Cynllun iaith Gymraeg

Wrth gynnal busnes cyhoeddus yng Nghymru, ieithoedd Cymraeg a Saesneg yn cael eu trin yn gyfartal.


Datganiad O Egwyddor

Mae pencadlys yr Adran dros Drafnidiaeth, Llywodraeth Leol ar Rhanbarthau (yr Adran(Ganolog)) wedi mabwysiadur egwyddor, wrth gynnal busnes cyhoeddus yng Nghymru y bydd yn trin y Gymraeg ar Saesneg ar y sail eu bod yn gyfartal. Maer cynllun hwn yn nodi sut y bydd yr Adran (Ganolog) yn gweithredur egwyddor honno wrth ddarparu gwasanaethau ir cyhoedd yng Nghymru. Maen cynrychiolir hyn y credwn syn briodol o dan yr amgylchiadau ar hyn syn rhesymol ymarferol.

Maer cynllun

  • wedi derbyn cymeradwyaeth y Gweinidog
  • wedi ystyried y canllawiau a gyhoeddwyd gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg
  • yn mynd i dderbyn cyhoeddusrwydd ymysg holl staff yr Adran (G) ar cyhoedd

Pennod 1 Cyflwyniad

Cyflwyniad ir Adran dros Drafnidiaeth, Llywodraeth Leol ar Rhanbarthau (yr Adran)

1.1 Ein Cyfrifoldebau

Ffurfiwyd yr Adran ym Mehefin 2001 i ysgwyddo nifer o gyfrifoldebau Adran yr Amgylchedd, Trafnidiaeth ar Rhanbarthau gynt (DETR), yn ogystal â chyfrifoldebaur Gwasanaeth Tân ar gyfraith etholiadol (or Swyddfa Gartref). Trosglwyddwyd rhai o gyfrifoldebaur DETR i Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig newydd, ir Adran Diwydiant a Masnach ac ir Swyddfa Gabinet (ceir y manylion ar wefan yr Adran dros Drafnidaeth, Llywodraeth Leol ar Rhanbarthau sef, www.gov.uk/dft. Ar hyn o bryd, mae nodau ac amcanion yr Adran wrthin cael eu diwygio i adlewyrchur newidiadau hyn o ran cyfrifoldebaur Adrannau. tai llywodraeth leol cynlluniau defnydd tir rheoliadau adeiladu y rheilffyrdd iechyd a diogelwch (gan gynnwys diogelwch tân) y ffyrdd a thrafnidiaeth cyfraith etholiadol trafnidiaeth leol y diwydiant llongau polisi rhanbarthol porthladdoedd y diwydiant awyrennau

Mae rhai or cyfrifoldebau hyn yn cwmpasur Deyrnas Gyfunol gyfan, tra bod eraill wediu cyfyngu i Brydain Fawr, Cymru a Lloegr, neu Loegr yn unig.

Maer Adran yn cynnwys yr Adran (Ganolog), swyddogaethaur pencadlys syn gyfrifol am faterion polisi yn bennaf, a deg asiantaeth weithredol syn gyfrifol am gyflwyno gwahanol wasanaethau. Mae goblygiadau llawn trosglwyddor cyfrifoldebau i wahanol adrannau yn cael eu hystyried o hyd. Ond bydd gan yr Adran tua 16,000 o staff; mae tua chwarter or rhain yn yr Adran (Ganolog). Maer gweddill yn ein hasiantaethau gweithredol, ac eithrio rhai cannoedd yn y naw Swyddfar Llywodraeth ar gyfer y Rhanbarthau.

Cyflwynir rhaglenni ein Hadran ganolog yn bennaf drwy ein Hasiantaethau Gweithredol, nifer o gyrff noddedig, corfforaethau cyhoeddus a thrwy awdurdodau lleol.

1.2 Ein Strwythur

Maer Adran (Ganolog) yn cynnwys wyth gr wp a arweinir gan aelodaur Bwrdd. Maer grwpiaun gysylltiedig yn bennaf â datblygu polisi. Cânt eu cynorthwyo gan wasanaethau cynnal megis yr Adrannau Cyllid, Personél, Cyfathrebu a Chyfreithiol. Gellir cael mwy o wybodaeth am yr Adran ar y We Fyd Eang ar www.gov.uk/dft. Pan gynhyrchir arweiniad ir Adran dros Drafnidiaeth, Llywodraeth Leol ar Rhanbarthau sicrheir y bydd ar gael yn Gymraeg a Saesneg.

Pennod 2 Yr hyn a gwmpesir gan y cynllun hwn

2.1 Y Gofynion Cyfreithiol

Mae Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus syn

  • darparu gwasanaethau ir cyhoedd yng Nghymru; neun
  • cyflawni swyddogaethau statudol o ran y ddarpariaeth gan gyrff cyhoeddus eraill o wasanaethau ir cyhoedd yng Nghymru

baratoi Cynllun Iaith Gymraeg pan fydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn ei hysbysu i wneud hynny.

Er nad ywr dyletswydd hwn yn ymestyn i adrannaur llywodraeth megis yr Adran dros Drafnidiaeth, Llywodraeth Leol ar Rhanbarthau, maer Llywodraeth wedi rhoi ymrwymiad yn y Senedd y bydd yr Adrannau yn paratoi Cynlluniau Iaith Gymraeg. Wrth wneud hynny, maen rhaid i ni ystyried y canllawiau a gyhoeddwyd gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg.[ 1 ]

Mae cynlluniau iaith Gymraeg yn ymwneud â darparu gwasanaethau ir cyhoedd yng Nghymru; maer cyhoedd (fel yi diffinnir gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg[ 2 ] ) yn golygu unigolion, personau cyfreithiol a chyrff corfforaethol. Maen cynnwys y cyhoedd fel cyfangorff, neu ran or cyhoedd, yn ogystal â busnesau a sefydliadau megis cyrff gwirfoddol ac elusennau. Nid ywn cynnwys cysylltiadau â chyrff syn cynrychiolir Goron, y llywodraeth nar wladwriaeth (megis llywodraethau lleol).

Mae gwasanaethaun golygu gweithgareddau megis cyfathrebu ag aelodau or cyhoedd syn siarad Cymraeg drwy ohebiaeth ysgrifenedig, deunydd cyhoeddusrwydd ac ymarferion ymgynghori. Mae hefyd yn cynnwys gweithgareddau a gyflawnir er budd y cyhoedd yn gyffredinol, megis swyddogaethau rheoliadol.

