Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru: Strategaeth newydd yn gosod y DU ar flaen y gad ym maes Gweithgynhyrchu Aerofod

Bydd lansio strategaeth y diwydiant aerofod yn cyfnerthu safle Cymru a’r DU ymhlith ceffylau blaen gweithgynhyrchwyr aerofod y byd, meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones heddiw (14 Mawrth).

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Lansiodd y Dirprwy Brif Weinidog, Nick Clegg, y weledigaeth uchelgeisiol ar gyfer partneriaeth hirdymor rhwng y llywodraeth a’r diwydiant aerofod yn safle Airbus ym Mryste heddiw. Mae’r strategaeth yn canolbwyntio ar fuddsoddi mewn tri maes allweddol, uchel eu gwerth, yng nghyswllt yr awyrennau modern y mae’r DU yn rhagori arnynt – adenydd, injans, aerostrwythurau ac uwch systemau.

Seilir y strategaeth ar fuddsoddiad ymchwil a datblygu werth £2 biliwn dros saith blynedd. Defnyddir hyn i ymchwilio a datblygu technolegau newydd a fydd yn helpu i ddylunio a gweithgynhyrchu awyrennau’r dyfodol. Goruchwylir y buddsoddiad arwyddocaol, hirdymor hwn gan Sefydliad Technoleg Aerofod newydd (ATI), corff dan arweiniad y diwydiant a fydd yn rhoi un ffocws cenedlaethol i ymchwil a chyfleusterau yn y sector.

Meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones:

“Does dim modd gorbwysleisio’r rôl sydd gan y diwydiant aerofod i’w chwarae yng nghyswllt iechyd yr economi ar lefel leol a chenedlaethol. Bu’r Llywodraeth yn gweithio mewn partneriaeth glos â sector aerofod y DU i helpu i sicrhau llwyddiant y diwydiant yn y tymor hir, ac rwyf wrth fy modd yn gweld penllanw’r gwaith hwnnw wedi’i ddynodi yn y strategaeth hon a lansir heddiw.

“Bydd Cymru, yn benodol, yn elwa’n sylweddol ar y buddsoddiad parhaus a wneir gan gwmnïau aerofod o bwys megis Airbus a GE Aviation.

“Ym mis Ionawr eleni, cefais gyfle i ymweld â safle Airbus ym Mrychdyn, ac fe welais â’m llygaid fy hun maint cyfraniad y diwydiant i’r sector gweithgynhyrchu uwch yn y DU.

“Mae’r cwmni’n parhau i fod yn un o arloeswyr mwyaf cystadleuol y byd yn y sector Aerofod a’i gadwyn gyflenwi, ac mae’n cynnal ac yn cefnogi miloedd o swyddi ar gyfer gweithwyr yng Nghymru. Mae cyfraddau ac archebion cynhyrchu yn y gwaith yn parhau i dyfu, ac mae safle Brychdyn yn chwarae rhan hollbwysig yn y llwyddiant hwnnw.”

Mae’r strategaeth hefyd yn pennu camau gweithredu ar gyfer cynyddu gallu, sgiliau a chystadleurwydd y gadwyn gyflenwi ym maes gweithgynhyrchu yn y DU, gan gynnwys cronfa fwrsariaeth o £6 miliwn i dalu 500 o raddedigion newydd a chyflogeion i astudio graddau Meistr mewn peirianneg aerofod.

Ychwanegodd Mr Jones:

“Mae lansio’r strategaeth hon heddiw yn tanlinellu ymrwymiad y Llywodraeth i gefnogi cwmnïau o fewn y diwydiant aerofod yn y DU, a chynnal y llwyddiant a brofwyd ganddynt cyn belled yn ogystal â manteisio ar y cyfleoedd sylweddol sydd ar gael iddynt yn y farchnad.

