Cynllun iaith Gymraeg

Wrth ymgymryd â busnes cyhoeddus yng Nghymru, mae’r ieithoedd Cymraeg a Saesneg yn cael eu trin ar sail cyfartal.

This information page was withdrawn on

This page is no longer current. / Mae’r dudalen hon wedi’i harchifo.


Mae ein Cynllun Iaith yn egluro sut mae’r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol yn darparu eu gwasanaethau yn Gymraeg.

Diweddarwyd ddiwethaf: 9 Tachwedd 2018

Cyflwyniad

O dan Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 (y Ddeddf), rhaid i bob corff cyhoeddus sy’n darparu gwasanaethau ar gyfer y cyhoedd yng Nghymru baratoi cynllun sy’n disgrifio sut y bydd yn darparu’r gwasanaethau hynny yn Gymraeg.

Cefndir y sefydliad

Sefydlwyd yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS) yng Ngorffennaf 2016, yn dilyn penderfyniad y DU i ymadael â’r Undeb Ewropeaidd a’r newidiadau i’r Peirianwaith Llywodraethu a ddaeth yn sgil hynny. Mae’n tynnu ynghyd portffolios polisi busnes a gwyddoniaeth yr hen Adran Fusnes, Arloesi a Sgiliau (BIS) a phortffolio polisi llawn yr hen Adran Ynni a Newid Hinsawdd (DECC). Ei nod yw meithrin cysylltiadau rhwng y meysydd diwydiant, ynni a newid yn yr hinsawdd, a chaniatáu ar gyfer gosod ffocws unedig ar farchnadoedd, buddsoddwyr a defnyddwyr. Fel arweinydd polisi ar gyfer mwy na 25 o sectorau economaidd, mae gan BEIS un o’r portffolios mwyaf estynedig a chymhleth o ran ymadael â’r UE, ac mae ymadael â’r UE yn berthnasol i’w holl amcanion fel adran.

Fel yr oedd Adroddiad a Chyfrifon Blynyddol yr Adran ar gyfer 2016-2017 yn ei nodi, pwrpas yr Adran yw:

…gyrru’r newidiadau a fydd yn creu economi sy’n gweithio i bawb, fel bod yna leoedd rhagorol ym mhob rhan o’r Deyrnas Unedig i bobl weithio ac i fusnesau fuddsoddi, arloesi a thyfu ynddynt.

Cynllun Iaith Gymraeg BEIS

Tan fis Gorffennaf 2016, roedd BIS a DECC yn gweithredu eu Cynlluniau Iaith unigol eu hunain. Cymeradwywyd Cynllun Iaith cyntaf BIS gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg ym mis Awst 2000. Cafodd ei ddiwygio wedyn yn 2009 a’i gymeradwyo gan y cyn Fwrdd yr Iaith Gymraeg. Cymeradwywyd Cynllun Iaith DECC gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg ym mis Mawrth 2012.

Mae Cynllun Iaith Gymraeg BEIS yn disodli’r ddau Gynllun Iaith yma ac yn pennu sut y bydd BEIS yn gweithredu’r egwyddor, a sefydlwyd gan Ddeddf yr Iaith Gymraeg, sef y dylai’r Gymraeg a’r Saesneg gael eu trin yn gyfartal wrth gynnal busnes cyhoeddus a gweinyddu cyfiawnder yng Nghymru, cyn belled ag y bo hynny’n briodol o dan yr amgylchiadau ac yn rhesymol ymarferol. Mae’r cynllun yn cwmpasu’r gwasanaethau a ddarparwn ar gyfer y cyhoedd yng Nghymru.

Yn y cynllun hwn, mae’r cyhoedd yn golygu unigolion. Mae’n cynnwys y cyhoedd ar led, neu gyfran o’r cyhoedd sy’n gweithredu mewn capasiti preifat. Fodd bynnag, nid yw’n cynnwys pobl sy’n gweithredu mewn capasiti sy’n cynrychioli’r Goron, y Llywodraeth neu’r Wladwriaeth. O ganlyniad, er eu bod yn bersonau cyfreithiol, nid yw pobl sy’n cyflawni swyddogaethau o natur gyhoeddus yn dod o fewn ystyr y gair cyhoedd wrth iddynt gyflawni’r swyddogaethau swyddogol hynny.

Paratowyd y cynllun hwn o dan Adran 21 o’r Ddeddf - ac yn unol â’r canllawiau a gyhoeddwyd gan Gomisiynydd yr Iaith Gymraeg o dan Adran 9 o’r Ddeddf. Daeth i rym ar 9 Tachwedd 2018, ac mae’n disodli cynllun BIS a gymeradwywyd gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg yn 2009 a chynllun DECC a gymeradwywyd gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg yn 2012.