2.2 Cynllun Y DfT

Ychydig o gysylltiad uniongyrchol a gaiff y DfT âr cyhoedd yng Nghymru. Yn sgîl datganoli, trosglwyddwyd y cyfrifoldeb dros lawer or gwasanaethau a ysgwyddwyd gan yr Adran i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Ar gyfer y meysydd polisi hynny syn parhau yn gyfrifoldeb yr Adran, ein hasiantaethau gweithredol an cyrff noddedig, yr awdurdodau lleol a/neu gontractwyr syn cyflawnir gwaith o gyflwynor gwasanaethau yn bennaf. Y Comisiwn Archwilio ar gyfer Awdurdodau Lleol Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr yng Nghymru a Lloegr a Cherbydau Comisiwn ac Awdurdod Gweithredol Iechyd a Arolwg Ordnans Yr Arolygiaeth Diogelwch Gynllunio

Maer cynlluniau hyn yn nodin fanwl y camau y mae pob sefydliad yn eu cymryd i wneud yn siwr bod y Gymraeg ar Saesneg yn cael eu trin ar y sail eu bod yn gyfartal, a bod y gwasanaethau a gyflwynir or un safon uchel, boed wediu darparu yn Gymraeg neu yn Saesneg.

Ymhlith y cyrff noddedig sydd wrthin paratoi Cynlluniau Iaith Gymraeg ar hyn o bryd mae

Yr Asiantaeth Safonau Gyrru

Gwasanaethau a gyflwynir yng Nghymru gan yr awdurdodau lleol Bydd yr awdurdodau lleol syn darparu gwasanaethau ir cyhoedd yng Nghymru yn darparu cyfleusterau yn y Gymraeg yn unol âu cynlluniau eu hunain.

Gwasanaethau a gyflwynir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru Pan fydd materion polisin cwmpasu Cymru a Lloegr, byddwn yn gweithion agos â Chynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud yn siwr bod y polisïau ar mentraun ystyried unrhyw amgylchiadau arbennig yng Nghymru au bod yn berthnasol i anghenion pobl Cymru.

Rydym wedi cytuno â Chynulliad Cenedlaethol Cymru (y Cynulliad) ein bod yn rhannur cyfrifoldebau canlynol rhyngom wrth fodloni gofynion y Gymraeg:

  • pan fydd y Cynulliad yn cyhoeddi dogfen neun cyflwyno gwasanaeth arall ir cyhoedd yn gyntaf, y Cynulliad fydd yn gyfrifol am fodloni gofynion ran y Gymraeg;
  • pan fydd yr Adran yn cyhoeddi dogfen neun cyflwyno gwasanaeth arall ir cyhoedd yn gyntaf, syn ymwneud â mater y bydd yr Adran yn gyfrifol amdano yng Nghymru, ac y bydd ar gael yng Nghymru, bydd yr Adran yn cyflawnir ymrwymiadau a nodwyd yn y cynllun hwn ar gyfer bodloni gofynion o ran y Gymraeg;
  • mewn achosion nad ydynt yn disgyn ir un or categorïau uchod ac syn rhan o gyfrifoldeb ill dau, efallai y bydd yr Adran ar Cynulliad yn cytuno i gynhyrchu dogfen, neu ddarparu gwasanaeth ir cyhoedd ar y cyd. Fel arfer, bydd cytundeb or fath yn golygu bod y ddau bartin gwneud penderfyniad ar y cyd wrth baratoi a llunio amserlen y project au bod yn cydweithio âi gilydd wrth ei ddatblygu ai weithredu. Mewn achosion or fath, bydd yr Adran ar Cynulliad hefyd yn ceisio dod i gytundeb mor fuan â phosibl ynghylch pa un ohonynt fydd yn gyfrifol am fodloni unrhyw ofynion o ran y Gymraeg;
  • pan fydd yr Adran wedi paratoi dogfen syn berthnasol i Loegr yn unig, neu wedi datblygu gwasanaeth ir cyhoedd at eu defnydd yn Lloegr, a bod y Cynulliad am ei gyflwyno yng Nghymru, y Cynulliad fydd yn gyfrifol am fodlonir gofynion o ran y

Gymraeg. Gwasanaethau a gyflwynir gan Swyddfeydd y Rhwydwaith Rhanbarthau Traffig (gan gynnwys y Comisiynwyr Trafnidiaeth)

Isadran o fewn yr Adran (Ganolog) ywr Rhwydwaith Rhanbarthau Traffig (TAN) gyda swyddfeydd mewn chwe lleoliad ledled y wlad. Ei fwriad yw cynorthwyor Comisiynwyr Trafnidiaeth wrth weinyddur system trwyddedu gweithredwyr Cerbydau Nwyddau a Gwasanaethau Teithwyr, gan fonitro ymddygiad y gyrwyr galwedigaethol a phroses cofrestru gwasanaethaur bysys lleol. Gan fod ganddo gyswllt rheolaidd â busnesau yng Nghymru (megis drwy ddosbarthu a phrosesu ceisiadau i drwyddedu cerbydau nwyddau a gwasanaethau teithwyr), mae gan TAN ei gynllun iaith Gymraeg ei hun a fun weithredol ers 1998.

Bydd cynllun yr Adran (Ganolog) yn berthnasol ir swyddogaethau eraill a gyflawnir gan y pencadlys. Maer adrannau canlynol yn nodi sut y byddwn yn rhoir cynllun ar waith.

[ 1 ] Cynlluniau Iaith Gymraeg Eu paratoi au cymeradwyo yn unol â Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 Bwrdd yr Iaith Gymraeg, Mawrth 1996. [ 2 ] Rhan 1, paragraff 1.6 o Cynlluniau Iaith Gymraeg Eu paratoi au cymeradwyo yn unol â Deddf yr Iaith Gymraeg 1993

Pennod 3 Cynllunio a chyflwyno gwasanaeth

3.1 Polisïau A Mentrau Newydd

Wrth gynllunio polisïau a mentrau newydd, neu wrth gomisiynu gwaith ymchwil, byddwn yn asesun gynnar y goblygiadau ar gyfer y bobl yng Nghymru syn dymuno siarad Cymraeg. Pan fydd cynigion newydd yn effeithion uniongyrchol ar wasanaethau a ddarperir ir cyhoedd yng Nghymru gan yr Adran neu gan ei Hasiantaethau ai chyrff Noddedig, byddwn yn gwneud yn siwr bod y papurau syn eu cyflwyno i Weinidogion iw cymeradwyo yn cynnwys asesiad or goblygiadau o ran y Gymraeg. Byddwn yn ymgynghori â Chynulliad Cenedlaethol Cymru yn gynnar ynghylch y mentrau a gaiff eu gweithredu yng Nghymru gan y Cynulliad.

