Cynllun iaith Gymraeg

Rydym yn ymdrin â’r ieithoedd Cymraeg a Saesneg yn gyfartal wrth gynnal busnes cyhoeddus yng Nghymru.


Wrth gynnal busnes cyhoeddus yng Nghymru, bydd yr Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau (DVSA) yn trin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal.

Datganiad o egwyddor

Mae’r cynllun hwn yn nodi sut y bydd DVSA yn cynnal yr egwyddor hon wrth ddarparu gwasanaethau i’r cyhoedd yng Nghymru. Yn y cynllun hwn, mae’r term cyhoeddus yn golygu unigolion, personau cyfreithiol a chyrff corfforaethol. Mae’n cynnwys y cyhoedd yn gyffredinol, neu adran o’r cyhoedd, yn ogystal ag aelodau unigol o’r cyhoedd. Mae’r term yn cynnwys mudiadau gwirfoddol ac elusennau. Mae cyfarwyddwyr ac eraill sy’n cynrychioli cwmnïau cyfyngedig hefyd o fewn ystyr y term ‘ cyhoedd ‘. Nid yw, fodd bynnag, yn cynnwys personau sy’n gweithredu yn rhinwedd swydd sy’n gynrychioliadol o’r Goron, y Llywodraeth neu’r Wladwriaeth. O ganlyniad, nid yw personau sy’n cyflawni swyddogaethau swyddogol o natur gyhoeddus, er eu bod yn bersonau cyfreithiol, yn dod o fewn ystyr y gair cyhoeddus pan fyddant yn cyflawni’r swyddogaethau swyddogol hynny.

Mae’r cynllun:

  • yn defnyddio’r canllawiau a gyhoeddwyd gan Gomisiynydd y Gymraeg
  • yn cael ei gyhoeddi ac ar gael i holl staff y DVSA a’r cyhoedd

Cyfrifoldebau DVSA

Mae DVSA yn asiantaeth weithredol o’r Adran Drafnidiaeth (DfT). Rydym yn gwella diogelwch ar y ffyrdd ym Mhrydain Fawr drwy osod safonau ar gyfer gyrru a beicio modur, a sicrhau bod gyrwyr, beicwyr, gweithredwyr cerbydau a modurdai MOT yn deall ac yn dilyn safonau sy’n addas i’r ffyrdd. Rydym hefyd yn darparu ystod o wasanaethau trwyddedu, profi, addysg a gorfodi.

Rydym yn darparu gwasanaethau modern ac effeithlon sydd:

  • yn diwallu anghenion cyfnewidiol busnes a’r cyhoedd
  • yn helpu i gadw pobl yn ddiogel
  • yn diogelu’r amgylchedd

Rydym yn gwneud hyn drwy osod safonau clir ar gyfer gyrru diogel a diogelwch cerbydau a rhoi’r cwsmeriaid wrth wraidd popeth a wnawn.

Mae’r gwasanaethau a ddarparwn yn cynnwys:

  • gwella gallu gyrru:

  • drwy ddatblygu, cyhoeddi ac adolygu safonau sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer gyrru, beicio, hyfforddi a rhaglenni adfer, fel adsefydlu gyrwyr sy’n yfed
  • drwy ddatblygu a chynnal profion ac asesiadau gyrru a beicio yn deg, yn gyson ac yn effeithlon
  • drwy reoleiddio safonau a chynnal uniondeb cofrestrau statudol hyfforddwyr gyrru a beicio cymeradwy a Thystysgrif Cymhwysedd Proffesiynol y Gyrrwr (CPC)
  • drwy sicrhau bod gweithredwyr cerbydau masnachol, gyrwyr a cherbydau yn bodloni safonau addasrwydd y ffordd a rheoliadau diogelwch ar y ffyrdd
  • drwy gymryd camau gorfodaeth yn erbyn ymgeiswyr prawf theori a gyrru, cyfarwyddwyr, hyfforddwyr, gweithredwyr, garejys neu yrwyr masnachol nad ydynt yn cydymffurfio â rheolau a rheoliadau neu’n methu â chyrraedd safonau

Polisïau a mentrau newydd

Yn gynnar yn unrhyw brosiect, byddwn yn edrych ar yr effaith y gallai ei gael ar yr iaith Gymraeg.