Ceir gwybodaeth bellach am gwmpas a phwrpas Cynlluniau Iaith yng nghanllawiau Comisiynydd y Gymraeg.

Cwmpas y Cynllun

Mae cynllun BEIS yn berthnasol i holl swyddogaethau pencadlys BEIS ac mae’r adran yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar faterion ynghylch y Gymraeg fel y bo’n briodol.

Tra bod yr Asiantaethau Gweithredol yn gweithredu o fewn canllawiau polisi cyffredinol a bennir gan y Gweinidogion, mater i Brif Weithredwr pob Asiantaeth unigol yw’r gwaith pob dydd, gan gynnwys gweithredu mesurau Deddf yr Iaith Gymraeg. Lle nad oes gan Asiantaethau BEIS eu Cynlluniau Iaith eu Hunain, bydd BEIS yn agor ei gynllun ei hun i’r Asiantaethau hynny ac yn eu hannog i fodloni anghenion y cyhoedd sy’n siarad Cymraeg yn unol â’r egwyddorion a bennir yn Neddf yr Iaith Gymraeg.

Bydd BEIS yn defnyddio ei ddylanwad i hybu ymwybyddiaeth am anghenion siaradwyr Cymraeg, a bydd yn annog y Cyrff Cyhoeddus Anadrannol perthnasol i fabwysiadu egwyddorion y Ddeddf.

Cynllunio a dapraru gwasanaetha

Polisïau, deddfwriaeth a mentra

Bydd ein polisïau, ein mentrau a’n gwasanaethau’n cyd-fynd â’r cynllun hwn. Byddant yn cefnogi defnydd o’r Gymraeg, a lle bo’n briodol, byddant yn helpu’r cyhoedd yng Nghymru i ddefnyddio’r Gymraeg yn rhan o’u bywydau pob dydd.

Pan fyddwn yn cyfrannu at ddatblygiad neu gyflawniad polisïau, mentrau, gwasanaethau neu ddeddfwriaeth newydd dan arweiniad sefydliadau eraill, fe wnawn hynny mewn ffordd sy’n cyd-fynd â’r cynllun hwn. Byddwn yn sicrhau hefyd, lle bynnag y bo hynny’n briodol, y bydd deddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth dan nawdd yr Adran yn cefnogi defnydd o’r Gymraeg. Byddwn yn defnyddio canllawiau Swyddfa’r Cabinet ar Asesu Effaith wrth werthuso effaith polisïau a mentrau newydd ar y Gymraeg.

Darparu gwasanaethau

Byddwn yn sicrhau bod ein gwasanaethau ar gael yn Gymraeg, ac yn rhoi gwybod i’r cyhoedd eu bod ar gael. Bydd hyn yn galluogi siaradwyr Cymraeg i gyrchu ein gwasanaethau.

Ein swyddogaethau rheoliadol – a’r gwasanaethau a ddarperir ar ein rhan gan drydydd partïon

Bydd unrhyw gytundebau neu drefniadau a wnawn gyda thrydydd partïon yn cyd-fynd â’r rhannau perthnasol o’r cynllun hwn pan fo’r cytundebau neu’r trefniadau hynny’n ymwneud â darparu gwasanaethau ar gyfer y cyhoedd yng Nghymru. Bydd hyn yn cynnwys gwasanaethau sy’n cael eu contractio allan, dyfarnu trwyddedau a dyfarnu mathau eraill o ganiatâd.

Safonau ansawdd

Bydd safon y gwasanaethau a ddarperir yn Gymraeg a Saesneg llawn cystal â’i gilydd ac fe’u darperir o fewn yr un amserlenni.

Dyfarnu grantiau a benthyciadau

Wrth ddyfarnu grantiau a benthyciadau ar gyfer gweithgareddau sy’n effeithio ar y cyhoedd yng Nghymru, byddwn yn cynnwys amodau sy’n ymwneud â defnyddio’r Gymraeg lle bo hynny’n briodol. Yn hynny o beth, byddwn yn cadw canllawiau Comisiynydd y Gymraeg ar ddyfarnu grantiau a benthyciadau mewn cof.