Byddwn yn sicrhau, lle y bon bosibl, y bydd y polisïau ar mentrau newydd yn hwyluso defnydd y Gymraeg ac yn gyrrur broses o weithredur egwyddor o gydraddoldeb yn ei blaen. Byddwn yn sicrhau y caiff y mesurau a gynhwysir yn y cynllun hwn eu cymhwyso at bolisïau a mentrau newydd pan gânt eu gweithredu; eu bod yn gyson âr cynllun hwn; ac nad ydynt yn ei danseilio, nac yn tanseilio cynlluniau ein Hasiantaethau Gweithredol an cyrff noddedig nac ychwaith gynlluniau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Byddwn yn sicrhau, hyd eithaf ein gallu, na fydd deddfwriaeth a gweithdrefnau gweinyddol newydd y bydd yr Adran yn gyfrifol amdanynt yn rhwystro nac yn llesteirio defnydd or Gymraeg. Er enghraifft, byddwn yn gwneud yn siwr na chaiff rheoliadau newydd eu llunio mewn modd a fydd yn rhwystro defnydd or Gymraeg, ac na chaiff ffurflenni newydd at ddefnydd y cyhoedd eu pennu mewn modd syn rhwystro defnydd o ffurf ddwyieithog Cymraeg/Saesneg. Maer meini prawf cyhoeddi yn 5.3 yn nodi pa ffurfiau (newydd a chyfredol) y byddwn yn sicrhau eu bod ar gael yn Gymraeg.

Sicrheir y bydd staff ac ymgynghorwyr yr Adran (Ganolog) yn ymwybodol or ymrwymiadau hyn drwy:

  • rhoi copi on Cynllun ar ein gwasanaeth gwybodaeth ar-lein mewnol (Mewnrwyd yr Adran) ynghyd â chyngor cyffredinol ar y camau y dylai staff eu cymryd i weithredur strategaeth, a gwybodaeth am gyfleusterau cyfieithu a chyfieithu ar y pryd;
  • rhoi cyhoeddusrwydd ir Cynllun yng nghylchlythyr y staff, gan roi enw cyswllt am wybodaeth bellach;
  • newid y cyngor a geir yn nogfen yr Adran, sef Gwerthusor Polisi ar gyfer Triniaeth Gyfartal er mwyn gwneud yn glir y dylai cyngor i Weinidogion ar bolisïau ystyried y goblygiadau o ran siaradwyr Cymraeg;
  • cynnwys nodyn mewn dogfennau arweiniad ar ymchwil yn atgoffa pobl y dylid ystyried gofynion y Gymraeg.

3.2 Cyflwyno Gwasanaethau

Pan fydd yr Adran (G) yn cyflwyno gwasanaethau ir cyhoedd yng Nghymru byddwn yn defnyddio cyfieithwyr proffesiynol.

Byddwn yn helpu eraill i ddarparu gwasanaethau dwyieithog yng Nghymru drwy:

  • addasu rheolau a gweithdrefnau, a newid rheoliadau/ffurflenni penodol i ganiatáur defnydd or Gymraeg;
  • atgoffa Prif Weithredwyr Asiantaethau/Cyrff Noddedig or angen i ystyried termau eu Cynlluniau Iaith Gymraeg wrth weithredu mentrau newydd yng Nghymru; byddwn yn cynnwys cyngor ynghylch hyn yn Llawlyfr Nawdd yr Adran;
  • cydweithredu wrth addasu systemau cyfrifiadurol Asiantaethol/NDPB er mwyn eu galluogi i ddarparu gwasanaethau dwyieithog;
  • ystyried gofynion dwyieithog wrth roi cyngor i Weinidogion ar benodi aelodau i Fyrddau, Paneli a thribiwnlysoedd sefydliadau syn cyflwyno gwasanaethau ir cyhoedd yng Nghymru. Caiff ein llawlyfr Nawdd NDPB ei ddiwygio i adlewyrchu hyn;
  • newid ffurflenni gwneud ceisiadau am grant i ofyn i ymgeiswyr a fydd yn darparu gwasanaeth ir cyhoedd yng Nghymru yn dilyn hynny egluro sut y byddant yn ystyried anghenion y cyhoedd syn siarad Cymraeg.

Rydym hefyd yn rhoi sêl ein bendith ar waith Rheoleiddwyr a chynghoraur defnyddwyr wrth annog y diwydiannau d wr a thrafnidiaeth i fabwysiadu egwyddor Deddf yr Iaith Gymraeg wrth gyflwyno gwasanaethau ir cyhoedd yng Nghymru.

Pan fydd cyrff noddedig yr Adran wrthin paratoi eu cynlluniau eu hunain, neu os bydd yn ofynnol iddynt baratoi Cynllun yn y dyfodol, byddwn yn rhoir dewis iddynt o ddefnyddio ein Cynllun fel sail ar gyfer datblygu eu trefniadau iaith Gymraeg eu hunain. Byddwn yn gwneud hyn drwy anfon copi o ddogfen gymeradwy yr Adran (Ganolog) i Brif Weithredwyr cyrff noddedig nad oes ganddynt eu cynlluniau eu hunain. Byddwn hefyd yn eu hatgoffa bod angen ystyried gofynion y Gymraeg wrth gyflwyno gwasanaethau yng Nghymru.

3.3 Safon Y Gwasanaeth Yn Gymraeg

Wrth ddarparu gwasanaethau yn Gymraeg, rydym yn ymrwymedig i gyflwyno gwasanaeth mor safonol yn Gymraeg ag yn Saesneg. Byddwn yn sicrhau:

  • y caiff gohebiaeth yn Gymraeg a Saesneg ei hateb o fewn yr un amserau targed, au bod yn bodloni safonau ein Rhaglen Siarter;
  • ein bod yn cyfeirio at y cynllun hwn, ar ymrwymiadau a geir ynddo, mewn dogfennau allweddol megis yr Adroddiad blynyddol, ac ar wefan yr Adran;
  • ein bod yn nodin glir yng nghatalog Cyhoeddiadaur Adran pa ddogfennau sydd ar gael yn Gymraeg;
  • ein bod yn monitro gweithrediad y cynllun.

