Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn edrych tua'r flwyddyn sydd i ddod ar Ddydd Gŵyl Dewi

Ar ôl Dydd Gŵyl Dewi, mae Simon Hart yn gobeithio y bydd y flwyddyn i ddod yn flwyddyn o adferiad ond gan ganolbwyntio ar yr argyfwng yn Wcráin.

Secretary of State for Wales, Simon Hart

Secretary of State for Wales, Simon Hart MP

Yn ystod yr wythnos roeddem wedi dathlu Dydd Gŵyl Dewi, o’r diwedd gallwn weld y golau ym mhen draw’r twnnel ar ôl dwy flynedd o frwydro ar y cyd yn erbyn pandemig Covid-19. Mae brechlynnau – llawer ohonynt wedi cael eu cynhyrchu yng Nghymru – wedi bod yn newid byd-eang, gan chwarae rhan fawr yn y gwaith o alluogi cymdeithas i agor unwaith eto. Mae’r plant yn ôl yn yr ysgol, ac mae canol trefi a dinasoedd yn brysur eto ac mae rygbi’r Chwe Gwlad yn cael ei gynnal o flaen torfeydd mawr o’r diwedd.

Ar yr un pryd â dathlu ein diwrnod cenedlaethol yng Nghymru, ein gwladgarwch a’n rhyddid, rydym yn cofio bod y gwerthoedd pwysig hyn yn rhai rydym ni a phobl Wcráin yn eu rhannu.

Wrth i Wcrainiaid wrthsefyll ymosodiadau Putin, mae’r DU wedi ymrwymo £40 miliwn o gymorth dyngarol mewn pecyn cynhwysfawr o gefnogaeth barhaus.

Fel mae’r Prif Weinidog wedi’i ddweud, mae’r byd wedi gweld dewrder ac arwriaeth syfrdanol gan bobl Wcráin ac ni fydd y DU yn troi ei chefn tra bydd Wcráin mewn angen.

Yn nes adref, fe wnaethom nodi Dydd Gŵyl Dewi eleni drwy benodi Comisiynydd Cyn-filwyr cyntaf Cymru. Bydd y Cyrnol James Phillips yn gwella’r gefnogaeth i gyn-filwyr yng Nghymru, yn llais annibynnol ar faterion cyn-filwyr, ac yn hyrwyddo eu buddiannau. Mae gan y Lluoedd Arfog draddodiad hir a phwysig yng Nghymru ac mae ein cyn-aelodau o’r lluoedd arfog a’u teuluoedd yn haeddu cydnabyddiaeth a pharch drwy gydol eu gwasanaeth ac ar ôl hynny.

Wrth i ni edrych ymlaen at 2022, blaenoriaeth Llywodraeth y DU yw parhau â’n hadferiad ar ôl y pandemig a chodi’r gwastad ym mhob rhan o’r DU. Mae pobl Cymru’n rhannu ymdeimlad dwys o falchder yn eu cymunedau, ac mae hynny’n briodol. Cymru Ddiwydiannol oedd wedi darparu’r pŵer i’r DU drwy’r chwyldro diwydiannol ac mae twristiaid o bedwar ban byd yn dotio at ei threfi glan môr a’i golygfeydd mynyddig – yn enwedig tirwedd llechi gogledd orllewin Cymru a ddaeth yn safle treftadaeth byd Unesco y llynedd. Mae Cymru yn lle unigryw sydd â hanes anhygoel a hyd yn oed mwy o botensial.

Ond nid yw pawb yng Nghymru yn cael yr un cyfleoedd â’i gilydd na phobl mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig.

Fel llywodraeth, rydym yn cydnabod bod hyn yn anghywir ac mae ein cynlluniau codi’r gwastad eisoes yn golygu ein bod yn gweithio gyda chynghorau, cymunedau a Llywodraeth Cymru i wrthdroi’r anghydraddoldebau daearyddol sydd wedi plagio Cymru a’r DU yn ehangach.

