Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru: Gogledd Cymru yn enghraifft ddisglair o lwyddiant

Halen Môn yn ennill gwobr ragoriaeth mewn allforio yn nerbyniad Bwrdd Masnach y DU

  • Ysgrifennydd Cymru yn ymuno â’r Ysgrifennydd dros Fasnach Ryngwladol yn ail gyfarfod y Bwrdd Masnach yn Preston i hybu cysylltiadau Gogledd Cymru - Pwerdy Gogledd Lloegr
  • Halen Môn yn ennill un o wobrau cyntaf y Bwrdd Masnach am lwyddiant allforio byd-eang
  • Myfyrwyr Prifysgol Bangor yn cymryd rhan yn y rhaglen Ideas Hack gyntaf
  • Bydd Alun Cairns hefyd yn galw allforwyr y Gogledd at ei gilydd yn Wrecsam i glywed eu barn am Strategaeth Allforio Llywodraeth y DU

Mae cymysgedd dynamig Gogledd Cymru o allforwyr pwysig yn gwneud cyfraniad sylweddol at uchelgais busnes fyd-eang Cymru, meddai Ysgrifennydd Cymru Alun Cairns heddiw wrth iddo gychwyn ar gyfres o ymweliadau sy’n gysylltiedig ag allforio ar draws gogledd y DU (29 Mawrth).

Bydd Mr Cairns yn bresennol yn ail gyfarfod y Bwrdd Masnach yn Preston brynhawn heddiw. Cafodd y cyfarfod ei alw i helpu i hybu allforion, i ddenu mewnfuddsoddwyr ac i sicrhau bod buddiannau masnach rydd yn cael eu rhannu’n deg ar draws y wlad.

O dan lywyddiaeth yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fasnach Ryngwladol, Liam Fox, mae’r Bwrdd Masnach yn dod â ffigurau amlwg o fyd busnes a gwleidyddiaeth o bob rhan o’r DU at ei gilydd i gynnig arbenigedd lleol ac i arwain y Bwrdd ar faterion masnach a buddsoddi.

Bydd yn cyd-fynd â chyflwyno Gwobrau’r Bwrdd Masnach, sy’n cael eu dyfarnu am y tro cyntaf, ac sydd wedi’u creu i gydnabod rhagoriaeth mewn masnach a buddsoddi ar draws y DU gyfan.

A bydd un o brif allforwyr Cymru Halen Môn ymhlith y cyntaf i dderbyn gwobr wrth i’w llwyddiannau gartref a thramor gael eu cydnabod mewn derbyniad gan y Bwrdd Masnach heno.

Ers iddynt ddechrau allforio yn 2001, mae Halen Môn wedi manteisio ar y cymorth allforio sydd ar gael gan Lywodraeth y DU, ac yn awr mae eu cynnyrch yn cael eu gwerthu mewn dros 100 o gadwynau Prydeinig, gan gynnwys M&S, Waitrose a Harvey Nichols, a gellir eu prynu mewn dros 22 o wledydd ledled y byd.

Meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru Alun Cairns:

Mae Llywodraeth y DU am ddathlu cyflawniadau busnesau sy’n enghreifftiau o arloesedd eithriadol, sy’n dod â ffyniant i’w cymunedau, ac sy’n hyrwyddo masnach rydd. Mae Halen Môn yn gwmni sy’n gwneud hynny.

Rwyf mor falch o weld eu henw wedi’i gerfio ar un o wobrau cyntaf y Bwrdd Masnach sy’n cael eu cyflwyno heddiw.

Gellir priodoli llwyddiant Halen Môn i fentergarwch ac ymroddiad y sawl sy’n gysylltiedig â’r cwmni. Ond mae’r Llywodraeth hefyd wedi chwarae ei rhan. Mae wedi helpu i drefnu cyfarfodydd â phrynwyr mewn marchnadoedd mor amrywiol â Hong Kong, Singapôr, Tsieina, Rwsia a Japan, i’w helpu i ymgodymu â’r gwaith papur angenrheidiol, ac rydym yn barod i’w helpu ar bob cam o’r daith allforio.

