Datganiad i'r wasg

Moderneiddio Ystad y carchardai

Heddiw cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Cyfiawnder Chris Grayling y bydd carchar newydd ar gyfer 2,000 o garcharorion yn cael ei adeiladu ar hen safle Firestone yn Wrecsam, gogledd Cymru.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government
Photo courtesy of mikecogh on Flickr

Photo courtesy of mikecogh on Flickr

Ar ôl sicrhau buddsoddiad o £250 miliwn, bydd y gwaith o adeiladu’r carchar mwyaf yng Nghymru a Lloegr yn dechrau haf nesaf, yn amodol ar ganiatâd cynllunio. Hwn fydd y carchar cyntaf erioed yng ngogledd Cymru.

Bydd y carchar, a fydd yn weithredol erbyn diwedd 2017, yn hwb sylweddol i dwf yr economi leol, gan greu tua 1,000 o swyddi gwerthfawr, cyfleoedd ardderchog i fusnesau lleol a gwerth miliynau o bunnoedd mewn cyfleoedd adeiladu.

Meddai’r Gweinidog Carchardai Jeremy Wright:

Mae hyn yn hwb enfawr i economi Cymru ac yn ychwanegiad pwysig at ystâd y carchardai. Bydd hefyd yn galluogi troseddwyr o’r ardal i gael eu cadw’n agosach at eu cartrefi, a gwyddom fod hynny’n help i atal aildroseddu.

Mae carchardai newydd yn cynnig gwell gwerth am arian ac maent yn fwy effeithlon. Ein blaenoriaeth yw darparu digon o lefydd mewn carchardai ar gyfer y sawl a anfonir yno gan y llysoedd — ac i wneud hynny mewn ffordd sy’n rhoi’r gwerth gorau posibl am arian i’r trethdalwyr.

Meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones:

Mae’r ddadl dros gael carchar yng ngogledd Cymru wedi bod yn un gref o’r cychwyn, a dyna pam yr wyf wrth fy modd bod Wrecsam wedi cael ei ddewis fel y safle a ffefrir ar gyfer yr ychwanegiad diweddaraf at ystâd y carchardai.

Bydd adeiladu’r cyfleuster hwn y bu cymaint o alw amdano’n dod â buddiannau sylweddol i fusnesau lleol, ac yn creu hyd at 1,000 o swyddi yn yr ardal. Bydd yn hwyluso’r gwaith o adsefydlu troseddwyr gan ei gwneud yn haws i’w teuluoedd, eu cynghorwyr cyfreithiol a’r gwasanaeth prawf i ymweld â hwy, gan wneud y broses o’i hadsefydlu yn y gymuned yn haws. Bydd hefyd o fudd i les carcharorion gan roi mwy o gyfle i siaradwyr Cymraeg ddefnyddio’r iaith mewn amgylchedd ble mae ei harwyddocâd diwylliannol yn cael ei werthfawrogi.

Daw’r cyhoeddiad hwn fel rhan o raglen ehangach i foderneiddio ystâd y carchardai sy’n decach i’r trethdalwyr gweithgar, fel yr amlinellwyd heddiw gan yr Ysgrifennydd Cyfiawnder. Yn ogystal ag adeiladu carchar newydd yn Wrecsam, mae astudiaeth ddichonoldeb yn cael ei chynnal i’r posibilrwydd o adeiladu ail garchar mawr ar safle presennol Feltham yng Ngorllewin Llundain.

Ers mis Ionawr, mae’r Llywodraeth wedi cael gwared ar 2,800 o leoedd anstrategol ac aneconomaidd ac mae’n awr mewn sefyllfa i gau pedwar carchar arall, gan gael gwared ar 1,400 o lefydd aneconomaidd o’r ystâd.

Heddiw, cafwyd cyhoeddiad y bydd Carchardai EM Blundeston, Dorchester, Northallerton a Reading yn cau erbyn diwedd y flwyddyn. Bydd swyddogaeth Carchardai EM Downview, The Verne a Warren Hill yn newid. Rhagwelir y bydd y newidiadau hyn yn arwain at arbedion pellach o £30m yng nghyfanswm cyllideb y carchardai.

Bydd gennym ddigon o leoedd mewn carchardai gydol yr amser ar gyfer y rhai a anfonir atom gan y llysoedd ond am lai o gost ac yn y mannau cywir er mwyn ein helpu i leihau cyfraddau aildroseddu.

Cyhoeddwyd ar 4 September 2013