Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru’n canmol ymdrech lanhau trigolion Ceredigion yr effeithiwyd arnynt gan y llifogydd

Heddiw (22 Mehefin), mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan wedi canmol ymroddiad ac ymrwymiad y trigolion a fu’n rhan o’r gwaith glanhau…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Heddiw (22 Mehefin), mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan wedi canmol ymroddiad ac ymrwymiad y trigolion a fu’n rhan o’r gwaith glanhau sylweddol yn eu cymunedau yn dilyn y llifogydd yng ngogledd Ceredigion yn gynharach y mis hwn (9 Mehefin).

Gwahoddwyd Mrs Gillan gan AS Ceredigion, Mark Williams, i ymweld a’r ardaloedd yr effeithiwyd arnynt gan lifogydd nas gwelwyd mo’u tebyg o’r blaen, ac a gafodd effaith ddinistriol ar eiddo, busnesau a seilwaith.

Roedd Mrs Gillan yn awyddus i ymweld a’r sir wedi iddi hi a’r Prif Weinidog, David Cameron, ganmol “gwaith anhygoel” y gwasanaethau brys a ddaeth yn gyflym i helpu’r trigolion a’r ymwelwyr yr effeithiwyd arnynt gan y llifogydd.

Yn ystod yr ymweliad, bu Mrs Gillan a Mr Williams yn y feddygfa a’r parc manwerthu ym Mharc y Llyn cyn teithio i Borth, Dol-y-bont a Thalybont, lle’r oedd y gwaith glanhau’n mynd rhagddo. Yma, bu iddynt gyfarfod a thrigolion yr effeithiodd y fflachlifogydd a darodd yr ardal ar ddydd Sadwrn 9 Mehefin 2012 arnynt, cyn mynd ymlaen i Argraffwyr Cambrian yn Llanbadarn, yr effeithiwyd arnynt yn ddrwg gan y dŵr.

Dywedodd Mrs Gillan:

“Mae llifogydd bob amser yn brofiad trawmatig i unrhyw un pan fo hynny’n effeithio ar eu cartref neu eu busnes mewn ffordd mor ddinistriol.

“Alla i ddim dychmygu’r trawma y mae pobl wedi ei ddioddef, pan fu’n rhaid iddyn nhw gael eu hachub o’r dŵr, ac sydd nawr yn wynebu gwaith glanhau sylweddol.

“Rwyf wedi bod yn awyddus i ymweld a’r ardal i ddiolch i bawb a fu’n rhan o’r ymdrechion achub a gweld y gwaith sy’n cael ei wneud i adfer y cymunedau sydd wedi’u heffeithio. Efallai y bydd yn cymryd cryn amser, ond rwy’n hyderus bod y trigolion yn derbyn yr holl gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw i wneud y gwaith.”

Cafodd Mrs Gillan a Mr Williams eu tywys yn ystod eu hymweliad gan y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, Arweinydd Cyngor Ceredigion, Prif Weithredwr y Cyngor, Miss Bronwen Morgan, a Huw Morgan, Cyfarwyddwr Priffyrdd, Eiddo a Gwaith.

Cyhoeddwyd ar 22 June 2012