Mae hyn yn cynnwys cymryd camau breision o ran cyflwyno band eang gigabit a 5G, a symud gwariant ymchwil a datblygu o dde ddwyrain Lloegr er mwyn i ardaloedd eraill gael y cyllid sydd ei angen arnynt i ffynnu.

Erbyn hyn, mae pedair Bargen Twf sy’n berthnasol i bob rhan o Gymru – Gogledd Cymru, Canolbarth Cymru, Bae Abertawe a Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd – sydd hefyd yn allweddol i’n huchelgais i godi’r gwastad. Mae Llywodraeth y DU wedi buddsoddi £790m, ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol i greu miloedd o swyddi yn y blynyddoedd i ddod.

Ac rydym yn ariannu cymunedau’n uniongyrchol – gan ddarparu buddsoddiad drwy’r Gronfa Codi’r Gwastad, y Gronfa Adfywio Cymunedol a’r Gronfa Perchnogaeth Gymunedol. Ddiwedd llynedd roedd dros 175 o brosiectau o bob cwr o Gymru wedi cael dros £165 miliwn o gyllid uniongyrchol ar gyfer cynlluniau. Mae’r rhain yn amrywio o drawsnewid glan y môr a phromenâd Aberystwyth, adfywio Camlas Trefaldwyn ac ailagor Canolfan Gelfyddydau Muni ym Mhontypridd, i adfywio Castell Hwlffordd, ymysg dwsinau o brosiectau ar hyd a lled Cymru.

A dim ond y rownd gyntaf o gyllid oedd hon. Bydd llawer mwy o brosiectau, lleoedd a chymunedau yn elwa ymhellach erbyn diwedd 2022.

Ar hyd a lled yr economi, mae Llywodraeth y DU wedi gosod y trywydd ar gyfer adferiad, ffyniant, swyddi, twf a chwyldro diwydiannol gwyrdd. Mae gennym waith enfawr i’w wneud ac rydym yn canolbwyntio fel llywodraeth ar gael y DU yn ôl ar y trywydd iawn. Ond mae arnom eisiau gweithio gyda Llywodraeth Cymru a’i gweld yn cyflawni ei chynlluniau ar gyfer pobl Cymru a dyna pam rydym ni wedi rhoi’r setliad mwyaf erioed iddi gan y Trysorlys, £18 biliwn y flwyddyn, er mwyn iddi allu darparu gwasanaethau datganoledig fel iechyd, addysg ac amddiffyn rhag llifogydd.

Rydym yn gwybod y bydd costau byw uwch yn rhoi straen ar gyllidebau nifer o aelwydydd, dyna pam ein bod wedi sefydlu ein Cynllun Swyddi, sydd wedi golygu bod diweithdra ymysg pobl ifanc wedi cyrraedd ei lefel isaf erioed, a’r disgownt o £200 ar filiau’r hydref hwn ar gyfer cwsmeriaid trydan domestig.

Mae Covid-19 ac anawsterau costau byw yn dal gyda ni, ond serch hynny gallwn edrych ymlaen gyda gobaith. Mae amddiffyn yn dal yn gyflogwr hanfodol yng Nghymru ac mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn yn buddsoddi £320m yn ystad y Fyddin yng Nghymru, gan gynnwys cadw Barics Aberhonddu a sefydlu catrawd newydd yng Nghaer-went erbyn 2028, a bydd contract awyrennau newydd yr Awyrlu Brenhinol ar gyfer Brychdyn hefyd.

A’r mis hwn cyhoeddodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder y byddai’n symud 500 o swyddi i leoliadau ar hyd a lled Cymru. Mae Llywodraeth y DU eisiau manteisio i’r eithaf ar dalent a photensial gweithlu Cymru ac mae adleoli mwy o swyddi yn y gwasanaeth sifil yn ein helpu i gyflawni hynny.

Rydym yn wynebu cyfnod ansicr wrth i ni ganolbwyntio ar hyn o bryd ar y sefyllfa ofnadwy yn Wcráin. Ond gobeithio y bydd y flwyddyn i ddod yn un o optimistiaeth ac adferiad i’n holl gymunedau.

Cyhoeddwyd ar 3 March 2022