Delio â’r cyhoedd sy’n siarad Cymraeg

Gohebiaeth

Bydd ein harfer gyffredin fel a ganlyn:

Pan fo Uned Gohebiaeth Weinidogol BEIS yn cychwyn gohebu ag unigolyn, grŵp neu sefydliad yng Nghymru, byddwn yn gwneud hynny’n ddwyieithog oni bai ein bod ni’n gwybod bod yn well ganddynt ohebu yn uniaith Gymraeg neu’n uniaith Saesneg. Pan fo aelod o’r cyhoedd yng Nghymru’n ysgrifennu atom yn ddwyieithog neu yn Gymraeg, byddwn yn anfon ymateb yn Gymraeg (os oes angen ymateb).

Bydd Uned Gohebiaeth Weinidogol BEIS yn cadw cofnod o’r bobl hynny sydd am ohebu â ni yn Gymraeg. Bydd ein hamser targed ar gyfer ateb yr un fath ag ar gyfer ateb llythyrau yn Saesneg, sef 15 diwrnod am ohebiaeth Weinidogol ac 20 diwrnod gwaith am geisiadau Rhyddid Gwybodaeth.

Os oes angen cyhoeddi fersiynau Cymraeg a Saesneg o unrhyw ohebiaeth ar wahân, ein harfer cyffredin fydd sicrhau bod y ddwy fersiwn ar gael yr un pryd. Bydd unrhyw atodiadau a anfonir gyda llythyrau dwyieithog yn ddwyieithog lle bo modd.

Bydd yr uchod yn berthnasol i ohebiaeth trwy e-bost yn ogystal â’r holl ohebiaeth Gymraeg ar ffurf copi caled. Bydd staff sy’n gweithio yng Nghymru yn cynnwys neges ddwyieithog ar bob llofnod e-bost allanol sy’n nodi bod BEIS yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Llythyrau penderfyniad

Os bwriedir i lythyr penderfyniad gyfleu polisi i gynulleidfa ehangach o lawer na’r rhai sydd â rhan uniongyrchol yn yr ymholiad, neu drefn statudol arall, byddwn yn ystyried a ddylid ei drin fel cyhoeddiad o dan gwmpas y cynllun hwn.

Cysylltiadau dros y ffôn

Byddwn yn sicrhau bod y cyhoedd yn gallu siarad â ni yn Gymraeg neu Saesneg wrth gysylltu â ni dros y ffôn. Os yw’r galwr yn dymuno siarad Cymraeg ond nad yw’n dod i gysylltiad â siaradwr Cymraeg cymwys yn y lle cyntaf, rhoddir dewis i’w galwr, fel y bo’n briodol, o gael galwad nôl gan siaradwr Cymraeg cyn gynted â phosibl, parhau â’r alwad yn Saesneg, neu gyflwyno eu hymholiad yn Gymraeg ar ffurf llythyr neu neges e-bost. Fel uchod, byddwn yn cadw cofnod o’n dewis iaith.

Cyfarfodydd cyhoeddus

Bydd BEIS yn sicrhau bod croeso i’r cyhoedd sy’n mynychu cyfarfodydd cyhoeddus e.e. gwrandawiadau ffurfiol, ymchwiliadau, achosion cyfreithiol ac achlysuron swyddogol tebyg, gyfrannu yn Gymraeg a’u bod yn gallu gwneud hynny. Bydd gwahoddiadau a hysbysiadau i hysbysebu achlysuron yng Nghymru’n ddwyieithog, ac fel rheol byddant yn gwahodd y bobl hynny sydd am siarad yn Gymraeg i hysbysu trefnydd yr achlysur ymlaen llaw fel y gellir trefnu cyfleusterau cyfieithu ar y pryd.

Ein harfer gyffredin fydd darparu papurau a gwybodaeth arall ar gyfer y cyfarfodydd cyhoeddus hyn yn Gymraeg a Saesneg - ac i adroddiadau neu bapurau a gynhyrchir yn sgil cyfarfodydd cyhoeddus gael eu cyhoeddi yn Gymraeg a Saesneg yn unol â’r ymrwymiadau cyhoeddi a bennir yn y cynllun hwn.

Cyfarfodydd eraill gyda’r cyhoedd

Pan fyddwn yn trefnu neu’n mynychu cyfarfodydd preifat gyda’r cyhoedd, byddwn yn canfod eu dewis iaith ar y cyfle cyntaf posibl ac yn sicrhau bod aelod addas o staff cymwys sy’n medru’r Gymraeg yn delio â’r bobl hynny y mae’r Gymraeg yn ddewis iaith iddynt.