Pennod 4 Delio âr cyhoedd syn siarad cymraeg

4.1 Gohebiaeth Ysgrifenedig

Maer Adran (G) yn croesawu gohebiaeth gan aelodau or cyhoedd yng Nghymru yn Gymraeg neu yn Saesneg. Pan fydd rhywun yn ysgrifennu atom yn Gymraeg, bydd yr ateb yn Gymraeg wedi ei lofnodi, os bydd angen ateb arno. Bydd unrhyw ohebiaeth bellach yn Gymraeg oni wneir cais fel arall.

Mae ein hamserau targed ar gyfer ateb llythyron yn Gymraeg yn union yr un fath âr rhai ar gyfer ateb llythyron yn Saesneg.

Byddwn yn cwrdd âr targedau hyn drwy:

  • rhoi arweiniad ir staff ynghylch sut i ddefnyddio gwasanaethau cyfieithu, a threfniadau cyllidebol cysylltiedig;
  • trefnu contract nad ywn ymrwymo gyda chyfieithwyr;
  • ymestyn gweithdrefnau ar gyfer monitro amserau ymateb i ohebiaeth (sydd eisoes ar waith yn yr Adran) i nodi gohebiaeth yn Gymraeg;
  • cynghori staff ynghylch yr angen am gynnal cofnod o bobl sydd wedi ysgrifennu atynt yn Gymraeg.

Os byddwn yn cyhoeddi cylchlythyron neu lythyron safonol ir cyhoedd yng Nghymru, byddwn yn gwneud hynnyn ddwyieithog.

4.2 Cyfathrebu Âr Cyhoedd Dros Y Ffôn

Lleolir ein pencadlys mewn amryw o lefydd yn Llundain. Yn gyffredinol, bydd siaradwyr Cymraeg yng Nghymru yn ceisio cyngor a chymorth gan y Cynulliad Cenedlaethol neu gan ein Hasiantaethau an cyrff noddedig syn cyflwyno gwasanaethau yng Nghymru. Gan mai prin ywr galwadau ffôn Cymraeg a dderbynnir gan staff yr Adran (G), nid ydym or farn y byddain rhesymol ymarferol i ddarparu gwasanaeth Cymraeg.

4.3 Cyfarfodydd Cyhoeddus A Chynadleddau Syn Agored Ir Cyhoedd

Prin ywr cyfarfodydd neur cynadleddau a gynhelir yng Nghymru syn agored ir cyhoedd, ond pe byddai angen gwneud hynny, buasem yn croesawu cyfraniadau yn Gymraeg.

Byddwn yn sicrhau y cyhoeddir ein hysbysiadau cyhoeddus, ein gwahoddiadau ac unrhyw wybodaeth arall syn nodi trefniadau ar gyfer cyfarfodydd a chynadleddau yn Gymraeg a Saesneg. Byddwn yn gofyn i gyfranogwyr roi gwybod i ni ymlaen llaw am eu dewis iaith, fel y gallwn ddarparu cyfleusterau cyfieithu ar y pryd neu gyfleusterau cyfieithu eraill fel y bo angen.

Lle darperir cyfleusterau cyfieithu, gwahoddir y cyhoedd i gyfrannu naill ai yn Gymraeg neu yn Saesneg.

Sicrheir y bydd arweiniad ynghylch trefnu cyfleusterau cyfieithu ar gael i bob aelod or staff.

4.4 Cyfarfodydd Eraill Âr Cyhoedd

Prin ywr cyfarfodydd a gynhelir gennym yng Nghymru ag aelodau unigol or cyhoedd. Gan eu bod yn anaml ac o bosibl ar fyr rybudd, nid ydym or farn ei fod yn rhesymol ymarferol i ddarparu cyfleusterau cyfieithu ar y pryd ar bob achlysur or fath. Ond gellid trefnu bod cyfleusterau ar gael ar sail ad hoc gan ddibynnu ar bwnc neu ddiben y cyfarfod, ei leoliad, y rhai syn debygol o fod yn bresennol ar gost.

4.5 Ffyrdd Eraill O Ddelio Âr Cyhoedd

Y Rhyngrwyd Bydd aelodau or cyhoedd syn dymuno cyfathrebu yn Gymraeg âr Adran (G) drwyr ebost yn derbyn ateb yn Gymraeg.

Byddwn yn sicrhau bod y canlynol yn ymddangos ar ein gwefan ar y Rhyngrwyd

  • cyfarwyddyd clir at dudalennau Cymraeg;
  • gwybodaeth yn Gymraeg yn sôn am waith yr Adran ar hyn rydym yn gyfrifol amdano;
  • Cynllun Iaith Gymraeg yr Adran Drafnidiaeth, Llywodraeth Leol ar Rhanbarthau (yn Gymraeg a Saesneg);
  • catalog Cyhoeddiadaur Adran (syn dangos pa gyhoeddiadau sydd ar gael yn Gymraeg);
  • fersiynau Cymraeg o ddeunydd a roddwyd ar wefan yr Adran, lle cyhoeddwyd fersiynau Cymraeg ar fformat papur;
  • crynodeb o adroddiad monitror Adran ar ei fesurau Iaith Gymraeg (fel rhan or Adroddiad Blynyddol).

Llinellau cymorth Lle rydym wedi sefydlu llinellau cymorth i roi gwybodaeth ir cyhoedd yng Nghymru am faterion penodol neu linellau ymateb ar gyfer archebu llenyddiaeth, byddwn yn darparu gwasanaeth Cymraeg. Byddwn yn gwneud hyn drwy ddarparu rhif ffôn ar wahân ir rheini syn dymuno siarad Cymraeg. Caiff hyn ei hysbysebu ochr yn ochr ân rhif Saesneg. Caiff ceisiadau am wybodaeth yn Gymraeg eu cofnodi au trosglwyddo in cyfieithwyr allanol a fydd yn cysylltu âr galwr gydag ateb. Caiff amserau ateb eu monitro i sicrhau y bodlonir targedau ateb yr Adran (G).

Bydd staff yn derbyn arweiniad mewnol ar yr angen i sefydlu y cafodd anghenion y Gymraeg eu hystyried pan wneir newidiadau in gwefan ar y Rhyngrwyd, neu wrth sefydlu llinellau cymorth.

