Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru: Cymru yn lleoliad delfrydol i fuddsoddi mewn gweithgynhyrchu

Alun Cairns i ymweld â chwmnïau De Cymru i danlinellu bod Cymru ar agor ar gyfer busnes

  • Smurfit Kappa yn cryfhau ei ymrwymiad i Gymru gyda buddsoddiad mewn safle yng Nghasnewydd gwerth sawl miliwn o bunnoedd
  • Bydd Ysgrifennydd Cymru yn tanlinellu’r berthynas fasnach gref rhwng y DU a Japan drwy ymweld ag Olympus Surgical Technologies

Cyn ymweld â de Cymru heddiw (3 Mai), dywedodd Ysgrifennydd Cymru Alun Cairns fod y cyflogwyr byd-eang Smurfit Kappa ac Olympus yn arwain y ffordd o ran dangos pam mae Cymru yn lleoliad delfrydol i fuddsoddi ynddo ac i gynnal busnes.

Bydd Alun Cairns yn mynd i Gasnewydd i groesawu buddsoddiad y cwmni pecynnu byd-eang Smurfit Kappa, gwerth £2.8 miliwn, yn ei safle yn Abercarn. Bydd hefyd yn tanlinellu enw da Cymru fel lleoliad i gwmnïau Japaneaidd fuddsoddi ynddo gydag ymweliad ag Olympus Surgical Technologies Europe.

Roedd y newyddion positif heddiw yn gadarnhad gan Smurfit Kappa eu bod wedi gwneud buddsoddiad o £2.8 miliwn i brynu’r safle a’r adeiladau yn Abercarn. Mae’r cyhoeddiad yn cael ei weld fel arwydd o ymrwymiad parhaus y cwmni i’w weithrediadau a’i staff yng Nghymru.

Mae Smurfit Kappa yn ddarparwyr byd-eang mewn deunyddiau pacio papur, gyda thua 45,000 o weithwyr mewn tua 370 o safleoedd cynhyrchu ar draws 35 o wledydd. Mae ganddynt bortffolio heb ei ail o atebion pecynnu papur, sy’n cael ei ddiweddaru’n gyson gyda datblygiadau arloesol yn y farchnad.

Gyda chynaliadwyedd yn ganolog i ethos y cwmni, bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn clywed sut mae arloesedd dylunio’r cwmni yn helpu Llywodraeth y DU i wireddu ei gynllun amgylcheddol 25 mlynedd.

Wrth nodi’r cyhoeddiad yn ystod yr ymweliad â safle Abercarn, dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns:

Mae Smurfit Kappa yn un o lwyddiannau mawr y diwydiant gweithgynhyrchu yn ne Cymru. Mae eu hymrwymiad parhaus i’w gweithrediadau yng Nghymru yn arwydd clir o’r ffydd yn ein cenedl fel prif gyrchfan fuddsoddi.

Mae eu buddsoddiad yn eu gweithrediadau yn ne Cymru yn arwydd clir bod y cyfnod yma yn un cyffrous i Smurfit Kappa. Mae eu twf parhaus wedi bod yn sbardun cryf ar gyfer cryfder cyffredinol y sector preifat yma yng Nghymru.

Bydd Llywodraeth y DU yn gwneud popeth o fewn ei allu i gefnogi’r sector wrth i ni anelu at sefydlu ein hunain fel canolfan ragoriaeth fyd-eang mewn gweithgynhyrchu ac arbenigwyr blaenllaw wrth ddatblygu atebion cynaliadwy sy’n gyfeillgar i’r amgylchedd.

Wrth sôn am gyhoeddiadau heddiw, dywedodd Clive Bowers, Prif Swyddog Gweithredol Smurfit Kappa UK:

Rydym yn falch o groesawu Ysgrifennydd Gwladol Cymru, i gydnabod y buddsoddiad rydym wedi’i wneud yn ein safle yn Abercarn. Mae’r buddsoddiad hwn yn amlygu ein hymrwymiad i ddyfodol ein busnes yn Abercarn a’n cefnogaeth i economi Cymru.

Bydd yr Ysgrifennydd Gwladol hefyd yn ymweld ag Olympus Surgical Technologies Europe - cwmni sy’n cynllunio, datblygu a chynhyrchu dyfeisiadau meddygol o’i gyfleuster yng Nghaerdydd sydd o safon fyd-eang.

Mae’r cwmni FTSE yn cyflogi 270 o bobl ar ei safle yn Llaneirwg. Fe’i sefydlwyd fel Gyrus yn 1989, a thyfodd y cwmni i fod yn enw FTSE llwyddiannus cyn iddo gael ei brynu gan y Japanese Olympus Corporation yn 2008.

Gydag enw da Cymru ar gynnydd, mae’r cwmni bellach yn chwarae rhan ganolog fel arweinydd byd o ran arbenigedd mewn gwyddorau bywyd.

Bydd Alun Cairns yn cael ei groesawu i Olympus gan y Rheolwr Gyfarwyddwr, Simon Edwards.

Wrth edrych ymlaen at yr ymweliad, dywedodd Mr Edwards:

Mae ein cyfleuster yng Nghaerdydd yn chwarae rhan bwysig wrth i ni geisio am fwy o dwf cynaliadwy drwy wneud bywydau pobl yn iachach, yn fwy diogel ac yn fwy cyflawn.

Mae gwyddorau bywyd yn un o’r sectorau sy’n tyfu gyflymaf yng Nghymru. Mae ganddo drosiant o tua £2 biliwn ac mae’n cyflogi tua 11,000 o bobl mewn dros 350 o gwmnïau.

Mae cryfderau’r DU mewn gwyddoniaeth, ymchwil ac arloesedd hefyd yn ffocws pwysig i strategaeth ddiwydiannol y llywodraeth.

Ychwanegodd Alun Cairns:

Mae Smurfit Kappa ac Olympus yn fuddsoddwyr pwysig yng Nghymru.

Wrth i ni baratoi i adael yr UE, mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo, drwy ein Strategaeth Ddiwydiannol, i sicrhau bod y DU yn parhau i fod yn un o’r llefydd gorau yn y byd i gynnal busnes. Ein nod yw creu economi gref a bywiog yng Nghymru ac mae’r sectorau gweithgynhyrchu a gwyddorau bywyd yn ganolog i’r weledigaeth hon.

Cyhoeddwyd ar 3 May 2018