Os nad oes unrhyw siaradwr Cymraeg addas a chymwys ar gael, byddwn yn cynnig y dewis iddynt barhau â’r cyfarfod yn Saesneg, neu ddelio â’r mater trwy ohebu yn Gymraeg. Bydd hyn yn berthnasol hefyd i gyfarfodydd a gynhelir gan ddefnyddio offer fideo-gynadledda ac offer tebyg.

Cysylltiadau eraill â’r cyhoedd yng Nghymru

Pan fyddwn yn cyflawni arolygon cyhoeddus yng Nghymru, ein harfer gyffredin fydd sicrhau bod pob agwedd ar y cysylltiadau â’r cyhoedd yn ddwyieithog. Lle bynnag y bo hynny’n ymarferol, gofynnir i’r ymatebwyr a ydynt am ymateb i’r arolwg yn Gymraeg neu yn Saesneg.

Pan fyddwn yn trefnu seminarau, cyrsiau hyfforddi neu achlysuron tebyg ar gyfer y cyhoedd yng Nghymru, byddwn yn asesu’r angen am eu darparu yn Gymraeg.

Bydd unrhyw arddangosiadau clyweledol, teithiau sain neu gyfryngau rhyngweithiol y byddwn yn eu paratoi ar gyfer y cyhoedd yng Nghymru yn ddwyieithog.

Rydyn ni’n cydnabod bod cysylltiadau â’r cyhoedd yn digwydd mwyfwy trwy’r cyfryngau cymdeithasol. Byddwn yn mynd ati mewn ffordd bragmataidd yn hyn o beth, ac yn ymrwymo i drydar yn Gymraeg a Saesneg lle bo’r cynnwys yn targedu cynulleidfa yng Nghymru, a darperir ymatebion yn yr un iaith â’r sylw neu neges a sbardunodd yr ymateb.

Ein hwyneb cyhoeddus

Ymgyrchoedd cyhoeddusrwydd, arddangosfeydd a hysbysebu

Caiff ein holl ddeunyddiau cyhoeddusrwydd, gwybodaeth i’r cyhoedd, arddangos a hysbysebu ar gyfer y cyhoedd yng Nghymru eu cynhyrchu’n ddwyieithog, neu fel fersiynau Cymraeg a Saesneg ar wahân. Os oes angen cyhoeddi’r fersiynau Cymraeg a Saesneg ar wahân, bydd y ddwy fersiwn yn gyfartal o ran eu maint, amlygrwydd ac ansawdd - a bydd y ddwy fersiwn ar gael yr un pryd, ac yr un mor hawdd cael gafael arnynt.

Bydd unrhyw hysbysebion a osodir mewn papurau newydd cyfrwng Saesneg (neu gyfryngau tebyg) a ddosberthir yn bennaf neu’n llwyr yng Nghymru’n ddwyieithog neu byddant yn ymddangos fel fersiynau Cymraeg a Saesneg ar wahân (gyda’r ddwy fersiwn yn ymddangos yr un pryd ac yn gyfartal o ran eu maint, amlygrwydd ac ansawdd.

Caiff hysbysebion teledu, sinema a radio sy’n targedu Cymru’n benodol eu cyflawni yn Gymraeg a Saesneg. Bydd ymgyrchoedd radio a ddarlledir ar Radio Cymru neu yn ystod rhaglenni cyfrwng Cymraeg ar orsafoedd radio masnachol yn Gymraeg. Ein harfer gyffredin fydd osgoi defnyddio isdeitlau Cymraeg neu drosleisio hysbysebion i’r Gymraeg.

Darperir unrhyw linellau ffôn a dulliau eraill o ymateb i ymgyrchoedd sy’n targedu Cymru yn ddwyieithog, neu darperir gwasanaeth ymateb ar wahân yn Gymraeg.

Cyhoeddiadau

Caiff cyhoeddiadau sydd o ddiddordeb i’r cyhoedd yn gyffredinol eu rhyddhau yn Gymraeg. Caiff unrhyw beth sy’n ymwneud â Chymru neu ardal yng Nghymru ei ryddhau yn Gymraeg. Bydd hyn yn cynnwys:

  • Dogfennau polisi ac ymgynghori sy’n ymwneud â materion sydd o ddiddordeb i’r cyhoedd
  • Pamffledi a thaflenni sy’n targedu’r cyhoedd
  • Ffurflenni a deunyddiau esboniadol ar gyfer y cyhoedd
  • Cylchlythyrau a llythyrau safonol

Lle byddwn yn cynhyrchu deunyddiau ar gyfer y cyhoedd yn ddwyieithog, caiff y fersiynau Cymraeg a Saesneg eu cyhoeddi gyda’i gilydd fel rheol, a byddant yn gyffelyb. Ar brydiau, bydd modd cynnwys y ddwy fersiwn yn yr un ddogfen pan fo hynny’n briodol. Gallai’r rhesymau dros beidio â chynnwys y ddwy fersiwn mewn un ddogfen fod am y byddai hynny’n creu dogfen sy’n rhy hir neu swmpus, neu am resymau ymarferol neu amgylcheddol. Bydd pob fersiwn yn nodi’n glir bod y deunydd ar gael yn yr iaith arall a bydd y ddwy fersiwn yr un mor hawdd â’i gilydd i gael gafael arnynt.