Pennod 5 Cyhoeddusrwydd a deunydd printiedig

5.1 Hunaniaeth Gorfforaethol

Mae logor Adran syn cynnwys y llythrennau DTLR ar geiriau Trafnidiaeth, Llywodraeth Leol, Rhanbarthau yn rhan hanfodol on hunaniaeth, a byddwn yn parhau iw ddefnyddio ar yr holl ddeunydd cyhoeddedig ar llythyron. Byddwn hefyd yn darparur cyfieithiad Cymraeg o Adran dros Drafnidiaeth, Llywodraeth Leol ar Rhanbarthau iw ddefnyddio ar lythyrau a anfonwn yn Gymraeg, ac ar gyhoeddiadau Cymraeg/dwyieithog.

Bydd y Gyfarwyddiaeth Gyfathrebu (Y Gyfarwyddiaeth) yn darparu cyfieithiad/gwaith celf iw defnyddio gan yr Adran (G): bydd hefyd ar gael i gyhoeddwyr, asiantau, contractwyr ac eraill syn atgynhyrchu ein delwedd gorfforaethol.

5.2 Cyhoeddiadau

Rydym yn cynhyrchu amrywiaeth eang o ddeunydd cyhoeddedig gan gynnwys deddfwriaeth, dogfennau ymgynghori, cyhoeddiadau corfforaethol, datganiadau ir wasg, pamffledi a thaflenni, ffurflenni a deunydd esboniadol cysylltiedig, sticeri a deunydd arall a fwriadwyd ar gyfer eu harddangos yn gyhoeddus.

Lle bydd dogfennaun rhan o gylch gwaith y cynllun hwn (gweler 5.3) byddwn yn sicrhau bod cyfieithiadau ar gael yn Gymraeg yn gyfan, yn rhannol neu ar ffurf crynodeb, gan ddibynnu ar ddiben y cyhoeddiad. Bydd deunydd a anelwyd at y cyhoedd, megis taflenni, ffurflenni, a deunydd arddangos cyhoeddus yn cael ei gyfieithun llawn, ond maen bosibl y bydd cyhoeddiadau sydd â chylchrediad mwy cyfyng, megis y rheini a anelir at fusnes, yn cael eu cyfieithun rhannol neu ar ffurf crynodeb.

Pan fyddwn yn darparu cyfieithiad Cymraeg o ddogfen byddwn yn gwneud hynnyn ddwyieithog lle y bon bosibl. Ar gyfer cyhoeddiadau a ddosberthir yn fwy eang yn y DG, maen bosibl y byddain well cyhoeddi fersiynau Cymraeg a Saesneg ar wahân (neu grynodebau yn Gymraeg) ar sail ymarferoldeb. Yn yr achosion hyn, byddwn yn sicrhau bod y fersiwn Saesneg yn nodin glir bod cyfieithiad neu grynodeb Cymraeg ar gael. Bydd y ddwy ddogfen or un safon, a bydd yr un mor hawdd cael gafael ar y ddwy. Ni fydd pris y fersiwn dwyieithog neu Gymraeg yn fwy na phris y fersiwn Saesneg.

Pan fyddwn yn cyhoeddi dogfennau yn gyfochrog âr Cynulliad Cenedlaethol, byddwn yn cydweithio i geisio sicrhau y cyhoeddir fersiynau Saesneg a fersiynau/crynodebau Cymraeg ar yr un pryd. Pan fydd yr Adran yn cyhoeddi fersiynau dwyieithog neu Gymraeg o ddogfennau, ein nod fydd cynhyrchur rhain ar yr un pryd âr fersiwn Saesneg cyfatebol. Yn eithriadol, efallai na fydd hyn yn bosibl, ac mewn amgylchiadau or fath, bydd y fersiwn Cymraeg neu ddwyieithog ar gael mor fuan â phosibl ar ôl hynny.

Bydd yr Adran yn ceisioi wneud yn glir ir darllenydd pan fydd cyhoeddiad yn berthnasol i Loegr yn unig, er mwyn osgoi unrhyw gamddealltwriaeth ynghylch cyfieithiadau Cymraeg posibl pe bydd y ddogfen yn cyrraedd pobl yng Nghymru.

5.3 Meini Prawf Y Cyhoeddiadau

Y cyhoeddiadau a gynhyrchir yn Gymraeg (gan gynnwys y rhai dwyieithog) fydd y rheini lle byddem yn disgwyl y byddair diddordeb mwyaf oherwydd eu perthnasedd penodol ir cyhoedd neu fusnesau yng Nghymru. Er enghraifft, cynhyrchir taflenni, ffurflenni a dogfennau eraill syn berthnasol i Gymru ac a gaiff eu dosbarthun eang ac y sicrheir eu bod ar gael ir cyhoedd yn Gymraeg; ond ni wneir hynny yn achos cyhoeddiadau technegol ac ymchwil ar rheini a fwriadwyd ar gyfer marchnad arbenigol.

Yn arferol, ni chaiff y categorïau canlynol o ddogfennau eu cyfieithu ir Gymraeg:

  • deddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth;
  • cyhoeddiadau ymchwil a thechnegol;
  • dogfennau syn berthnasol i Loegr yn unig;
  • dogfennau a anelir at gr wp penodol lle na fydd cyfanswm y copïau a argreffir yn debygol o fod yn fwy na 100,000;
  • dogfennau mawr iawn (yn gyffredinol, yn fwy na 100 o dudalennau), er y byddant ar gael ir cyhoedd, na fyddant yn debygol o ennyn diddordeb ac ymateb eang;
  • cyhoeddiadau a bennir gan reoliadau rhyngwladol na ellir eu hargraffu ond mewn ieithoedd penodedig
  • cyhoeddiadau a fwriedir ar gyfer cyrff eraill syn cynrychiolir Goron, y llywodraeth neur Wladwriaeth (megis awdurdodau lleol) nas bwriedir iw dosbarthu ymysg aelodaur cyhoedd;
  • dogfennau a fwriadwyd at ddefnydd mewnol yr Adran.

Bydd yr ymrwymiadau hyn yn berthnasol i gyhoeddiadau newydd ac i rifynnau newydd o ddogfennau presennol.

