Stori newyddion

Ysgrifennydd Gwladol Cymru i ymuno yn nathliadau Diwrnod y Lluoedd Arfog yn Llandudno

Y genedl yn paratoi ar gyfer degfed Diwrnod y Lluoedd Arfog

Armed Forces Day

Armed Forces Day

Heddiw bydd cannoedd o ddigwyddiadau’n cael eu cynnal i nodi degfed Diwrnod y Lluoedd Arfog, gan gynnwys gorymdeithiau a seremonïau ar hyd a lled y wlad.

Bydd dynion a merched o’r Llynges Frenhinol, Byddin Prydain a’r Awyrlu Brenhinol, y rhai sy’n gwasanaethu’n rheolaidd a’r aelodau wrth gefn, yn cael eu cydnabod ochr yn ochr â’r teulu amddiffyn ehangach, gan gynnwys cadetiaid a chyn-filwyr.

Bydd y digwyddiad cenedlaethol yn cael ei gynnal yn Llandudno, Gogledd Cymru ac yn bresennol yno bydd Ei Mawrhydi Brenhinol y Dywysoges Anne, y Dywysoges Royal, yn cynrychioli’r Frenhines a’r Teulu Brenhinol, y Prif Weinidog Theresa May, yr Ysgrifennydd Amddiffyn Gavin Williamson ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns, ynghyd ag uwch wleidyddion eraill. Mae cyffro mawr yn Llandudno ac mae disgwyl i filoedd o bobl fwynhau mwy nag erioed o arddangosfeydd a digwyddiadau o bob math.

Mae’r dathliad yn dod mis ar ol ymweliad Alun Cairns â milwyr y Gwarchodlu Cymreig sydd wedi’u lleoli ym mhrifddinas Afghanistan, Kabul. Cafodd Mr Cairns sgwrs gyda’r milwyr i ddysgu mwy am eu rôl yn darparu diogelwch ac yn mentora a chynorthwyo swyddogion Affganaidd wrth i Lywodraeth y wlad barhau gyda’r gwaith ailadeiladu.

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns:

Mae Diwrnod y Lluoedd Arfog yn ddigwyddiad unigryw yn ystod y flwyddyn lle gallwn ni i gyd oedi i nodi aberth ac ymrwymiad y dynion a’r merched yn ein lluoedd ni, o’r presennol a’r gorffennol.

Er bod Diwrnod y Lluoedd Arfog yn cydnabod brwydrau mawr yr 20fed ganrif wrth gwrs, mae hefyd yn ein hatgoffa ni bod dynion a merched Cymru’n gwasanaethu ym mhob cwr o’r byd heddiw. A doedd dim moment falchach i mi na phan gefais i’r anrhydedd, union fis yn ôl, o ymweld â’r Gwarchodlu Cymreig yn Afghanistan.

Bydd yr olygfa o bromenâd Llandudno fel y lleoliad ar gyfer yr orymdaith filwrol, gyda hen filwyr a chadetiaid ifanc, yn aros yng nghof y miloedd o bobl sydd yma heddiw. Rydw i’n falch i fod yn rhan o’r digwyddiad, gan sefyll ochr yn ochr ag aelodau ein Lluoedd Arfog ni sydd ymhlith y pethau gorau mae’r wlad hon yn sefyll drostynt.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Amddiffyn, Gavin Williamson

Mae Diwrnod y Lluoedd Arfog yn ddeg oed nawr ac mae’n parhau’n gyfle gwerthfawr i anrhydeddu ein lluoedd ni sy’n gweithio mor galed i’n cadw ni’n ddiogel. Mae’r merched a’r dynion sy’n ein gwasanaethu ni wrth law bob awr o bob dydd i’n gwarchod ni rhag y bygythiadau rydyn ni’n eu hwynebu a heddiw fe hoffwn i annog pobl ledled y DU i ddod at ei gilydd a’u cydnabod am eu hymrwymiad diflino.

Ers Diwrnod y Lluoedd Arfog y llynedd, mae Lluoedd Arfog y DU wedi bod yn brysur gartref ac ym mhob cwr o’r byd. O’r lluoedd yn helpu’r rhai oedd yn cael anawsterau mewn eira trwm i’r cymorth brys a ddarparwyd yn dilyn yr ymosodiad yng Nghaersallog. A hefyd ymhellach i ffwrdd yn Iraq a Syria lle mae ein Lluoedd Arfog yn mynd â’r frwydr i Daesh, gan helpu i yrru’r terfysgwyr yn eu hôl a rhoi cyfle i’r bobl gyffredin yn y gwledydd hynny ailadeiladu eu bywydau.

Ym mhob cwr o’r byd mae ein lluoedd ni wedi gweithio ddydd a nos, o roi sicrwydd i gynghreiriaid NATO yn Ewrop i anfon mwy na 2000 o bersonél i’r Caribî yn dilyn Corwynt Irma.

Ar hyn o bryd mae Lluoedd Arfog y DU yn cymryd rhan mewn mwy nag 20 o weithrediadau mewn mwy na 25 o wledydd, o Estonia i Iraq. Ond bydd llawer o’r rhai sydd gartref yn bresennol mewn digwyddiadau ar hyd a lled y wlad.

Hefyd yn bresennol bydd llawer o gyn-filwyr sy’n rhan o’r amcangyfrif o 2.56 miliwn o gyn-filwyr y Lluoedd Arfog sy’n byw yn y DU. Bydd Cadetiaid ifanc yn bresennol hefyd; gyda’i gilydd mae gan y Cadetiaid Môr, Awyr a’r Fyddin bron i 100,000 o aelodau.

Ar 30 Mehefin, bydd gorymdaith o tua 1,000 o bersonél gwasanaethu, cyn-filwyr, cadetiaid a bandiau’n gorymdeithio yn cychwyn o Gofgolofn y Rhyfel yn Llandudno am 11am i ddynodi dechrau dathliadau Diwrnod y Lluoedd Arfog.

Cyhoeddwyd ar 30 June 2018