Os nad yw’r ddogfen ar gael yn rhad ac am ddim, ni fydd pris dogfen ddwyieithog yn fwy na phris dogfen uniaith - a chodir yr un pris am y fersiynau Cymraeg a Saesneg ar wahân.

Bydd yr uchod yn berthnasol hefyd i ddeunyddiau sy’n cael eu rhyddhau yn electronig ar ein gwefan, ar CD Rom neu trwy gyfrwng arall.

Gwasanaethau a gwybodaeth ddigidol

Mae holl wefannau Adrannau’r Llywodraeth wedi cael eu huno ar GOV.UK. Mae’r wefan GOV.UK, a gynhelir gan Wasanaeth Digidol y Llywodraeth (GDS) yn casglu gwybodaeth a gwasanaethau o holl adrannau llywodraeth y DU, a channoedd o gyrff hyd-braich, ynghyd mewn un lle. Bydd ein gwefan yn cynnwys tudalennau yn Gymraeg a Saesneg a’n harfer gyffredin fydd darparu fersiynau Cymraeg o dudalennau rhyngweithiol.

Pryd bynnag y byddwn yn postio fersiynau Cymraeg o gyhoeddiadau ar y wefan GOV.UK. byddwn yn eu postio’r un pryd â’r fersiwn Saesneg.

Byddwn yn gweithio gyda’r GDS i ddarparu cyfieithiadau o’n tudalennau gwe.

Byddwn yn sicrhau bod y canlynol yn ymddangos ar GOV.UK ac ar ein tudalennau mewnrwyd:

  • gwelywio clir i’r tudalennau Cymraeg
  • fersiwn Gymraeg o dudalennau gwe a ddarperir gan BEIS
  • Cynllun Iaith Gymraeg BEIS (yn Gymraeg a Saesneg) a fersiynau Cymraeg o ddeunyddiau cyhoeddedig

Ffurflenni a deunyddiau esboniadol cysylltiedig

Ein harfer gyffredin fydd sicrhau bod pob ffurflen a deunyddiau esboniadol cysylltiedig at ddefnydd y cyhoedd yng Nghymru’n hollol ddwyieithog, gyda’r fersiynau Cymraeg a Saesneg gyda’i gilydd mewn un ddogfen. Bydd hyn yn cynnwys ffurflenni rhyngweithiol a gyhoeddir ar ein gwefan. Os oes angen cyhoeddi’r fersiynau Cymraeg a Saesneg ar wahân, bydd pob fersiwn yn nodi’n glir bod y deunydd ar gael yn yr iaith arall.

Byddwn yn anfon ffurflenni dwyieithog at y cyhoedd, lle bo hynny’n briodol, oni bai ein bod ni’n gwybod y byddai’n well gan y derbynwyr gael y wybodaeth yn uniaith Gymraeg neu’n uniaith Saesneg. Pan fo sefydliadau eraill yn dosbarthu ffurflenni ar ein rhan, byddwn yn sicrhau eu bod yn gwneud hynny yn unol â’r uchod. Mewnbynnir gwybodaeth i fersiwn Gymraeg o ffurflen yn Gymraeg.

Hunaniaeth gorfforaethol

Cynhyrchir papur pennawd Cymraeg ar gyfer gohebiaeth Gymraeg.

Lle cynhyrchir dogfennau’n ddwyieithog neu yn Gymraeg bydd enw BEIS, Department for Business, Energy and Industrial Strategy, yn aros er mwyn sicrhau hunaniaeth brand yr Adran, ond bydd disgrifiad yn Gymraeg.

Hysbysiadau swyddogol, hysbysiadau cyhoeddus a hysbysebion recriwtio staff

Bydd hysbysiadau swyddogol, hysbysiadau cyhoeddus a hysbysiadau recriwtio staff a osodir mewn papurau newydd (neu gyfryngau tebyg) cyfrwng Saesneg a ddosberthir yn bennaf neu’n llwyr yng Nghymru’n ddwyieithog, neu byddant yn ymddangos fel fersiynau Cymraeg a Saesneg ar wahân. Bydd hysbysiadau mewn cyhoeddiadau cyfrwng Cymraeg yn ymddangos yn Gymraeg.