“Mae Prydain yn ail yn y byd ym maes aerofod, ond mae’n arweinydd yn Ewrop. Bydd y llywodraeth hon yn parhau i gefnogi diwydiant aerofod y DU, ac annog buddsoddi pellach yn y diwydiant drwy fynd i’r afael â rhwystrau rhag cynyddu, hybu cyfleoedd allforio a chynyddu nifer y swyddi uchel eu gwerth ym maes aerofod yn y DU.”

NODIADAU I OLYGYDDION

Os hoffech chi gael mwy o wybodaeth ynglŷn â’r cyhoeddiad, cysylltwch â swyddfa wasg BIS ar 020 7215 5945.

Gallwch ddarllen strategaeth y diwydiant aerofod Lifting Off – Implementing the Strategic Vision for UK Aerospace [yma] (https://www.gov.uk/government/publications/lifting-off-implementing-the-strategic-vision-for-uk-aerospace)

  • Mae’r sector aerofod yn cyfrannu £24 biliwn i’r economi bob blwyddyn; mae’n cynnwys 3,000 o gwmnïau ac yn cyflogi 230,000 o weithwyr.

  • Bydd y llywodraeth yn ymrwymo dros £1.6 biliwn dros y 10 mlynedd nesaf i gefnogi ein Strategaeth Ddiwydiannol. Mae hyn yn cynnwys dros £1 biliwn o arian newydd gan Drysorlys Ei Mawrhydi a dros £500 miliwn o gyllideb yr Adran Busnes, Arloesi a Sgiliau (BIS). Drwy weithio mewn partneriaeth â byd busnes, ein nod yw o leiaf dyblu hyn gyda chyllid o’r diwydiant. Bydd cyllid y llywodraeth ar gyfer ATI yn cyrraedd £150 miliwn y flwyddyn erbyn 2014/15 ac fe’i hymrwymir am gyfnod o saith blynedd. Mae’r diwydiant wedi ymrwymo i dalu cyllid cyfatebol am y buddsoddiad hwn.

  • Bydd ATI yn cynnwys tîm craidd bychan (30-50 aelod o staff), a’r rheiny wedi’u secondio’n bennaf o’r diwydiant a’r byd academaidd. Bydd yn creu gwell cyswllt rhwng ymchwil gynnar (megis honno a gefnogwyd gan y Cyngor Ymchwil Peirianneg a Gwyddorau Ffisegol) ac Ymchwil a Datblygu traws-sector arloesol a ddarperir drwy’r Bwrdd Strategaeth Technoleg. Darperir prosiectau mwy sylweddol drwy’r Bwrdd Strategaeth Technoleg gan grwpiau cydweithredol o fyd diwydiant ac academia. Cyflawnir rhai prosiectau yng nghanolfannau Catapult Gweithgynhyrchu Uchel ei Werth, gan wneud y defnydd mwyaf effeithiol posib o fuddsoddiad y llywodraeth yn y cyfleusterau hyn.

  • Mae’r Bartneriaeth Cynnydd Aerofod (AGP) yn dod â’r diwydiant a’r llywodraeth ynghyd i fynd i’r afael â rhwystrau rhag twf, hybu allforion a chynyddu nifer y swyddi uchel eu gwerth yn y DU. Cyd Gadeiryddion AGP yw Michael Fallon, Ysgrifennydd Gwladol yn yr Adran Busnes, Arloesi a Sgiliau a Marcus Bryson, Prif Weithredwr GKN Aerospace ac Is Lywydd ADS.

  • Hanfod strategaeth ddiwydiannol y llywodraeth yw edrych i’r dyfodol, gan gyflwyno agwedd hirdymor, llywodraeth-gyfan i gefnogi byd busnes Prydain, gan roi iddynt yr hyder sydd ei angen arnynt i fuddsoddi, cyflogi staff a thyfu. Mae strategaethau hirdymor yn cael eu datblygu mewn partneriaeth â diwydiant mewn sectorau allweddol sy’n cynnwys niwclear, addysg a’r economi gwybodaeth - cyhoeddir y rhain yn y misoedd i ddod.

Cyhoeddwyd ar 26 March 2013