Bydd stamp Gogledd Cymru ar gyfarfod y Bwrdd Masnach yn Swydd Gaerhirfryn yn amlycach fyth yn sgil myfyrwyr Prifysgol Bangor a fydd yn cymryd rhan yn yr ‘Ideas Hack’ cyntaf – cynllun sy’n rhan o Raglen Academi Fasnach Genedlaethol yr Adran Masnach Ryngwladol sy’n gweithio i feithrin diwylliant allforio ymhlith arweinyddion busnes y dyfodol.

Gan weithio mewn timau, byddant yn gweithio i ddatblygu cynnyrch bwyd neu ddiod newydd a strategaeth allforio i gyd-fynd â hynny a byddant wedyn yn eu cyflwyno gerbron panel mewn ffordd debyg i’r rhaglen deledu Dragon’s Den.

Cyn y cyfarfod ym Mhreston, bydd Alun Cairns yn holi barn rhai o allforwyr mwyaf llwyddiannus y Gogledd a’r Canolbarth mewn cyfarfod yn Wrecsam i drafod y blaenoriaethau, y cyfleoedd a’r heriau sy’n eu hwynebu wrth iddynt allforio eu cynnyrch ar draws y byd.

Mae’r cyfarfod yn rhan o gyfres o gyfleodd ymgysylltu sy’n cael eu trefnu gan Lywodraeth y DU fel rhan o’r adolygiad o’r Strategaeth Allforio.

Bu cynnydd o 12.3% i £16.4 biliwn mewn allforion o Gymru yn ôl y ffigurau diweddaraf, ac mae’n gartref i bron 4,000 o allforwyr gyda gwerth cyfartalog pob allforiwr yn fwy na £4.2miliwn.

Mae statws Cymru fel cyrchfan i fewnfuddsoddiad hefyd ar gynnydd, gyda’r ffigurau diweddaraf yn dangos bod 85 o brosiectau buddsoddi uniongyrchol o dramor wedi’u sicrhau yng Nghymru’r llynedd, gan greu dros 2,500 o swyddi newydd a diogelu dros 10,000 o swyddi eraill.

Yn ystod y mis diwethaf yn unig, cyhoeddodd Toyota eu hymrwymiad i adeiladu’r genhedlaeth nesaf o gerbydau Auris yn eu ffatri yn Swydd Derby, a chadarnhaodd y bydd y rhan fwyaf o’r peiriannau’n dod o Lannau Dyfrdwy, gan helpu i sicrhau o 3000 yn y ddau safle.

Ychwanegodd Alun Cairns:

Mae cymorth i allforio yn ffordd allweddol i alluogi busnesau i lwyddo a thyfu.

Bydd yr adolygiad o’r Strategaeth Allforio yn manteisio ar arbenigwyr yn y llywodraeth a’r sector preifat, a bydd yn ein helpu i ddeall y ffordd orau i helpu busnesau Prydeinig i fanteisio ar gyfleoedd mewn marchnadoedd tramor.

Trwy gydol y broses hon, rwyf am weld busnesau o Gymru, rhai bach a mawr, yn gwneud cyfraniad pwysig i sicrhau ein bod yn datblygu strategaeth sy’n diwallu eu hanghenion.

DIWEDD

NODIADAU I OLYGYDDION

Halen Môn

Wedi eu lleoli mewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, mae Halen Môn, yr Anglesey Sea Salt Company, wedi bod yn cynhyrchu halen môr er 1997, ac mae’n allforio’i gynnyrch er 2001 pan ddechreuodd y cwmni weithio â dosbarthwyr o America.

Heddiw, mae halen môr Halen Môn i’w weld a’i fwynhau ar hyd a lled y DU ac roedd yn cael ei weini yng Ngemau Olympaidd Llundain yn 2012, mewn Priodas Frenhinol ac mae’n un o gynhwysion allweddol siocled Green and Blacks a Piper’s Crisps. Mae’r cwmni’n parhau i wneud enw iddo’i hun yn rhyngwladol ac erbyn hyn mae’n allforio i fwy na 15 o wledydd.