Byddwn yn gwneud yn siŵr nad yw deddfwriaeth a gweithdrefnau gweinyddol newydd yr ydym yn gyfrifol amdanynt yn atal nac yn llesteirio defnydd o’r Gymraeg.

Bydd ein polisïau bob amser yn gyson â’r cynllun ac ni fyddant yn ei danseilio. Mae ein hymrwymiad yn cyfeirio at bolisïau cyfredol, newydd a diwygiedig.

Byddwn yn cyhoeddi’r cynllun ar ein Mewnrwyd (DVSAnet) ynghyd â chyngor cyffredinol ar y camau y dylai staff eu cymryd i weithredu’r strategaeth, a gwybodaeth am gyfleusterau cyfieithu a chyfieithu ar y pryd.

Darparu Gwasanaethau

Byddwn yn cynorthwyo ac yn darparu gwasanaethau yn y Gymraeg pryd bynnag y bo’n bosibl.

Lle byddwn yn darparu gwasanaethau i’r cyhoedd yng Nghymru, byddwn yn defnyddio cyfieithwyr proffesiynol.

Bydd cwsmeriaid sy’n dewis gohebu yn y Gymraeg yn derbyn ateb yn y Gymraeg

Mae DVSA wedi datblygu gwasanaeth sy’n caniatau i gwsmeriaid sy’n ffonio ein canolfannau cyswllt i gynnal eu busnes yn y Gymraeg. Rydym wedi caffael contract newydd i ddarparu gwasanaeth cyfieithu Cymraeg ar gyfer galwadau ffôn.

Lle’n bosibl, bydd siaradwyr Cymraeg yn cael eu lleoli i weithio mewn cyfleusterau profi awdurdodedig yng Nghymru i brofi cerbydau trymion.

Mae profion gyrru yn y Gymraeg ar gael ym mhob canolfan profi theori ac ymarferol yng Nghymru, yn ogystal â’r rheini y tu allan i Gymru y mae eu dalgylch yn cynnwys rhan o Gymru. Mae safon ac ansawdd ein gwasanaethau yn gyson ledled Cymru.

Bydd ymgeiswyr yn gallu dewis cymryd prawf theori yn y Gymraeg ar adeg archebu ac mae darpariaeth Gymraeg yn awtomatig yn y ganolfan profi.

Bydd ymgeiswyr yn gallu dewis cymryd prawf ymarferol yn y Gymraeg ar adeg archebu a byddwn yn darparu arholwr sy’n siarad Cymraeg.

Safon gwasanaeth yn y Gymraeg

Ledled Cymru, bydd gwasanaethau yn y Gymraeg o safon yr un mor uchel â’r rhai yn Saesneg. Byddwn yn sicrhau:

  • y gall ymgeiswyr ddewis sefyll prawf ymarferol yn y Gymraeg adeg archebu a bydd Arholwr sy’n siarad Cymraeg yn cael ei ddarparu.
  • yr atebir negeseuon e-bost a llythyrau yn Gymraeg a Saesneg yn yr un amserau targed
  • y cyfeiriwn at y cynllun hwn, a’r ymrwymiadau sydd ynddo, mewn dogfennau pwysig megis yr adroddiad blynyddol, ac ar wefan GOV.UK
  • y bydd y safonau a sefydlwyd gennym yn y cynllun hwn yn berthnasol i bob sefydliad arall sy’n cyflawni dyletswyddau statudol ar ein rhan
  • Mae ein cyfleusterau TG presennol yn bodloni’r gofynion i weithredu’r mesurau yn y cynllun hwn. Byddwn yn sicrhau bod manylebau ar gyfer systemau newydd neu amnewid yn ystyried darpariaethau’r cynllun hwn i ddarparu gwybodaeth a gwasanaethau yn y Gymraeg

