Stori newyddion

Disgwyl i orsafoedd Cymru dderbyn cyfran o hwb ariannol £20m Llywodraeth y DU i wella hygyrchedd

Gorsafoedd trên Grangetown, Pont-y-pŵl a New Inn, Llanilltud Fawr a Chastell-nedd i elwa o gyfran o hwb ariannol £20m i wella mynediad i bobl anabl

Accessible train station

Accessible train station

  • Y diweddaraf mewn cyfres o welliannau gan Ysgrifennydd Trafnidiaeth Llywodraeth y DU i gyflymu’r newid ar gyfer rhwydwaith trafnidiaeth fwy hygyrch.
  • Yn dilyn lansiad ymgyrch newydd i wella siwrneiau i bobl anabl wrth ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.

Mae disgwyl i deithwyr anabl elwa o welliannau hygyrchedd yng ngorsafoedd trên Grangetown, Pont-y-pŵl a New Inn, Llanilltud Fawr a Chastell-nedd diolch i gronfa £20m Llywodraeth y DU.

Caiff y gwelliannau a gyhoeddwyd gan Ysgrifennydd Trafnidiaeth Llywodraeth y DU, Grant Shapps heddiw (26 Chwefror) eu cyllido drwy’r rhaglen Mynediad i Bawb, a bydd yn cynnwys lifftiau newydd, toiledau hygyrch a sgriniau gwybodaeth i gwsmeriaid.

Daw’r newyddion wrth i Lywodraeth y DU lansio ei hymgyrch i wella siwrneiau teithwyr anabl ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol Trafnidiaeth Grant Shapps:

Mae’r gallu i deithio’n hawdd o A i B yn ffactor hollbwysig yn ein bywydau o ddydd i ddydd – ond nid dyna’r realiti i bawb.

Rwy’n cydnabod bod llawer mwy i’w wneud, a dyma’r rheswm pam ein bod yn gwneud 124 o orsafoedd trên ledled y wlad yn fwy hygyrch - rhan allweddol o lefelu mynediad i bobl anabl i drafnidiaeth ac agor cyfleoedd i bawb.

Dim ond dechrau agenda llawer mwy uchelgeisiol yw hyn. Fy nod yw mynd llawer pellach yn y blynyddoedd i ddod i helpu i sicrhau bod system drafnidiaeth ein gwlad yn un o’r rhai mwyaf hygyrch yn y byd.

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart:

Mae trafnidiaeth hygyrch yn hollbwysig i gysylltu pobl â gwaith, teuluoedd a ffrindiau. Dyna pam mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i adeiladu rheilffyrdd gwell i bob teithiwr ym mhob cwr o Gymru.

Fel rhan o’r ymrwymiad hwnnw, mae Llywodraeth y DU yn rhoi hwb ariannol o £20 miliwn i wella hygyrchedd gorsafoedd. Bydd hyn yn agor llwybrau ar draws Cymru i bobl anabl ac yn caniatáu i fwy o deithwyr deithio’n annibynnol a’n helpu i symud tuag at rwydwaith trafnidiaeth sy’n wirioneddol hygyrch.

Caiff y gwelliannau eu gwneud drwy raglen Mynediad i Bawb sydd, ers 2006, wedi cael gwared ar risiau mewn dros 200 o orsafoedd, yn ogystal â gwelliannau hygyrchedd llai mewn dros 1,500 o orsafoedd eraill er mwyn gwella profiad teithwyr.

Mae’r £20miliwn a gyhoeddwyd heddiw yn rhan o becyn £300miliwn a gyhoeddwyd y llynedd, sydd eisoes yn darparu llwybrau hygyrch, heb risiau, mewn 73 o orsafoedd ar draws Prydain Fawr, a’i gwneud yn haws i bobl anabl deithio ar rwydwaith trenau’r DU.

Dywedodd y Gweinidog dros Bobl Anabl Justin Tomlinson:

Mae pawb sy’n defnyddio ein rhwydwaith trenau yn haeddu platfformau a thoiledau y gallan nhw eu defnyddio, a bydd y buddsoddiad yma o £20miliwn i wella 124 o orsafoedd rheilffordd ar draws y wlad yn gwneud gwahaniaeth enfawr i bobl anabl.

Mae’r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i drin pawb yn yr un modd, a nes ymlaen eleni, byddwn yn lansio strategaeth genedlaethol fydd yn sicrhau bod gan bobl anabl fynediad cyfartal ym mhob rhan o fywyd. Mae hyn yn dilyn lansiad ymgyrch hysbysebu ‘it’s everyone’s journey’ i danlinellu sut gall bob un ohonom chwarae ein rhan wrth wneud trafnidiaeth gyhoeddus yn gynhwysol. Caiff yr ymgyrch ei chefnogi gan dros 100 o bartneriaid, gan gynnwys First Group, WHSmith Travel a Chymdeithas Alzheimer’s.

Mae ymchwil yr Adran Drafnidiaeth wedi dangos bod yr ymddygiad sy’n gwneud trafnidiaeth gyhoeddus yn anodd i bobl anabl, yn ddiarwybod yn aml iawn, fel peidio â chadw golwg ar gyd deithiwr a allai fod angen sedd neu mewn gofid.

Bydd ‘it’s everyone’s journey’ yn codi ymwybyddiaeth o anghenion pobl anabl wrth ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, yn arbennig pobl sydd â namau na ellir eu gweld yn amlwg, a bydd yn atgoffa aelodau’r cyhoedd i feddwl ac ystyried sut gallai eu hymddygiad effeithio ar bobl eraill.

Ochr yn ochr â hyn, mae’r Adran hefyd wedi lansio cynllun Arweinwyr Trafnidiaeth Gynhwysol, sef cynllun achredu fydd yn annog, yn dathlu, ac yn hyrwyddo arfer gorau o ran trafnidiaeth gynhwysol.

Caiff gweithredwyr, fel cwmnïau bysiau a threnau, eu hannog i gofrestru â’r Cynllun Arweinwyr Trafnidiaeth Gynhwysol, lle byddant yn gweithio tuag at un o’r tair lefel achredu drwy ddangos y camau y maent wedi’u cymryd i wella profiadau teithio i deithwyr anabl, pobl hŷn a’r rheini â symudedd cyfyngedig.

Mae’r gwelliannau hyn yn rhan o’r Strategaeth Trafnidiaeth Gynhwysol ehangach ac yn cefnogi uchelgais Llywodraeth y DU i gael mynediad cyfartal i bawb ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Diwedd

Cyhoeddwyd ar 28 February 2020