Yn 2015, agorodd y cwmni ganolfan ymwelwyr newydd sy’n cynnig teithiau tywys, sesiynau blasu a chyfle unigryw i weld sut mae eu halen môr yn cael ei gynhyrchu. Mae’r ganolfan yn rhan o ganolfan halen newydd a adeiladwyd gan y cwmni gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, Cronfa Gynaliadwyedd AHNE, Cronfa Cymunedau Arfordirol y Loteri, Grŵp Gweithredu Lleol Pysgodfeydd, a HSBC. Mae’r cwmni hefyd wedi creu dros ugain o swyddi yn yr ardal leol ac mae’n cynnal llawer yn rhagor trwy eu ‘polisi ffafrio busnesau lleol’ i ddefnyddio cyflenwyr lleol.

Mae Llywodraeth y DU wedi helpu â’r gwaith papur sy’n rhaid ei gwblhau i gydymffurfio â rheoliadau allforio a labelu ac wedi eu helpu hefyd i drefnu cyfarfodydd â darpar gwsmeriaid mewn marchnadoedd tramor. Mae’r cwmni hefyd wedi manteisio ar gymorth gan Lywodraeth Cymru a’r DU i wneud cais, ac i sicrhau statws Enw Tarddiad Gwarchodedig yn 2014, sy’n hwb i strategaeth allforio’r cwmni yn Ewrop a thu hwnt.

Y Bwrdd Tramor

Yn ymuno ag Alun Cairns ar y Bwrdd Masnach mae dau gynghorydd busnes arbenigol o Gymru, yr Arglwydd Rowe Beddoe a Heather Stephens.

Mae gan yr Arglwydd Rowe Beddoe yrfa ddisglair mewn busnes rhyngwladol ac mae ganddo ddau ddegawd o brofiad a gafodd yn ystod ei gyfnod fel Cadeirydd Awdurdod Datblygu Cymru a Maes Awyr Caerdydd.

Roedd Heather Stephens yn rhan o’r tîm bychan a lansiodd y grŵp yswiriant Admiral yng Nghaerdydd yn 1993. Ers ei lansio, mae Admiral wedi tyfu i fod yn un o’r cyflogwyr sector preifat mwyaf yng Nghymru gyda throsiant o fwy na £2bn. Mae ar hyn o bryd yn gadeirydd ac roedd yn un o sylfaenwyr y Waterloo Foundation, elusen sy’n dyfarnu grantiau i gwmnïau yn y DU a ledled y byd.

Mae aelodaeth y Bwrdd Masnach wedi’i gyfyngu i Aelodau’r Cyfrin Gyngor

Yr unig aelod yw:

(i) Yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fasnach Ryngwladol a Llywydd y Bwrdd Masnach (Cadeirydd)

Cynghorwyr y Bwrdd

(i) Ysgrifennydd Gwladol yr Alban

(ii) Ysgrifennydd Gwladol Gogledd Iwerddon

(iii) Ysgrifennydd Gwladol Cymru

Lloegr (6)

(i) Patricia Hewitt – Cadeirydd ymadawol UK India Business Council

(ii) Andrew Mills – Prif Weithredwr Virtualstock

(iii) Collette Roche – Pennaeth Staff, Maes Awyr Manceinion

(iv) Marnie Millard – Prif Weithredwr Nichols PLC

(v) Iqbal Ahmed – Cadeirydd, Prif Weithredwr a Sylfaenydd Seamark Group

(vi) Edward Timpson – cyn Weinidog Gwladol dros Blant a Theuluoedd

Yr Alban (2)

(vii) Brian Wilson – cyn Weinidog Masnach

(viii) Ian Curle – Prif Weithredwr Edrington Group

Cymru (2)

(ix) Yr Arglwydd Rowe-Beddoe – cyn Gadeirydd Awdurdod Datblygu Cymru

(x) Heather Stevens – Cadeirydd ac un o aelodau cyntaf The Waterloo Foundation

Gogledd Iwerddon (1)

(i) Mark Nodder (Prif Weithredwr Wrights Group)

Cyhoeddwyd ar 29 March 2018