Cyfathrebu â’r cyhoedd sy’n siarad

Cymraeg Cyfathrebu ysgrifenedig

Mae gennym ymrwymiad i ddechrau gohebu yn newis iaith y derbynnydd, os yw’n hysbys. Mae croeso i aelodau’r cyhoedd sy’n byw yng Nghymru ysgrifennu atom yn y Gymraeg neu’r Saesneg. Pan fydd rhywun yn ysgrifennu atom yn Gymraeg, byddwn yn ateb gyda llythyr wedi’i lofnodi yn Gymraeg, lle bynnag y bo angen ateb. Bydd unrhyw ohebiaeth bellach yn Gymraeg oni ofynnir yn wahanol.

Mae ein hamseroedd targed ar gyfer ateb llythyrau yn Gymraeg yr un fath ag ar gyfer y rhai yn Saesneg.

Byddwn yn/wedi cyfarfod â’r targedau hyn drwy:

  • gyhoeddi canllawiau i staff ar sut i ddefnyddio gwasanaethau cyfieithu, a threfniadau cyllideb cysylltiedig ar DVSAnet
  • drefnu contract gyda chyfieithwyr
  • fonitro amseroedd ymateb i ohebiaeth ysgrifenedig yn Gymraeg
  • sicrhau bod staff yn cadw cofnod o’r bobl hynny sydd wedi ysgrifennu atynt yn Gymraeg

Lle bo angen, rydym yn cyhoeddi cylchlythyrau dwyieithog neu lythyrau safonol i’r cyhoedd yn unol â’n cynllun cyhoeddedig.

Mae gohebiaeth yn cael ei derbyn gan sawl adran o fewn yr asiantaeth. Yn y flwyddyn adrodd ers 1 Ebrill 2020, ar draws tair adran asiantaeth, gwnaethom dderbyn un eitem o ohebiaeth yn y Gymraeg.

Cyfathrebu teleffon:

Rydym yn croesawu ymholiadau ffôn i’n dwy ganolfan gyswllt yn y Gymraeg neu’r Saesneg ar gyfer ymholiadau am gerbydau a phrofion gyrru. Mae cwsmeriaid o unrhyw ran o Gymru sy’n ffonio’r rhif cenedlaethol yn gallu gofyn i gynnal eu ymholiad yn y Gymraeg.

Yn y flwyddyn adrodd ers 1 Ebrill 2020, derbyniodd canolfannau galw’r DVSA 596,711 o alwadau iaith Saesneg, a 127 o alwadau iaith Gymraeg.

Mae’n canolfannau cyswllt yn trafod ymholiadau cenedlaethol ynglŷn â gwasanaethau gyrwyr. Mae rhif cenedlaethol ar wahân i gyrchu cysylltwr ffôn sy’n siarad Cymraeg neu wasanaeth sy’n seiliedig ar gyfieithu. Bydd system ymateb llais rhyngweithiol yn ymateb yn y Gymraeg. Bydd y galwr yn gallu dewis cael mynediad at y llinell profi theori neu’r llinell profi ymarferol.

Bydd y system wedyn yn trosglwyddo’r alwad at gynrychiolydd gwasanaeth cwsmeriaid fydd yn cysylltu â’r gwasanaeth cyfieithu a dechrau galwad cynhadledd tair ffordd.

Ar gyfer galwadau i Wasanaethau cerbydau, bydd yr alwad yn cael ei hateb gan gynrychiolydd gwasanaeth cwsmeriaid fydd yn cysylltu â’r gwasanaeth cyfieithu a dechrau galwad cynhadledd tair ffordd.

Lle’n bosibl, byddwn yn annog ein staff yng Nghymru i ateb y teleffon â chyfarchiad dwyieithog a defnyddio negeseuon dwyieithog ar eu ffonau ateb personol (os yn briodol).