Bydd y fersiynau Cymraeg a Saesneg yn gyfartal o ran eu fformat, maint, ansawdd ac amlygrwydd - boed wedi eu cynhyrchu fel un fersiwn ddwyieithog, neu fel hysbysiadau Cymraeg a Saesneg ar wahân.

Yn y cyfryngau cyfrwng Saesneg, gellir hysbysebu swyddi lle mae’r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol yn Gymraeg, gan roi disgrifiad cryno yn Saesneg.

Gall hysbysiadau recriwtio a osodir mewn cyfnodolion cyfrwng Saesneg (a chyhoeddiadau eraill) a ddosberthir ledled y DU fod yn Saesneg, oni bai bod y swydd yn un lle mae’r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol, ac os felly gall yr hysbysiad fod yn hollol ddwyieithog, neu yn Gymraeg ag esboniad cryno yn Saesneg.

Bydd unrhyw hysbysiadau swyddogol, hysbysiadau cyhoeddus neu hysbysiadau recriwtio staff a osodir yn unrhyw le arall yng Nghymru’n ddwyieithog.

Datganiadau i’r wasg a chysylltiadau â’r cyfryngau

Cyhoeddir datganiadau i’r cyfryngau yng Nghymru yn Gymraeg a Saesneg lle bo’r mater o dan sylw o ddiddordeb penodol i’r cyhoedd yng Nghymru. Lle bo amserlenni’n caniatáu, cyhoeddir y fersiynau Cymraeg a Saesneg yr un pryd.

Gweithredu’r cynllun

Staffio

Byddwn yn ceisio gwybodaeth am sgiliau iaith staff cyfredol ac ymgeiswyr am swyddi lle bo’r swydd yn gofyn am gysylltiadau agos â’r cyhoedd sy’n siarad Cymraeg.

Recriwtio

Wrth recriwtio ar gyfer unrhyw swyddi â chysylltiadau helaeth a rheolaidd â’r cyhoedd yng Nghymru, byddwn yn ystyried a ddylai rhuglder yn y Gymraeg fod yn sgil dymunol neu hanfodol - a byddwn yn nodi hynny yn y cymwysterau angenrheidiol a’r hysbysebion ar gyfer y swyddi hynny.

Hyfforddiant iaith

Byddwn yn ystyried cynorthwyo ac ariannu hyfforddiant ar gyfer staff sy’n dod i gysylltiad helaeth a rheolaidd â’r cyhoedd yng Nghymru - ac sydd am ddysgu Cymraeg neu wella eu sgiliau yn yr iaith. Byddwn yn caniatáu i staff fynychu cyrsiau yn ystod oriau gwaith pan fo angen.

Hyfforddiant galwedigaethol

Pan fo hynny’n ymarferol, byddwn yn darparu hyfforddiant galwedigaethol yn Gymraeg i ddatblygu gallu staff sydd, yn rhan o’u dyletswyddau, yn dod i gysylltiad helaeth a rheolaidd â’r cyhoedd yng Nghymru.

Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu

Gwnawn ddarpariaeth ar gyfer yr angen am ddarparu gwybodaeth a gwasanaethau yn Gymraeg, a gweithredu yn unol â’r cynllun hwn, wrth i ni ddatblygu, dylunio a phrynu cynhyrchion a gwasanaethau technoleg gwybodaeth a chyfathrebu.

Wrth ddatblygu neu gaffael systemau TGCh, byddwn yn cymryd safonau TGCh y Comisiynydd i ystyriaeth.

Gwaith mewn partneriaeth

Pan fyddwn yn gweithredu fel arweinydd strategol ac ariannol o fewn partneriaeth, byddwn yn sicrhau bod unrhyw agweddau sy’n ymwneud â gwasanaethau cyhoeddus yn cydymffurfio â’r cynllun hwn, ac eithrio lle bo gan y partner sy’n darparu’r gwasanaeth gynllun iaith. O dan yr amgylchiadau hynny, bydd ein gwasanaeth yn cydymffurfio â chynllun y partner sy’n darparu.

