Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru yn ymweld â De Affrica i feithrin cysylltiadau masnach ar y cyd

Bydd Alun Cairns yn ymuno â’r Prif Weinidog a busnesau o Gymru ar daith fasnach bwysig

Mae’n bryd i ni fynd â’n cysylltiadau buddsoddi a masnach i lefel cwbl newydd wrth i ni adael yr Undeb Ewropeaidd. Dyma fydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns, yn ei ddweud heddiw pan fydd yn annerch cynulleidfa fusnes ryngwladol yn Cape Town (28 Awst).

Mae’r Ysgrifennydd Gwladol wedi ymuno â’r Prif Weinidog ar ymweliad â De Affrica, lle byddant yn cwrdd ag amrywiaeth o fusnesau i drafod cyfleoedd masnach a buddsoddi gyda Chymru a’r Deyrnas Unedig.

Mae’r Prif Weinidog wedi gwahodd gweinidog y Cabinet ar y daith fasnach. Bydd y gweinidog yn gweithio gyda hi a’r cynrychiolwyr busnes sy’n teithio yno hefyd i edrych ar sut gall partneriaethau newydd rhwng y Deyrnas Unedig a De Affrica ychwanegu gwerth i economi’r Deyrnas Unedig a chreu cyfleoedd newydd yn y farchnad i fusnesau o Brydain.

Bydd Alun Cairns yn traddodi araith i gynulleidfa o dros 120 o gynrychiolwyr busnesau rhyngwladol tra bydd yn y wlad. Bydd hefyd yn cael cyfarfod dwyochrog â Chomisiynydd EM newydd Affrica, Emma Wade-Smith OBE, am y posibilrwydd o greu cysylltiadau masnach cryfach rhwng y Deyrnas Unedig a De Affrica.

Bydd hefyd yn cynnal cyfarfod â WESGRO - yr asiantaeth swyddogol sy’n hyrwyddo twristiaeth, masnach a buddsoddi ar gyfer Cape Town a Thalaith y Western Cape. WESGRO yw’r pwynt cyswllt cyntaf i brynwyr o dramor, allforwyr lleol a buddsoddwyr sy’n dymuno manteisio ar y potensial di-ben-draw ar gyfer busnesau yn y rhanbarth.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae De Affrica yn un o bartneriaid masnach allweddol y Deyrnas Unedig - mae’n gynghreiriad strategol, cadarn a hirsefydlog i’r Deyrnas Unedig yn Affrica ac yn rhyngwladol.

Rwy’n edrych ymlaen at archwilio’r cyfleoedd masnach sydd ar gael yma i fusnesau Cymru, er mwyn adeiladu ar y berthynas bwysig hon a helpu i greu rhagor o gyfleoedd buddsoddi ac allforio i gwmnïau yn y ddwy diriogaeth.

Mae dau gwmni o Gymru ymhlith y 29 o fusnesau sy’n cael eu cynrychioli sy’n ymuno ag Alun Cairns a’r Prif Weinidog ar y daith fasnach - Hydro Industries o Langennech a Sure Chill o Gaerdydd.

Bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn trafod y cyfleoedd i’r cwmnïau fanteisio i’r eithaf ar y farchnad technoleg werdd yn Affrica mewn cyfarfodydd â Green Cape a South South North - sefydliad sy’n gweithio gyda busnesau, buddsoddwyr, academia a’r llywodraeth i helpu i ddatgloi potensial buddsoddi a chyflogaeth gwasanaethau a thechnolegau gwyrdd.

Ychwanegodd Alun Cairns:

Dim ond dwy enghraifft o gwmnïau arloesol o Gymru yw Hydro a Sure Chill, sy’n gwneud cyfraniad sylweddol i werth allforion Cymru a ddaeth i gyfanswm o £16.4 biliwn y llynedd - cynnydd o 12.3% o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol.

Mae’r daith fasnach hon yn tanlinellu ymrwymiad Llywodraeth y Deyrnas Unedig i barhau gyda’r twf hwnnw. Rwy’n gobeithio y byddwn ni’n helpu i agor drysau i fusnesau o Gymru sy’n chwilio am gyfleoedd i ehangu a ffynnu mewn marchnadoedd rhyngwladol.

Yn ystod ei daith, bydd Ysgrifennydd Cymru hefyd yn manteisio ar y cyfle i gwrdd â’r Cymry ar Wasgar o Gymdeithas Cymru y Penrhyn i drafod cryfder y cysylltiadau diwylliannol rhwng Cymru a De Affrica.

Cyhoeddwyd ar 28 August 2018