Cyfarfodydd cyhoeddus, grŵp, sefydliad addysgol ac un i un

Bydd gwahoddiadau a hysbysebion ar gyfer cyfarfodydd yng Nghymru yn cael eu dosbarthu yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Byddwn ni yn:

  • ymrwymo i sicrhau bod cyfleusterau cyfieithu ar gael mewn cyfarfodydd cyhoeddus ac annog cyfraniadau yn Gymraeg
  • sicrhau, mewn cyfarfodydd grŵp, cyfarfodydd un i un ac ymweliadau â sefydliadau addysgol yng Nghymru, y bydd aelodau o staff ar gael sy’n gallu siarad yn Gymraeg a Saesneg i ddelio ag ymholiadau
  • ar gais, bydd unrhyw wybodaeth, cyhoeddusrwydd ac adroddiadau sy’n ymwneud â chyfarfodydd cyhoeddus yn ddwyieithog.

Cynhelir profion ac archwiliadau safonau cymhwyster ADI yn Gymraeg neu Saesneg yn ôl y gofyn.

Achosion a Gwrandawiadau Llys ac Ymchwiliadau Cyhoeddus

Byddwn yn rhoi gwybod i’r cyhoedd, trwy gyfrwng neges ar y ddogfennaeth wreiddiol, y gall achos llys wedi’i leoli yng Nghymru gael ei gynnal yn y Gymraeg neu’r Saesneg. Ar gais, byddwn yn trefnu ar gyfer cyfieithydd ac yn darparu’r holl ddogfennaeth angenrheidiol yn y Gymraeg.

Mewn cyfarfodydd, gwrandawiadau neu Ymchwiliadau Cyhoeddus, mae croeso i weithredwyr siarad Cymraeg neu Saesneg. Pan fydd llythyrau ‘galw i fyny’ yn cael eu dosbarthu gan ‘Swyddfa Comisiynydd Traffig’ y DVSA, bydd hawl y rheini’n mynychu i ddefnyddio Cymraeg neu Saesneg yn cael ei ddatgan yn glir.

Mae’r llythyr yn gofyn eu bod yn ein hysbysu o flaen llaw os ydynt yn dymuno cyfathrebu â hwy yn y Gymraeg neu’r Saesneg.

Rhyngrwyd

Byddwn yn sicrhau bod y canlynol yn ymddangos ar GOV.UK a’n mewnrwyd:

  • llywio clir at dudalen iaith Gymraeg gyfatebol (os oes un yn bodoli)
  • Fersiynau iaith Gymraeg o wasanaethau a chyfarwyddyd, yn seiliedig ar gryfder anghenion iaith Gymraeg y defnyddiwr fel yr amlinellir yn y polisi ar GOV.UK
  • adroddiad cynllun iaith Gymraeg DVSA (yn y Gymraeg a’r Saesneg)

Cyhoeddusrwydd a deunydd printiedig

Hunaniaeth gorfforaethol

Mae logo corfforaethol DVSA, gan gynnwys y geiriau Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau, yn rhan hanfodol o’n hunaniaeth.Rydym yn darparu cyfieithiad Cymraeg

o’r Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau i’w defnyddio ar lythrennau a anfonwn yn Gymraeg, ac ar gyhoeddiadau Cymraeg neu ddwyieithog.

Arwyddion yng Nghymru

Bydd ein byrddau ac arwyddion gwybodaeth ar adeiladau/canolfannau profi oll yn ddwyieithog ledled Cymru. Byddwn yn cynhyrchu eitemau newydd yn ddwyieithog ac yn disodli unrhyw eitemau sy’n bodoli â rhai dwyieithog fel y bydd angen eu newid.

O fewn a’r tu allan i adeiladau ynmg Nghymru, bydd pob arwydd a rhybudd swyddogol newydd a rhai sy’n disodli sy’n rhybuddio, gwahardd, cyfarwyddo, yn gofyn am god ymddygiad neu fel arall yn hysbysu pobl neu’n hyrwyddo diogelwch staff, ymwelwyr ac ymgeiswyr yn ddwyieithog.

