Stori newyddion

Ysgrifennydd Cymru yn croesawu ymrwymiad Irish Ferries i Borthladd Penfro

Mae Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, wedi croesawu newyddion a gyhoeddwyd heddiw y bydd gwasanaethau fferi rhwng Porthladd Penfro …

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Mae Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, wedi croesawu newyddion a gyhoeddwyd heddiw y bydd gwasanaethau fferi rhwng Porthladd Penfro a Rosslare yn debygol o bara am o leiaf 10 mlynedd arall, gan ddiogelu dyfodol hyd at 60 o swyddi lleol sy’n gofyn am weithwyr medrus. Bydd hefyd yn sicrhau parhad gweithgarwch economaidd hanfodol yn sir Benfro.

Dywedodd Mrs Gillan, a gyfarfu ag Alec Don, Prif Weithredwr Awdurdod y Porthladd, ar ymweliad ag Aberdaugleddau heddiw:  “Mae hyn yn newyddion gwych i swyddi ac economi sir Benfro.

“Bydd yr ymrwymiad newydd a gadarnhawyd gan Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau gydag Irish Ferries i gynnal a chadw gwasanaethau’r doc a’r terminws yn Noc Penfro yn diogelu hyd at 60 o swyddi medrus yn y porthladd ac yn sicrhau bod Doc Penfro’n parhau i wneud cyfraniad sylweddol at yr economi leol yng Ngorllewin Cymru am flynyddoedd lawer.

“Mae’r gwasanaeth rhwng Porthladd Penfro a Rosslare, a weithredir gan Irish Ferries, yn gyswllt trafnidiaeth hanfodol rhwng y DU a Gweriniaeth Iwerddon ac yn gyfrannwr allweddol at economi Gorllewin Cymru, yn cludo dros 300,000 o deithwyr a 80,000 o unedau nwyddau ar draws Mor Iwerddon bob blwyddyn.

“Mae’r ymrwymiad 10 mlynedd newydd hwn i barhau a’r gwasanaeth yn diogelu’r llwybr mordwyo ac yn cynnig sefydlogrwydd tymor hir i weithwyr a theithwyr sy’n dibynnu ar y gwasanaeth gwerthfawr hwn. Mae’n newyddion gwych i sir Benfro ac i Orllewin Cymru.

Dechreuodd Irish Ferries redeg y gwasanaeth hwn o sir Benfro i Rosslare ym 1980. Ar hyn o bryd, mae’n darparu dwy daith pedair ar y dydd rhwng porthladdoedd sir Benfro ac Iwerddon.

Porthladd Aberdaugleddau - y mae Porthladd Penfro yn rhan ohono - yw’r porthladd mwyaf yng Nghymru, a’r trydydd mwyaf yn y DU.  Yn ystod 2010, roedd y Porthladd wedi trin dros 65m tunnell gros ar y llongau, gyda bron 43m tunnell o gargo.  Saif y Porthladd yng nghalon Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro, yr unig Barc Cenedlaethol Arfordirol ym Mhrydain Fawr.

Wrth son am y cyhoeddiad, dywedodd Alec Don, Prif Weithredwr Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau: “Mae Irish Ferries yn gwneud yr ymrwymiad sylweddol hwn i’r llwybr mordwyo mewn cyfnod anodd i ddarparwyr gwasanaeth ar For Iwerddon. Rydym wrth ein bodd o gael cyfle i barhau i weithio gydag Irish Ferries a chwarae ein rhan wrth helpu i dyfu a chryfhau eu busnes.”

Roedd Mrs Gillan yn ymweld ag Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau a chafodd gyfle i fynd ar daith mewn cwch gyda Mr Don a Colin Orr Burns, Rheolwr Cyffredinol Dragon LNG, o amgylch y terminws fferi, y gorsafoedd pŵer a’r purfeydd yn Aberdaugleddau a Doc Penfro.

Wedyn aeth ymlaen i Ganolfan Technium Sir Benfro lle cyfarfu a chynrychiolwyr o Gyngor Sir Penfro a’r diwydiant ynni lleol, yn cynnwys RWE, Murco a South Hook LNG.

Cyhoeddwyd ar 14 March 2011