Pan fyddwn yn ymuno â phartneriaeth dan arweinyddiaeth sefydliad arall, bydd ein mewnbwn i’r bartneriaeth yn cydymffurfio â’r cynllun hwn a byddwn yn annog y partneriaid eraill i gydymffurfio, oni bai bod gan y sefydliad sy’n arwain gynllun iaith. O dan yr amgylchiadau hynny, byddwn yn annog y bartneriaeth i gydymffurfio â chynllun iaith y sefydliad arweiniol.

Pan fyddwn yn bartner mewn consortiwm, byddwn yn annog y consortiwm i gydymffurfio â’r cynllun hwn. Wrth weithredu yn enw’r consortiwm, byddwn yn gweithredu yn unol â’r cynllun hwn. Pan fyddwn yn gweithredu mewn consortiwm gyda sefydliadau eraill sydd â Chynlluniau Iaith, byddwn yn annog y consortiwm i benderfynu dilyn un cynllun yn ei holl waith.

Mae’r uchod ond yn cyfeirio at bartneriaethau sy’n ymwneud â gwasanaethau sydd ar gael i’r cyhoedd yng Nghymru.

Trefniadau mewnol

Mae awdurdod, cefnogaeth a chymeradwyaeth llwyr ein sefydliad y tu ôl i’r mesurau yn y cynllun hwn.

Y rheolwyr fydd yn gyfrifol am weithredu’r agweddau hynny ar y cynllun sy’n berthnasol i’w gwaith. Pennaeth yr Uned Hawliau Gwybodaeth fydd yn cydlynu’r gwaith sy’n angenrheidiol i gyflawni, monitro ac adolygu’r cynllun hwn.

Paratoir cynllun gweithredu manwl o ran sut y byddwn yn gweithredu’r cynllun, a chaiff ei ddiweddaru’n rheolaidd. Daw’r cynllun gweithredu i rym ar y dyddiad pan ddaw’r cynllun i rym. Bydd y cynllun yn cynnwys targedau, amserlenni ac adroddiad ar gynnydd yn erbyn pob targed.

Rhoddir cyhoeddusrwydd i’r cynllun ymysg ein staff, ac ymysg y cyhoedd yng Nghymru. Caiff ei gyhoeddi ar GOV.UK.

Caiff y canllawiau cyfredol i’n staff eu diwygio i adlewyrchu’r mesurau a gynhwysir yn y cynllun hwn.

Byddwn yn trefnu sesiynau briffio a hyfforddiant ar gyfer staff y mae’r diwygiadau i’r cynllun yn effeithio’n sylweddol arnynt. Bydd hyn yn codi ymwybyddiaeth am y cynllun hwn ac yn esbonio sut y bydd yn effeithio ar eu gwaith pob dydd.

Byddwn yn sicrhau ein bod yn defnyddio cyfieithwyr neu gyfieithwyr ar y pryd cymwys yn unig i’n cynorthwyo i gyflawni’r cynllun hwn trwy Wasanaethau FCO.

Cyflawnir unrhyw fath o gysylltiad â’r cyhoedd yng Nghymru nad yw’n dod o fewn cwmpas penodol y cynllun hwn mewn ffordd sy’n gyson ag egwyddorion cyffredinol y cynllun.

Monitro

Byddwn yn monitro ein cynnydd wrth gyflawni’r cynllun hwn yn erbyn y targedau a bennir yn y cynllun gweithredu sy’n cyd-fynd â’r cynllun (Atodiad A). Byddwn yn anfon adroddiadau monitro at Gomisiynydd y Gymraeg yn flynyddol, gan ddarparu amlinelliad o’n cynnydd wrth gyflawni’r cynllun.

Adolygu a diwygio’r cynllun

Byddwn yn adolygu’r cynllun hwn cyn pen pedair blynedd ar ôl iddo ddod i rym.

Gellir adolygu neu ddiwygio’r cynllun hwn ar unrhyw adeg oherwydd newidiadau i’n swyddogaethau, neu i’r amgylchiadau lle yr ydym yn cyflawni’r swyddogaethau hynny, neu am unrhyw reswm arall. Ni fyddwn yn gwneud unrhyw newidiadau i’r cynllun hwn heb gymeradwyaeth Comisiynydd y Gymraeg.

Cwynion ac awgrymiadau ar gyfer gwella’r cynllun

Dylid cyfeirio cwynion mewn perthynas â’r cynllun hwn, neu awgrymiadau ar ffyrdd o’i wella, at:

Yr Uned Hawliau Gwybodaeth

Rheoli Gwybodaeth a Hysbysrwydd
Yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol
2nd Floor, Orchard 2
1 Victoria Street
Llundain
SW1H 0ET

Ebost: ITD_KIM_Team@beis.gov.uk

Ffôn: 020 7215 5713

Byddwn yn cydweithredu â’r Comisiynydd i ddatrys unrhyw gwynion - ac yn ystod unrhyw ymchwiliadau a gyflawnir o dan Adran 17 o Ddeddf yr Iaith Gymraeg.