Lle rydym yn darparu arwyddion Cymraeg a Saesneg ar wahân, byddant yn gydradd yn nhermau maint, ansawdd ac amlygrwydd. Lle bydd Cymraeg a Saesneg ar yr un arwydd, byddant yn gydradd mewn maint, amlygrwydd ffont ac yn blaen

Cyhoeddiadau

Byddwn yn cyfieithu’r deunyddiau a gyhoeddwn sy’n hanfodol i’r cyhoedd yng Nghymru yn llawn, fel Rheolau Swyddogol y Ffordd Fawr, taflenni, posteri a hysbysiadau cyhoeddus Gallem gyfieithu rhai cyhoeddiadau eraill yn rhannol neu ar ffurf crynodeb.

Rydym yn cyhoeddi’r Rheolau Swyddogol y Ffordd Fawr mewn copi caled yn y Saesneg a’r Gymraeg. Yn y 12 mis at ddiwedd Tachwedd 2020, cafodd 204,044 o gopïau yn y Saesneg eu prynu; cafodd 39 o gopïau yn y Gymraeg eu prynu.

Bydd cyhoeddiadau ac adnoddau wedi’u cynhyrchu gan drydydd partïon ac wedi’u cyllido gan eu gwerth masnachol yn cael eu cyfieithu i’r Gymraeg os oes marchnad ddigonol ar gyfer fersiynau Cymraeg yn bodoli i’w cynorthwyo. Ni fydd y gost ar gyfer fersiwn Gymraeg yn fwy na phris fersiwn Saesneg.

Pan fyddwn yn darparu cyfieithiad Cymraeg o ddogfen, byddwn yn gwneud hynny’n ddwyieithog oni bai fod fersiynau Saesneg a Chymraeg ar wahân yn fwy ymarferol. Yn yr achosion hyn, bydd y fersiwn Saesneg yn datgan bod cyfieithiad neu grynodeb Cymraeg ar gael hefyd. Bydd y ddwy ddogfen o’r un ansawdd a’r un mor hawdd i’w cyrchu.

Byddwn yn ceisio egluro i’r darllenydd pan fydd cyhoeddiad yn gymwys i Loegr yn unig, i atal unrhyw gamddealltwriaethau ynghylch cyfieithiadau Cymraeg posibl os bydd y ddogfen yn cyrraedd pobl yng Nghymru.

Nid yw deunyddiau a gyhoeddir gan sefydliadau eraill, hyd yn oed os ydynt yn cael eu cymeradwyo gan DVSA neu fod y sefydliad yn bartner i ni, yn dod o dan y cynllun hwn. Rydym yn cynhyrchu ystod eang o ddeunydd cyhoeddedig gan gynnwys deddfwriaeth, dogfennau ymgynghori, cyhoeddiadau corfforaethol, datganiadau

newyddion, pamffledi a thaflenni, ffurflenni a deunydd esboniadol cysylltiedig, sticeri a deunydd arall wedi’i gynllunio ar gyfer ei arddangos

Deunydd esboniadol cysylltiedig

Pan fyddwn yn darparu cyfieithiad Cymraeg o ddeunydd esboniadol cysylltiedig i’w ddefnyddio gan y cyhoedd yng Nghymru, byddwn yn ei gyhoeddi’n ddwyieithog os yw hynny’n ymarferol.

Os oes rhaid cyhoeddi’r fersiynau Cymraeg a Saesneg ar wahân (er enghraifft, lle byddai un ddogfen yn rhy faith neu’n rhy swmpus), bydd y ddau fersiwn o’r un ansawdd, a’r un mor hygyrch ac ar gael ar yr un pryd. Bydd pob fersiwn yn nodi’n glir bod y deunydd ar gael yn yr iaith arall.

Ffurflenni

Byddwn yn sicrhau bod ein holl ffurflenni printiedig ar gyfer y cyhoedd yng Nghymru yn cynnwys y fersiynau Cymraeg a Saesneg gyda’i gilydd mewn un ddogfen lle y bo’n ymarferol.

