Am ein gwasanaethau

Ni waeth beth yw natur eich ymholiad neu eich rheswm dros gysylltu â'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA), rydym am sicrhau ein bod yn darparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol i chi.


Y canlyniad cywir

  • Byddwn yn darparu gwasanaethau archwilio rheoliadol, arbenigedd gwyddonol, milfeddygol a thechnegol, a gwasanaeth labordai o ansawdd da
  • Byddwn yn rhoi gwybodaeth i chi sy’n berthnasol i’ch busnes/eich anghenion
  • Byddwn yn ymchwilio i achos unrhyw broblemau ac yn gwneud popeth o fewn ein gallu i unioni pethau os byddant yn mynd o chwith

Y driniaeth gywir

  • Byddwn yn eich trin yn gwrtais a phroffesiynol
  • Byddwn yn ceisio adborth ac yn gwrando ac yn gweithredu arno
  • Byddwn yn cydymffurfio â Chod y Rheoleiddwyr

Yn brydlon

  • Byddwn yn ymateb ar unwaith i adroddiadau lle amheuir bod achos o glefyd egsotig hysbysadwy sy’n fygythiad uniongyrchol i iechyd pobl neu anifeiliaid
  • Lle y cytunir ar apwyntiadau gyda chi, byddwn yn anelu at fod yn brydlon
  • Byddwn yn cydnabod gohebiaeth ac yn ymateb i gwynion o fewn 15 diwrnod gwaith
  • Byddwn yn anelu at fodloni safonau ac amserlenni a gyhoeddwyd gennym

Hygyrch

  • Byddwn yn sicrhau y gallwch gysylltu â ni mewn ffyrdd sy’n syml a diffwdan
  • Byddwn yn darparu gwasanaeth 24 awr ar gyfer rhoi gwybod am achosion brys yn ymwneud ag iechyd a lles anifeiliaid
  • Byddwn yn eich rhoi mewn cysylltiad â’r bobl gywir i ddelio â’ch ymholiad

Cwsmeriaid

Hefyd, byddem yn disgwyl i’n cwsmeriaid wneud y canlynol:

  • Trin staff yn gwrtais
  • Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni am newidiadau perthnasol i’ch gwybodaeth
  • Cadw unrhyw apwyntiad sydd gennych gyda ni, neu roi gwybod i ni cyn gynted â phosibl os na fyddwch yn gallu mynd i’r apwyntiad