Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru’n nodi lansio Digwyddiadau Cofio Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf

Gan mlynedd yn ddiweddarach, bydd hanes effaith y Rhyfel Byd Cyntaf yn cael ei rannu a’i goffáu ar draws y cenedlaethau.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

First World War Centenary

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones AS, yn annog cymunedau a phobl o bob oed i ddod ynghyd i nodi a chofio bywydau’r rheini a fu fyw, a fu’n ymladd ac a fu farw yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Bydd gwasanaeth ar gyfer arweinwyr y Gymanwlad yng Nghadeirlan Glasgow a gwylnos yng ngolau cannwyll yn Abaty Westminster ar 4 Awst yn nodi cychwyn rhaglen ar gyfer y DU gyfan i nodi canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf.

Cynhelir cyfres o ddigwyddiadau diwylliannol, wedi’u cynllunio i anrhydeddu gwasanaeth ac aberth y rhai a fu’n ymladd, ac a fydd hefyd yn adrodd straeon y mwyafrif a arhosodd gartref, mewn rhaglen dros bedair blynedd.

Wrth wneud y cyhoeddiad heddiw, dywedodd David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Bydd digwyddiadau cofio canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf yn helpu’r genhedlaeth bresennol a’r cenedlaethau i ddod i ddysgu am hanes pob dyn neu fenyw yr effeithiodd y digwyddiad arwyddocaol hwn arnynt.

Pa un a fyddwch yn ystyried natur rhyfel, yn cofio am aelodau’r teulu a wasanaethodd yn y rhyfel, neu’n ymweld â chofeb, mae’n gyfle i’n helpu i ddeall ein gorffennol yn well – a sut mae hynny’n dal i’n siapio ni heddiw.

Dros bedair blynedd y canmlwyddiant, bydd Llywodraeth y DU yn arwain y genedl mewn digwyddiadau coffáu. Bydd pum dyddiad allweddol yn cael eu nodi, yn ogystal â 4 Awst: canmlwyddiant y glaniadau yn Gallipoli, Brwydr Jutland, diwrnod cyntaf Brwydr y Somme, diwrnod cyntaf Passchendaele, ac yn olaf, Diwrnod y Cadoediad.

Mae’r Llywodraeth hefyd yn lansio gwefan newydd yn arbennig ar gyfer y canmlwyddiant, a bydd logo arbennig ar gael i bawb sy’n trefnu eu digwyddiadau eu hunain yn ystod y cyfnod, i’w helpu i ddangos beth maent yn ei wneud.

Bydd link text yn cynnwys y newyddion diweddaraf am gynlluniau’r Llywodraeth ar gyfer nodi’r canmlwyddiant, a bydd yn fodd o weld beth mae eraill yn ei wneud hefyd.

NODIADAU I OLYGYDDION

•Daw’r cyhoeddiad heddiw yn dilyn araith ym mis Hydref 2012 gan y Prif Weinidog, David Cameron, ble nododd ddull gweithredu’r DU ar gyfer nodi’r canmlwyddiant Link text

•Mae o leiaf £1miliwn y flwyddyn ar gael gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri am chwe blynedd hyd at 2019. Bydd yn darparu grantiau rhwng £3,000 a £10,000 gan alluogi grwpiau o bob cwr o’r DU i archwilio, diogelu a rhannu eu treftadaeth o’r Rhyfel Byd Cyntaf ac ehangu eu dealltwriaeth o effaith y gwrthdaro.

Bydd prosiectau llwyddiannus yn cynnwys:

•ymchwilio i dreftadaeth leol gan ei nodi a’i chofnodi; •creu archif neu gasgliad cymunedol; •datblygu dehongliad newydd o dreftadaeth drwy arddangosfeydd, llwybrau, apiau ar gyfer ffonau clyfar, ac ati; •gwaith ymchwil, ysgrifennu a pherfformio deunyddiau creadigol yn seiliedig ar ffynonellau treftadaeth; a •gall y rhaglen newydd hefyd ddarparu cyllid ar gyfer diogelu cofebion rhyfel.

Cyhoeddwyd ar 10 June 2013