Pan fyddwn yn mewnbynnu gwybodaeth am fersiynau Cymraeg o ffurflenni a anfonir at y cyhoedd, byddwn yn gwneud hynny yn Gymraeg. Mae hyn yn cynnwys ffurflenni rhyngweithiol a gyhoeddir ar ein gwefannau.

Pan fyddwn yn cofnodi gwybodaeth ar ffurflenni dwyieithog a anfonir at y cyhoedd, byddwn yn gwneud hynny’n ddwyieithog oni bai ein bod yn gwybod y byddai’n well gan y derbynwyr gael y wybodaeth yn Gymraeg neu’n Saesneg yn unig.

Pan fydd sefydliadau eraill yn dosbarthu ffurflenni ar ein rhan, byddwn yn gwneud yn siŵr eu bod hwy yn gwneud hynny hefyd.

Datganiadau newyddion

Byddwn yn rhoi datganiadau newyddion o ddiddordeb neilltuol i’r cyhoedd yng Nghymru ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg. Byddwn yn cynhyrchu datganiadau newyddion yn benodol i’r cyfryngau sy’n siarad Cymraeg neu ddwyiethog yng Nghymru yn ddwyieithog. Lle’n bosibl, rydym yn ymrwymo i roi staff sy’n siarad Cymraeg ar gael i gynnal cyfweliadau i’r wasg a’r cyfryngau darlledu.

Rydym yn ymrwymo i ryddhau datganiadau ar yr un pryd yn y ddwy iaith.

Yn y flwyddyn adrodd ers Ebrill 2020, gwnaethom gyhoeddi 25 datganiad i’r wasg. Roedd 2 ddatganiad yn y Gymraeg.

Gweithgareddau hysbysebu a chyhoeddusrwydd

Bydd yr holl gyhoeddusrwydd a hysbysebu mewn papurau newydd â phrif gylchrediad yng Nghymru yn ddwyieithog gyda fesiynau Cymraeg a Saesneg yn cael eu dangos gyda’i gilydd.

Yng Nghymru, byddwn yn cyhoeddi posteri swyddogol a deunyddiau eraill i hyrwyddo DVSA yn ddwyieithog lle’n ymarferol. Os nad yw hyn yn ymarferol, bydd y fersiynau Cymraeg a Saesneg yn gydradd o ran maint ac ansawdd a byddant yn cael eu dosbarthu a’u dangos ag amlygrwydd cydradd.

Bydd deunyddiau arddangos mewn unrhyw gynhadledd, seminar, cyflwyniad neu arddangosfa ar gyfer y cyhoedd wedi’i gynnal yng Nghymru yn ddwyieithog neu mewn fersiynau Cymraeg a Saesneg ar wahân, yn unol â’n Cynllun Iaith Gymraeg.

Bydd unrhyw arolwg cyhoeddus neu ymchwil marchnad wedi’i gyfeirio at y cyhoedd yn hygyrch yn y Gymraeg. Bydd unrhyw arolwg cyhoeddus neu ymchwil marchnad wedi’i gynnal yng Nghymru yn hygyrch yn y Gymraeg.

Staff a Recriwtio

Byddwn yn sicrhau bod staff sy’n gweithio yng Nghymru yn gallu ceisio mynediad at ddigon o siaradwyr Cymraeg wedi’u sgilio’n briodol i alluogi’r staff hynny i ddarparu gwasanaeth trwy gyfrwng y Gymraeg.

Byddwn yn adnabod y gweithleoedd a’r swyddi hynny lle mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol neu’n hanfodol a’r lefel o hyfedredd sy’n ofynnol ym mhob achos. Gallai’r gofyniad hwn gael ei ddiffinio fel cydran o weithle neu dîm neu’n atodedig at swydd neilltuol.

Lle’n bosibl, byddwn yn ymgymryd ag archwiliadau i sefydlu’r nifer, lefel gallu a lleoliad staff sy’n gallu siarad, darllen ac ysgrifennu Cymraeg (gan gynnwys staff sy’n dysgu Cymraeg). Byddwn hefyd yn adnabod staff sy’n dymuno dysgu Cymraeg.