Targedau ac amserlen

Targed Gweithred Dyddiad cwblhau
1. Polisïau, deddfwriaeth a mentrau    
Polisïau, mentrau a gwasanaethau i fod yn gyson â’r cynllun Cynnwys mewn canllawiau/mentrau ymwybyddiaeth cyffredinol. Lansio’r cynllun
Bydd deddfwriaeth BEIS yn cefnogi defnydd o’r Gymraeg lle bo hynny’n briodol Atgoffa’r Gangen Seneddol. Sefydlu trefniadau i dynnu sylw’r timau Biliau. Lansio’r cynllun
2. Gohebiaeth    
Ymrwymiadau ar ymdrin â gohebiaeth sy’n dod i law yn Gymraeg ac ar ymdrin â dogfennau a amgaeeir gyda gohebiaeth Cynnwys hyn mewn menter gyffredinol i roi arweiniad/codi ymwybyddiaeth. Atgoffa’r MCU (Yr Uned Gohebiaeth Weinidogol). Lansio’r cynllun
Llythyrau penderfyniad a fwriedir i gyfleu polisi i gynulleidfa eang: ystyried a ddylid eu trin fel cyhoeddiadau. Cynnwys hyn mewn menter gyffredinol i roi arweiniad/codi ymwybyddiaeth. Hysbysu’r Gwasanaethau Cyfreithiol. Lansio’r cynllun
3. Cyfarfodydd Cyhoeddus    
Cynnig cyfleusterau cyfieithu ar y pryd mewn cyfarfodydd cyhoeddus Cynnwys hyn mewn menter gyffredinol i roi arweiniad/codi ymwybyddiaeth. Atgoffa FCO (Gwasanaethau Cyfieithu). Lansio’r cynllun
4. Ymgyrchoedd cyhoeddusrwydd, arddangosfeydd a hysbysebu    
Ymrwymiadau ar gyhoeddusrwydd, gwybodaeth i’r cyhoedd, deunyddiau arddangos a hysbysebu ar gyfer y cyhoedd yng Nghymru (gan gynnwys hysbysebion sinema a radio sy’n targedu Cymru). Atgoffa: Cyfathrebu; Penaethiaid y cyfarwyddiaethau perthnasol (CCP, ER) Lansio’r cynllun
Ystyried darparu llinellau ffôn ac ati a dulliau eraill o ymateb i ymgyrchoedd sy’n targedu Cymru yn ddwyieithog, neu gynnwys gwasanaeth ymateb ar wahân yn Gymraeg. Atgoffa: Cyfathrebu; Pennaeth Cyfathrebu CCP; Pennaeth Cyfathrebu ER; Rheolwr Contractau TGCh. Lansio’r cynllun
5. Cyhoeddiadau    
Ymrwymiadau sy’n ymwneud â chyhoeddiadau sydd o ddiddordeb i’r cyhoedd yn gyffredinol neu sy’n ymwneud â Chymru neu ardal yng Nghymru. Cynnwys hyn mewn menter gyffredinol i roi arweiniad/codi ymwybyddiaeth. Atgoffa: Cyfathrebu; Penaethiaid CCP, ER ac ati. Lansio’r cynllun
6. Hyfforddiant iaith    
Ystyried cynorthwyo ac ariannu hyfforddiant ar gyfer staff sy’n dod i gysylltiad helaeth a rheolaidd â’r cyhoedd yng Nghymru yn rhinwedd eu swyddi. Hysbysu AD. Parhaus - Lansio’r cynllun
7. Gwaith mewn Partneriaeth    
Ymrwymiadau wrth weithio mewn partneriaeth ag eraill. Cynnwys hyn mewn menter gyffredinol i roi arweiniad/codi ymwybyddiaeth. Lansio’r cynllun
8. Hyrwyddo’r Cynllun yn Fewnol    
Diweddaru tudalennau Cymraeg y Fewnrwyd.   Lansio’r cynllun
Hysbysu Cyfathrebu   Lansio’r cynllun
Erthygl yn Newyddlen GKIM.   Lansio’r cynllun
Darparu canllawiau mewnol ar gyfer staff BEIS am ymrwymiadau’r Cynllun a sut i roi ei egwyddorion ar waith.   Lansio’r cynllun