Byddwn yn sicrhau:

  • bod staff a chontractwyr yr Adran syn gysylltiedig â gweithgareddau cyhoeddi a marchnata yn ymwybodol or gofynion a nodir yn y cynllun hwn;
  • y bydd y Gyfarwyddiaeth Gyfathrebu yn adolygu arweiniad y Gyfarwyddiaeth ai nodiadau canllaw allweddol i gynnwys cyfeiriadau penodol at ofynion y Gymraeg;
  • y bydd y Gyfarwyddiaeth Gyfathrebu yn darparu cyngor i Isadrannaur Adran ar yr amgylchiadau pan ddylid sicrhau bod fersiynau Cymraeg o gyhoeddiadau ar gael;
  • y bydd yr Isadran Rheoli Gwybodaeth yn diwygioi chanllaw i arfer da syn cwmpasu cynllun y ffurflenni a ddefnyddir y tu allan ir Adran (Good Forms Make Sense) i gynnwys cyfeiriadau at ofynion y Gymraeg.

5.4 Datganiadau Ir Wasg

Sicrheir y bydd datganiadau or wasg o ddiddordeb arbennig ir cyhoedd syn siarad Cymraeg ar gael yn Gymraeg a Saesneg. Cynhyrchir datganiadau ir wasg a anfonir yn benodol ir cyfryngau Cymraeg neu ddwyieithog yng Nghymru yn ddwyieithog. Bydd y cyfrifoldeb a rennir gyda Chynulliad Cenedlaethol Cymru fel a nodir ym Mhennod 2. Y nod fydd anfon datganiadau ar yr un pryd yn y ddwy iaith, ond, pan na fydd amser yn caniatáu hyn, cynhyrchir fersiwn Cymraeg mor fuan â phosibl ar ôl hynny.

5.5 Gweithgareddau Hysbysebu A Chyhoeddusrwydd

Rydym yn defnyddio hysbysebu i roi gwybod ir cyhoedd am amrywiaeth eang o bynciau cyfoes. Maer cyfryngau a ddefnyddiwn yn dibynnu ar natur yr ymgyrch, y gynulleidfa darged, yr amseru, y neges, a gwerth am arian.

Teledu/fideo/radio Pan gaiff hysbysebion teledu a radio eu cyfeirio at y cyhoedd yng Nghymru, byddwn yn hysbysebu yn Gymraeg yn ystod rhaglenni radio a theledu Cymraeg.

Pan fyddwn yn cynhyrchu fideos gyda phynciau syn berthnasol ir cyhoedd yng Nghymru, byddwn yn sicrhau bod y rhain ar gael naill ai yn Gymraeg neu gydag isdeitlau. Ni fydd hyn yn cynnwys fideos o natur dechnegol neu lle bydd y galw am fersiwn Cymraeg yn debygol o fod yn llai na 1000.

Hysbysebu yn yr awyr agored Pan fyddwn yn hysbysebu yng Nghymru gan ddefnyddio hysbysfyrddau, posteri neu negeseuon electronig, byddwn yn sicrhau bod yr hysbysebion yn cael eu harddangos yn ddwyieithog neu mewn achosion eithriadol, yn Gymraeg a Saesneg ar wahân, gan drin y ddwy iaith yn gyfartal.

Papurau newydd Pan fyddwn yn rhoi hysbysebion mewn papurau newydd neu gyhoeddiadau eraill fel rhan o ymgyrch hysbysebu yn y wasg yng Nghymru, bydd y rhain yn Gymraeg a Saesneg a byddant yn ymddangos gydai gilydd; bydd yr hysbysebion a roddir mewn cyhoeddiadau Cymraeg yn uniaith Gymraeg.

Arddangosfeydd a sioeau teithiol Pan fyddwn yn cymryd rhan mewn unrhyw arddangosfa neu ddigwyddiad yng Nghymru, byddwn yn sicrhau y bydd y deunydd arddangos yn Gymraeg a Saesneg neu mewn fformat dwyieithog. Os caiff y deunydd ei arddangos yn Gymraeg bydd maint, ansawdd, eglurder ac amlygrwydd y testun neur deunydd arddangos yn parchur egwyddor o gydraddoldeb.

Arolygon cyhoeddus Pan fydd gan ymatebwyr yng Nghymru gyfraniad nodedig iw wneud, byddwn yn sicrhau darpariaeth ar gyfer anghenion y Gymraeg. Byddwn yn cyfieithu llythyron a holiaduron ir Gymraeg, ac yn cynnal cyfweliadau dros y ffôn ac wyneb yn wyneb yn Gymraeg.

Bydd Cyfarwyddiadau Desg y Gyfarwyddiaeth Gyfathrebu yn cael eu diwygio i wneud cyfeiriad at anghenion yr Iaith Gymraeg. Gall y Gyfarwyddiaeth Gyfathrebu helpu isadrannau i benderfynu pa gyfrwng iw ddefnyddio i drosglwyddo neges a phryd y dylid sicrhau bod fersiynau Cymraeg ar gael.

5.6 Hysbysiadau Swyddogol A Hysbysiadau Cyhoeddus

Pan fyddwn yn arddangos hysbysiadau swyddogol neu hysbysiadau cyhoeddus eraill yng Nghymru, gan gynnwys hysbysebion am benodiadau cyhoeddus, byddwn yn sicrhau bod y fersiynau Cymraeg a Saesneg yn ymddangos gydai gilydd. Byddant yn gyfartal o ran maint, cynnwys, ansawdd ac amlygrwydd.

Pennod 6 Gweithredur cynllun

6.1 Cyfrifoldebau O Fewn Yr Adran Dros Drafnidiaeth, Llywodraeth Leol Ar Rhanbarthau

Rydym yn ymrwymedig i weithredu o fewn termaur cynllun, ac i sicrhau bod pawb yn yr Adran yn gyfarwydd âr cynllun, yn gwybod sut y dylid ei weithredu ar hyn a ddisgwylir ohonynt. Bydd yr uwch reolwyr yn gyfrifol ir Ysgrifennydd Gwladol am ei lwyddiant. Mae gan Bennaeth y Gyfarwyddiaeth Gyfathrebu gyfrifoldeb cyffredinol dros gydlynur cynllun, dros fonitroi weithrediad, ac am gyflwyno adroddiad arno ir uwch reolwyr. Rheolwyr yr Isadrannau fydd yn gyfrifol am weithredu agweddau ar y cynllun syn berthnasol iw gwaith, ac am sicrhau bod eu staff yn cyflwyno gwasanaethau syn unol âr cynllun.