Bydd canlyniadau’r ddau ymarfer hyn yn cael eu cymharu i adnabod gweithleoedd lle mae prinder o staff sy’n siarad Cymraeg.

Byddwn yn ymateb i unrhyw brinderau trwy ein gweithgareddau recriwtio a hyfforddi.

Byddwn hefyd yn ystyried y posibilrwydd o drosglwyddo staff sy’n gallu siarad Cymraeg i lenwi’r swyddi hyn lle mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol neu’n hanfodol.

Rydym yn darparu hyfforddiant Iaith Gymraeg trwy Brifysgol Bangor a Choleg Wrecsam.

Yn y flwyddyn adrodd ers Ebrill 2020, cynigiwyd hyfforddiant ar-lein i ddirprwyon i gymryd lle lleoliad ystafell ddosbarth oherwydd cyfyngiadau ynghlwm â’r pandemig COVID-19. Canfu dirprwyon fod hyn yn aneffeithiol. Ar eu cais, mae hyfforddiant wedi cael ei ohirio hyd y gellir ei ddarparu mewn amgylchedd wyneb i wyneb.

Mae ein tîm datrysiadau hyfforddiant yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ystyried opsiynau eraill fydd yn dod â phob hyfforddiant o dan un ymbarél.

Mae gennym ni ddigon o arholwyr sy’n siarad Cymraeg yn ein canolfannau profi ymarferol i sicrhau ein bod yn ateb galw am brofion yn y Gymraeg, ac na fydd yr amseroedd aros am brofion yn cael eu heffeithio gan ddewis iaith. Weithiau gallai hyn olygu benthyg staff o ardaloedd eraill.

Wrth recriwtio staff, byddwn yn cael ein harwain gan y wybodaeth a gasglwyd yn dilyn y gweithdrefnau a ddisgrifir o dan Staffio uchod.

Pan fydd rhuglder yn y Gymraeg yn cael ei ystyried yn ddymunol neu’n hanfodol, byddwn yn datgan hyn mewn cymwysterau a hysbysebion swyddi.

Os nad ydym yn gallu canfod ymgeisydd/ymgeiswyr addas sy’n siarad Cymraeg ar gyfer swydd lle mae Cymraeg yn ddymunol, byddwn yn annog y sawl a benodir i ddysgu Cymraeg.

Os nad ydym yn gallu canfod ymgeisydd/ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg ar gyfer swydd lle mae Cymraeg yn hanfodol, byddwn yn gwneud trefniadau dros dro o dan wasanaeth yr iaith Gymraeg (trwy ddarparu, er enghraifft, staff sy’n siarad Cymraeg o rywle arall yn ein sefydliad i ddarparu rhannau o’r gwasanaeth) i roi y gwasanaeth hwnnw ar gael yn y Gymraeg hyd y byddwn yn canfod siaradwr Cymraeg.

Bydd pecynnau gwybodaeth a ffurflenni cais yn cael eu darparu yn y Gymraeg a’r Saesneg ar gyfer ein holl swyddi lle mae rhuglder yn y Gymraeg yn cael ei ystyried i fod yn ddymunol neu’n hanfodol. Ar gyfer pob swydd arall, bydd pecynnau gwybodaeth a ffurflenni cais yn cael eu darparu yn y Gymraeg pan ofynnir gan ymgeisydd am swydd.

Gweithredu’r cynllun

Cyfrifoldebau o fewn DVSA

Rydym wedi ymrwymo i weithredu o fewn telerau’r cynllun, ac i wneud yn siŵr bod pawb yn DVSA yn gwybod sut y dylid ei weithredu a’r hyn a ddisgwylir ganddynt. Mae rheolwyr yn gyfrifol am weithredu’r cynllun gan ei fod yn berthnasol i’w gwaith.

