddiad prawf gyrru (DL25)
- adroddiad prawf reidiio DL25MC)
- ffurflen CPC4 (LGV & PCV)
- llythyr tywydd gwael
- llythyr apwyntiad
Pan fyddwn ni yn nodi gwybodaeth ar fersiynau Cymraeg ffurflenni a anfonir i’r cyhoedd, byddwn yn gwneud hynny yn Gymraeg. Pan fyddwn ni yn nodi gwybodaeth ar ffurflenni dwyieithog a anfonir i’r cyhoedd, byddwn yn gwneud hynny’n ddwyieithog oni bai y gwyddom y byddai’n well gan y derbynnydd dderbyn y wybodaeth yn Gymraeg neu Saesneg yn unig.
Pan yw sefydliadau eraill yn dosbarthu ffurflenni ar ein rhan, byddwn yn sicrhau eu bod yn gwneud hynny yn unol â’r hyn uchod.
Hunaniaeth gorfforaethol
Mae ein logo’n rhan hanfodol o’n hunaniaeth; felly byddwn yn meithrin delwedd gorfforaethol gwbl ddwyieithog yng Nghymru. Bydd enw, cyfeiriad, logo a slogan corfforaethol yr asiantaeth ac unrhyw wybodaeth safonol yn ddwyieithog ar yr holl benawdau llythyrau, bathodynnau adnabod, cyhoeddiadau, arwyddion a deunyddiau eraill a ddefnyddir yng Nghymru.
Arwyddion yng Nghymru
Bydd arwyddion allanol i ganolfannau prawf ledled Cymru’n ddwyieithog. Hefyd bydd posteri ac arwyddion generig, fel arwyddion dim smygu, a arddangosir mewn ystafelloedd aros canolfannau prawf yn ddwyieithog ledled Cymru.
Datganiadau i’r wasg a chyswllt â’r cyfryngau
Cyhoeddir datganiadau i’r wasg a chyfryngau darlledu iaith Gymmraeg yng Nghymru yn Gymraeg lle mae terfynau amser yn caniatáu. Ein nod yw cyhoeddi datganiadau ar yr un pryd yn y ddwy iaith, ond, pan nad yw amseru’n caniatáu hyn, cynhyrchir fersiwn Cymraeg cyn gynted â phosibl wedyn.
Byddwn yn cyhoeddi datganiadau i’r wasg sy’n berthnasol i Gymru yn Gymraeg a Saesneg ar GOV.UK. Ble mae’n bosibl, byddwn yn sicrhau bod siaradwyr Cymraeg ar gael i wneud cyfweliadau gyda gwasg a chyfryngau darlledu’r iaith Gymraeg.
Staff
Recriwtio
Byddwn yn adnabod y gweithleoedd a swyddi hynny lle mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol neu hanfodol. Gellid diffinio’r gofyniad hwn fel cydran gweithle neu dîm, neu ei fod wedi’i atodi i swydd neilltuol.
Pan ystyrir bod rhuglder yn y Gymraeg yn ddymunol neu hanfodol datgenir hyn mewn hysbysebion ar gyfer swyddi. Hefyd cynhelir prawf siarad Cymraeg fel rhan o’r broses ddethol. Ble rydym yn rhoi hysbysebion recriwtio mewn papurau newydd neu gyhoeddiadau eraill yng Nghymru, bydd fersiynau Cymraeg a Saesneg yn ymddangos gyda’i gilydd – bydd hysbysebion mewn cyhoeddiadau iaith Gymraeg yn Gymraeg yn unig.
Hyfforddiant staff
Yn unol â blaenoriaethau corfforaethol i sicrhau ein bod yn cwrdd â’n hymrwymiadau byddwn yn:
- annog yn weithredol staff perthnasol i ddysgu Cymraeg ac, fel rhan o’n rhaglen i hyfforddi staff
- darparu hyfforddiant iaith Ggymraeg i ganiatáu i gyflogeion perthnasol gyflawni neu gynnal y rhuglder gofynnol yn Gymraeg.
Cofrestrir aelodau staff a benodir ar y ddealltwriaeth y byddant yn dysgu Cymraeg o fewn cyfnod penodol ar gwrs iaith Gymraeg. Cytunir ar amser i ffwrdd yn ystod oriau gwaith er mwyn cyflawni’r lefel ofynnol o ruglder gyda’r unigolyn.
Gweithredu’r cynllun
Mae’r mesurau yn y cynllun hwn yn dwyn awdurdod, cefnogaeth a chymeradwyaeth lawn ein sefydliad. Mae gan reolwyr y cyfrifoldeb i weithredu’r agweddau hyn o’r cynllun sy’n berthnasol i’w gwaith.
Byddwn yn sicrhau bod y cyhoedd yn ymwybodol y gallant ddefnyddio Cymraeg neu Saesneg wrth gyfathrebu ag unrhyw un o’n swyddfeydd trwy ohebiaeth, y ffôn neu wyneb yn wyneb. Byddwn yn cyhoeddi’r cynllun i’n staff, y cyhoedd yng Nghymru ac ar GOV.UK
Byddwn yn defnyddio cyfieithwyr proffesiynol profiedig i gyfieithu o Saesneg i Gymraeg ac i’r gwrthwyneb. Byddwn yn defnyddio dim ond sefydliadau cyfieithu sy’n gallu profi y byddant yn darparu gwasanaeth cyflym, o ansawdd uchel. Rydym yn ymrwymedig i weithredu o fewn telerau’r cynllun ac i sicrhau bod pawb yn y DSA yn deall y cynllun a sut y dylid ei weithredu.
Gweithio mewn partneriaeth
Lle mae cyhoeddiad yn statudol neu mae fersiwn Cymraeg yn hyfyw, byddwn yn cyflwyno achos dros gynhyrchu un.
Gwasanaethau a gyflenwir ar ran y sefydliad gan bartïon eraill
Cynhelir rhai gwasanaethau a ddarparwn i’r cyhoedd yng Nghymru ar ein rhan gan sefydliadau eraill fel darparwr ein prawf theori. Byddwn yn sicrhau bod cytundebau’n gyson â thelerau’r cynllun hwn gan bennu gofynion ynghylch y defnydd o’r iaith Gymraeg mewn dogfennau perthnasol.
Adolygu a diwygio’r cynllun
Byddwn yn adolygu’r cynllun o fewn 4 blynedd ar ôl iddo ddod i rym. O bryd i’w gilydd efallai y bydd angen inni adolygu’r cynllun, neu gynnig diwygiadau i’r cynllun oherwydd newidiadau i’n swyddogaethau neu i’r amgylchiadau rydym yn ymgymryd â’r swyddogaethau hynny ynddynt.
Awgrymiadau ar gyfer gwelliannau
Rydym yn croesawu awgrymiadau i wella’n gwasanaeth i siaradwyr Cymraeg, a dylid anfon y rhain at y Rheolwr Gweithrediadau Cwsmeriaid. Gall cwsmeriaid wneud sylwadau ar y cynllun trwy anfon e-bost customer.services@dsa.gsi.gov.uk
Cwynion
Byddwn yn ymdrin ag unrhyw gwynion ynghylch y ffordd rydym yn gweinyddu’r cynllun yn unol â’n gweithdrefn gwyno.