Ein defnydd o ynni

Sut mae’r DVLA yn gweithio i fonitro a lleihau traul ynni, costau ac allyriadau carbon.


Mae gennym 3 safle ar draws Abertawe sy’n defnyddio tua 33 awr gigawat o nwy a 13.5 awr gigawat o drydan pob blwyddyn. Daw’r rhan fwyaf o’r defnydd ynni o’n prif safle lle mae tua 5,000 o bobl yn gweithio a lle mae ein cyfleusterau argraffu mawr wedi’u lleoli.

Cynhyrchir rhai o’n hanghenion trydan gan 2 beiriant Gwres a Phŵer Cyfunol (GPhC). Rydym yn dal y gwres a gynhyrchwyd dros ben, a’i ddefnyddio i wresogi neu oeri fel bo’r angen, ac felly’n gwneud y defnydd mwyaf effeithlon o’r ynni a gynhyrchwyd. Mae’r defnydd o’r peiriannau (GPhC) yn ein helpu i leihau ein dibyniaeth ar y grid ac felly’n lleihau ein hallyriadau carbon o ddefnyddio trydan.

Mae’r ynni rydym yn ei ddefnyddio wrth deithio ar gyfer busnes hefyd yn rhan o’n strategaeth leihau carbon. Yn bresennol, rydym yn teithio tua 0.7 miliwn o filltiroedd busnes (1.12 miliwn o gilometrau) bob blwyddyn.

Sut rydym ni’n gwneud hyn

Rydym yn defnyddio mesuryddion sy’n cofnodi pob hanner awr i fonitro ein defnydd ynni ar draws y safleoedd. Rydym yn cofnodi’r rhain ar-lein ac mae ein tîm ynni yn dadansoddi’r wybodaeth yn rheolaidd fel rhan o’n contract menter cyllid preifat. Mae perfformiad ynni’r ystâd gyfan yn cael ei adolygu’n fisol a chynhyrchir adroddiad amdano.

Gorffennodd ein harchwiliad o’r ystâd gyfan yn 2010 a sicrhawyd bod unrhyw adeiladau newydd neu adnewyddiadau yn cydymffurfio â safonau ‘da’ neu ‘ardderchog’ Dull Asesu Amgylcheddol y BRE ar gyfer adeiladau cynaliadwy.

Ers 2001 rydym wedi cadw ein hachrediad ISO 14001. Er mwyn cynnal ein cydymffurfiad, rydym yn adolygu ein gweithrediadau i ddod o hyd i ffyrdd o weithio sy’n fwy effeithlon o ran ynni.

Mae mentrau rheoli ynni diweddar, parhaus neu arfaethedig yn cynnwys:

  • canoli gweithrediadau
  • sicrhau rheolaeth effeithlon o’n canolfannau data
  • adolygu ein strategaeth ‘gwyrddu TG’
  • defnyddio datrysiadau rheoli ynni adeiladau â rheolydd optimeiddio
  • defnyddio darllenydd mesuryddion awtomatig a gosod larymau i nodi defnydd ynni diangen
  • uwchraddio ein goleuadau i ddeuodau allyrru golau (LED)

Fel asiantaeth y llywodraeth, rydym wedi ymrwymo i foddhau ag Ymrwymiad Gwyrddu Llywodraeth y DU. Fel rhan o’r ymrwymiad hwn rydym wedi:

  • newid i ddefnyddio cerbydau sy’n allyrru llai o garbon pan na allwn osgoi teithio
  • ymrwymo i ddefnyddio trenau i deithio yn hytrach na cheir lle bo’n bosib
  • cyhoeddi ein polisi amgylcheddol a pherfformiad i’n staff a’n contractwyr
  • sicrhau bod y nwyddau a’r gwasanaethau rydym yn eu prynu yn cefnogi ein nodau amgylcheddol ac ein bod yn dilyn safonau prynu’r llywodraeth ar gyfer caffael
  • annog ein cyflenwyr a chontractwyr i wella eu perfformiadau amgylcheddol eu hun
  • darparu hyfforddiant, cyngor a gwybodaeth i’n staff

Y tu hwnt i ddefnydd ynni

Ers dechrau Ymrwymiad Gwyrddu Llywodraeth y DU yn 2009, rydym wedi:

  • lleihau ein hallyriadau nwyon tŷ gwydr gan 28% ac arbed 5,000 tunnell o garbon
  • lleihau allyriadau teithio gan 78%
  • cynhyrchu 48% llai o wastraff a lleihau gwastraff tirlenwi i lai na 5%
  • lleihau gwastraff papur gweinyddol gan 62%
  • lleihau defnydd ein prif gyflenwad dŵr gan 8%