Caiff y mesurau o fewn y cynllun eu hintegreiddio o fewn prosesau gweinyddol arferol yr Adran.

6.2 Gwasanaethau Cyfieithu

Byddwn yn sicrhau bod unrhyw sefydliadau cyfieithu a ddefnyddiwn gennym yn darparu gwasanaeth cyflym o safon. Byddwn yn sicrhau bod ganddynt eu systemau monitro ansawdd mewnol eu hunain a bod y rhain yn gweithredun foddhaol.

6.3 Gwasanaethau A Gyflwynir Ar Ran Y Sefydliad Gan Bartïon Eraill

Pan gaiff y gwasanaethau rydym yn eu darparu ir cyhoedd yng Nghymru eu cyflenwi gan sefydliadau eraill megis asiantau, ymgynghorwyr, contractwyr a chyrff gwirfoddol, byddwn yn sicrhau bod y cytundebau yn gyson â thermaur Cynllun hwn au bod yn dynodir gofynion o ran defnydd y Gymraeg mewn dogfennaeth berthnasol.

Caiff Canllaw yr Adran i Gaffaeliad ei ddiwygio i ymgorffori cyngor ir isadrannau llinell ynghylch cyfrifoldebaur contractwyr dros fodloni gofynion y Gymraeg. Bydd yr Isadrannau Nawdd yn rhoi trefniadau monitro ar waith i sicrhau bod ymgynghorwyr a chontractwyr yn cydymffurfio âr gofynion hyn.

6.4 Cyfleusterau Cyfrifiadurol

Nid ydym yn rhagweld y bydd angen newid cyfleusterau TG presennol yr Adran er mwyn gweithredur mesurau a gynhwysir yn y Cynllun hwn. Byddwn yn sicrhau bod y manylebau ar gyfer y systemau newydd neur systemau syn cymryd eu lle yn ystyried darpariaethaur Cynllun hwn ac anghenion pobl eraill syn dymuno darparu gwasanaeth dwyieithog yng Nghymru.

Pennod 7 Monitror cynllun

7.1 Pwy Syn Gyfrifol Am Fonitror Cynllun

Cydlynir y broses fonitro gan y Gyfarwyddiaeth Gyfathrebu.

Bob blwyddyn, bydd Pennaeth y Gyfarwyddiaeth yn cyflwyno adroddiad ar gynnydd i uwch reolwyr a Gweinidogion yr Adran, ac anfonir copi at Fwrdd yr Iaith Gymraeg. Cyhoeddir crynodeb or adroddiad yn ein Hadroddiad Blynyddol. Lle y bo angen, bydd hyn yn cynnwys rhesymau dros beidio â bodlonir safonau a nodir yn y cynllun hwn ac eglurhad or camau y byddwn yn eu cymryd i unionir sefyllfa.

7.2 Agweddau Iw Monitro

Byddwn yn monitror agweddau canlynol ar y cynllun:

  • cyflawniadau yn erbyn yr amserlen or mesurau unigol a nodir yn y cynllun hwn;
  • y dylid ystyried anghenion y Gymraeg pan fydd polisïau a mentrau newydd syn berthnasol ir cyhoedd yng Nghymru wrthin cael eu datblygu. Y Gyfarwyddiaeth Gyfathrebu fydd yn gyfrifol am ddod o hyd i enghreifftiau o arfer da drwy wneud cais blynyddol ir Isadrannau;
  • ein bod yn helpu eraill i ddarparu gwasanaethau dwyieithog yng Nghymru (gweler 3.2);
  • bod ein hamser ateb gohebiaeth Gymraeg yn bodloni safonaur Rhaglen Siarter;
  • bod gan y cyfieithwyr y mae gennym gontract nad ywn ymrwymo â hwy eu systemau monitro ansawdd eu hunain;
  • nifer y cyhoeddiadau ar ffurflenni a gynhyrchir yn Gymraeg neun ddwyieithog;
  • yr archebion ar gyfer cyhoeddiadau Cymraeg (wediu prisio ac am ddim) yn cael eu monitro drwy Uned Ddosbarthur Gyfarwyddiaeth Gyfathrebu;
  • manylion yr ymgyrchoedd hysbysebu a chyhoeddusrwydd yn Gymraeg;
  • nifer y cyfarfodydd âr cyhoedd pan wnaed cais am gyfleusterau cyfieithu ar y pryd a sicrhawyd eu bod ar gael. Bydd y Gyfarwyddiaeth Gyfathrebu yn eu monitro drwy wneud cais blynyddol ir Isadrannau llinell;
  • niferoedd staff yr Adran syn gallu siarad neu ysgrifennu Cymraeg;
  • bod y contractwyr yn bodlonir ymrwymiadau a nodwyd yng nghynllun yr Adran wrth gyflwyno gwasanaethau ar ein rhan ir cyhoedd yng Nghymru. Bydd y Gyfarwyddiaeth Gyfathrebu yn ceisio gwybodaeth ac enghreifftiau drwy wneud cais blynyddol ir Isadrannau.
  • nifer a natur y cwynion neur awgrymiadau a dderbyniwyd ynghylch Gwasanaethau Cymraeg yr Adran.

7.3 Newidiadau Ir Cynllun

Byddwn yn ymgynghori â Bwrdd yr Iaith Gymraeg ymlaen llaw yngl yn ag unrhyw gynigion a fydd yn effeithio ar y cynllun neun effeithio ar gynlluniau sefydliadau eraill.

Ni fyddwn yn newid y cynllun heb gytundeb y Bwrdd.

7.4 Cyhoeddusrwydd Ar Gyfer Cyfleusterau Cymraeg Yr Adran

Byddwn yn hysbysebur ffaith i ni fabwysiadur cynllun cymeradwy drwy roi hysbysiadau yn y wasg Gymraeg, ar dudalennau Rhyngrwyd yr Adran ac yn ein Hadroddiad Blynyddol.