Rydym yn darparu cymorth a chefnogaeth i unrhyw aelod o’n staff sydd eisiau dysgu siarad Cymraeg. Gyda’n partneriaid, Prifysgol Bangor, rydym yn datblygu ein arholwyr Cymraeg eu hiaith yn barhaus. Ymrwymwn i fynd ati i annog aelodau o staff i ymgymryd â hyfforddiant yn y Gymraeg ac i gynnal cyfweliadau gyda nhw yn rheolaidd er mwyn sicrhau bod safon eu Cymraeg llafar ar y lefel ofynnol.

Byddwn yn sicrhau bod y cyhoedd yn ymwybodol y gallant ddefnyddio’r Gymraeg neu’r Saesneg wrth gyfathrebu ag unrhyw rai o’n swyddfeydd drwy ohebu, dros y ffôn neu wyneb yn wyneb.

Byddwn yn cyhoeddi’r cynllun i’n staff, i’r cyhoedd yng Nghymru ac ar GOV.UK.

Gwasanaethau cyfieithu

Byddwn yn sicrhau bod unrhyw sefydliadau cyfieithu a ddefnyddiwn yn darparu gwasanaeth cyflym o ansawdd uchel. Byddwn yn gwirio bod ganddynt eu systemau monitro ansawdd mewnol eu hunain a bod y rhain yn gweithredu’n foddhaol.

Gwasanaethau a ddarperir ar ran y sefydliad gan bartïon eraill

Pan fydd gwasanaethau a ddarparwn i’r cyhoedd yng Nghymru yn cael eu cyflawni ar ein cyfer gan sefydliadau eraill fel asiantau, ymgynghorwyr, contractwyr a chyrff gwirfoddol, byddwn yn sicrhau bod cytundebau yn gyson â thelerau’r cynllun hwn ac yn nodi gofynion ynglŷn â’r defnydd o’r Gymraeg mewn dogfennau perthnasol.

Lle bo’n berthnasol, bydd y broses gaffael yn ystyried gofynion Deddf yr Iaith Gymraeg.

Monitro’r cynllun

Bydd tîm Enw Da’r Gorfforaeth yn cyd-drefnu monitro’r cynllun. Pob blwyddyn byddwn yn cyflwyno adroddiad i Gomisiynydd y Gymraeg yn unol â’r gofyn. Bydd crynodeb o’r adroddiad yn cael ei gyhoeddi yn ein hadroddiad blynyddol. Lle bo angen, bydd hyn yn cynnwys rhesymau am beidio ag ateb unrhyw un o’r ymrwymiadau a amlinellir yn y cynllun hwn ac esboniad o gamau y byddwn yn eu cymryd i gywiro pethau.

Cyhoeddi’r Cynllun

Byddwn yn cyhoeddi’r cynllun trwy ein mewnrwyd ynghyd â chyngor cyffredinol ar y gweithredu a phroses y dylai staff gymryd i gael cyfieithu gwybodaeth. Byddwn hefyd yn cyhoeddi’r cynllun ar GOV.UK

Newidiadau i’r cynllun

Byddwn yn ymgynghori â Chomisiynydd y Gymraeg ymlaen llaw ynghylch unrhyw gynigion a fydd yn effeithio ar y cynllun ac yn ceisio cymeradwyaeth y Comisiynydd cyn newid y cynllun.

Gwelliannau i’r cynllun/cwynion

Awgrymiadau ar gyfer gwella

Rydym yn croesawu awgrymiadau gan y cyhoedd a staff am welliannau i’n gwasanaeth Cymraeg. Dylid cyfeirio pob awgrym at Gyswllt y Cyhoedd yn:

Gyswllt y Cyhoedd
public.liaison@dvsa.gov.uk

Public Liaison Team
DVSA
1 Unity Square
Nottingham
NG2 1AY

Cwynion

Dylai unrhyw gwynion am y ffordd rydym wedi gweithredu’r cynllun neu am ein gwasanaeth iaith Gymraeg hefyd gael eu hanfon at dîm cyswllt y cyhoedd yn y cyfeiriad uchod. Bydd cwynion yn derbyn ateb ysgrifenedig yn iaith y gŵyn.