Bydd copïau dwyieithog or cynllun ar gael gan

DfT Free Literature
PO BOX 236
Wetherby
LS23 7NB

Pennod 8 Gwelliannau ir cynllun/cwynion

8.1 Awgrymiadau Ar Gyfer Gwelliant

Rydym yn croesawu awgrymiadau gan y cyhoedd ar staff ar gyfer gwella ein gwasanaeth Cymraeg. Dylid cyfeirio pob awgrym at y Gyfarwyddiaeth Gyfathrebu yn

DfT Editorial and internal communications
Communications Directorate
Great Minster House
33 Horseferry Road
London SW1P 4DR

Telephone: 020 7944 4695

8.2 Cwynion

Dylid cyfeirio unrhyw gwynion ynghylch y modd yr ydym wedi gweithredur cynllun neu ynghylch y gwasanaeth Cymraeg hefyd at y Gyfarwyddiaeth Gyfathrebu ir cyfeiriad uchod. Bydd yr uned reoli syn gyfrifol yn ymateb i gwynion syn berthnasol i fesurau Cymraeg penodol. Bydd yr achwynwyr yn derbyn ateb ysgrifenedig yn iaith yr achwynydd.

Pennod 9 Targedau ac amserlen

Y DASG YR AMSERLEN (or dyddiad y caiff y Cynllun gymeradwyaeth ffurfiol gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg).
1. Hysbysebu mabwysiadu ein cynllun Iaith Gymraeg i bob aelod o staff yr Adran (Ganolog) drwy ryddhau datganiad ar ein gwasanaeth newyddion electronig Ar unwaith
2. Rhoi copi ar y Mewnrwyd (Infonet), ac erthygl yng nghylchlythyr y staff 1 mis
3. Dosbarthu arweiniad ir staff ar weithredur Cynllun, gan gynnwys defnyddio cyfleusterau cyfieithu a threfniadau cyllidebol cysylltiedig 2 mis
4. Trefnu contract nad ywn ymrwymo gyda chyfieithwyr Eisoes ar waith
5. Newid Gwerthuso Polisi ar gyfer Triniaeth Gyfartal iw wneud yn glir y dylair cyngor polisi i Weinidogion ystyried y goblygiadau o ran siaradwyr Cymraeg 3 mis
6. Newid y rheoliadau/ffurflenni penodol i ganiatáu darpariaeth ddwyieithog Ar sail achosion unigol fel y diwygir y ddeddfwriaeth, gan ddechrau 3 mis o ddyddiad cymeradwyon ffurfiol
7. Newid rheolau a gweithdrefnau Adrannol i ganiatáu darpariaeth ddwyieithog Ar sail achosion unigol, gan ddechrau 3 mis o ddyddiad cymeradwyon ffurfiol
8. Cydweithredu yn y broses o addasu systemau cyfrifiadurol Asiantaethau/yr NDPB er mwyn eu galluogi i ddarparu gwasanaethau dwyieithog Ar sail achosion unigol, 3 mis o ddyddiad cymeradwyon ffurfiol
9. Newid Llawlyfr Nawdd yr NDPB 3 mis
10. Newid ffurflenni ceisiadau am grant Ar sail achosion unigol, gan ddechrau 3 mis o ddyddiad cymeradwyon ffurfiol
11. Anfon copi o Gynllun yr Adran at ein Hasiantaethau/cyrff noddedig syn cyflwyno gwasanaethau ir cyhoedd yng Nghymru ond nad oes ganddynt eu cynlluniau eu hunain 2 mis
12. Ateb pob gohebiaeth Gymraeg yn Gymraeg Ar unwaith
13. Bodloni Safon y Rhaglen Siarter ar gyfer ateb gohebiaeth yn Gymraeg 6 mis
14. Gweithredur ymrwymiadau ar gyfer cyfarfodydd cyhoeddus a chynadleddau 6 mis
15. Gweithredur ymrwymiadau ar gyfer gwefan y Rhyngrwyd 6 mis
16. Gweithredur ymrwymiadau ar gyfer Llinellau Cymorth 6 mis
17. Paratoi gwaith celf iw ddefnyddio ar benawdau llythyrau 6 mis
18. Sicrhau bod y cyhoeddiadau sydd o fewn cylch gwaith y cynllun ar gael yn Gymraeg neu yn ddwyieithog Cyhoeddiadau newydd ar rhai a ailgyhoeddwyd: ar sail achosion unigol, gan ddechrau o ddyddiad cymeradwyon ffurfiol
19. Gweithredur ymrwymiadau ar gyfer hysbysebu a chyhoeddusrwydd Ar sail achosion unigol, gan ddechrau o ddyddiad cymeradwyon ffurfiol
20. Newid arweiniad a nodiadau canllaw allweddol y Gyfarwyddiaeth Gyfathrebu i gynnwys cyfeiriadau penodol at ofynion y Gymraeg 3 mis
21. Cynnwys cyfeiriad at ofynion y Gymraeg yn nhaflen Good Forms Make Sense yr IMD 3 mis
22. Cynnwys gwybodaeth am gyhoeddiadau sydd ar gael yn Gymraeg yng nghatalog Cyhoeddiadaur Adran (ar ffurf bapur ac ar y Rhyngrwyd) 3 mis
23. Sicrhau bod hysbysiadau swyddogol neu hysbysiadau cyhoeddus eraill ar gael yn Gymraeg a Saesneg Ar sail achosion unigol, o ddyddiad cymeradwyon ffurfiol
24. Gweithredur ymrwymiadau ar gyfrifoldebaur contractwyr Ar sail achosion unigol, gan ddechrau 6 mis o ddyddiad cymeradwyon ffurfiol
25. Sefydlu systemau monitro 3 mis
26. Sicrhau bod y cynllun ar gael ir cyhoedd drwy osod copi ar wefan Rhyngrwyd yr Adran, a sicrhau bod copïau ar ffurf bapur ar gael drwy gyfrwng ein Man Ymholiadau Cyhoeddus 1 mis
27. Rhoi trefniadau ar waith ar gyfer delio â chwynion ac awgrymiadau ar gyfer gwelliant 3 mis
28. Paratoir adroddiad blynyddol ir Ysgrifennydd Parhaol ar y cynnydd wrth weithredur cynllun Iaith Gymraeg. Anfon copi or adroddiad i Fwrdd yr Iaith Gymraeg 1 flwyddyn (neu i gyd-ddigwydd â chylch nesaf yr adroddiadau blynyddol)
29. Cyhoeddi crynodeb o 28 uchod yn adroddiad Blynyddol yr Adran. Sicrhau ei fod ar gael ar wefan yr Adran ar y Rhyngrwyd. 1 flwyddyn (neu i gyd-ddigwydd â chylch nesaf yr adroddiadau blynyddol)