Ysgrifennydd Cymru yn edrych ymlaen at 2026 disglair i Gymru
Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jo Stevens, yn myfyrio ar fuddsoddiad a chyflawniad Llywodraeth y DU yng Nghymru yn 2025 ac yn edrych ymlaen at 2026.
Yn ystod y flwyddyn newydd, byddwn yn gweld swyddi, twf a rhagor o fuddsoddiad yn cael eu darparu yng Nghymru, meddai Ysgrifennydd Cymru, Jo Stevens.
Drwy gydol 2025, mae Llywodraeth y DU wedi sicrhau buddsoddiad trawsnewidiol yng Nghymru gyda mesurau i dyfu’r economi, i greu swyddi ac i fynd i’r afael â chostau byw.
Ym mis Tachwedd, cafwyd un o’r buddsoddiadau mwyaf mewn seilwaith yn hanes Cymru, gyda’r cyhoeddiad mai Wylfa ar Ynys Môn fyddai safle adweithyddion niwclear bach cyntaf y DU.
Bydd y prosiect yn creu miloedd o swyddi o ansawdd uchel yn ystod y camau adeiladu a gweithredu, gan helpu i wneud Prydain yn arweinydd bydd eang mewn ynni glân a sicrhau ynni cynhenid i genedlaethau’r dyfodol.
Cafodd hyn ei gefnogi drwy gyhoeddi dwy Ardal Twf AI ar gyfer Gogledd a De Cymru a fydd gyda’i gilydd yn creu dros 8,000 o swyddi da dros y blynyddoedd nesaf a chyhoeddi £10 miliwn i gefnogi swyddi yn y clwstwr lled-ddargludyddion ar hyd yr M4 yn Ne Cymru.
Roedd hyn yn dilyn buddsoddiad mawr yn rheilffyrdd Cymru a gyhoeddwyd yn gynharach yn y flwyddyn yn Adolygiad o Wariant y Canghellor. Ar ôl blynyddoedd o danfuddsoddi yn seilwaith rheilffyrdd Cymru, bydd £445 miliwn yn trawsnewid gwasanaethau a chysylltedd ac yn cefnogi twf economaidd ledled Cymru.
Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi cymryd camau i fynd i’r afael â chostau byw drwy arbed £150 ar gap ynni aelwydydd, uwchraddio Credyd Cynhwysol, cynyddu pensiwn y wladwriaeth a rhoi rhagor o arian ym mhocedi tua 160,000 o’r gweithwyr ar y cyflogau isaf ledled Cymru, gan gynyddu’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol.
Bydd miloedd o blant ledled Cymru yn elwa o fesurau i fynd i’r afael â thlodi plant, a bydd dileu’r terfyn budd-dal dau blentyn fel y cyhoeddodd y Prif Weinidog ym mis Rhagfyr yn effeithio ar oddeutu 69,000 o blant.
Mae Llywodraeth y DU wedi sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru yn cael eu hariannu’n well ar ôl i Lywodraeth Cymru gael setliad cyllideb uwch nag erioed yn 2025, gan ddarparu adnoddau nas gwelwyd eu tebyg o’r blaen i fuddsoddi yn y gwasanaethau cyhoeddus sydd bwysicaf i bobl Cymru.
Mae’r cyllid hanesyddol hwn yn galluogi buddsoddiad yn y GIG, mewn ysgolion, mewn gwasanaethau lleol ac mewn seilwaith, gan helpu i chwalu rhwystrau i gyfleoedd ac i wella ansawdd bywyd pobl ledled Cymru.
Ac mae Llywodraeth y DU wedi parhau i gefnogi gweithwyr dur ym Mhort Talbot drwy gydol 2025, gan gydnabod pwysigrwydd hanfodol y diwydiant dur i economi Cymru. Mae’r cymorth hwn yn cynnwys cyllid ar gyfer rhaglenni ailhyfforddi, cymorth chwilio am waith a buddsoddi mewn cyfleoedd newydd ym Mhort Talbot a’r ardal gyfagos.
Dywedodd Jo Stevens, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Fe wnaethon ni addo swyddi newydd a thwf economaidd i bobl ledled Cymru ar ôl dros ddegawd o esgeulustod ac mae Llywodraeth bresennol y DU wedi sicrhau buddsoddiad unwaith mewn cenhedlaeth – o ynni niwclear newydd i ddeallusrwydd artiffisial a rheilffyrdd.
Mae’r cyllid newydd i ddiwydiant lled-ddargludyddion Cymru ac i barhau i drawsnewid Port Talbot yn dangos ein bod yn buddsoddi yn nyfodol diwydiannol Cymru a’r twf a’r swyddi medrus iawn a ddaw yn sgil hynny.
Bydd gan bobl ledled Cymru ragor o arian yn eu pocedi o ganlyniad i’n mesurau i helpu gyda chostau byw, ac rydym yn gwneud yn siŵr bod Llywodraeth Cymru yn cael ei hariannu’n briodol ac yn deg er mwyn iddi allu gwario ar ei blaenoriaethau fel y GIG ac ysgolion.
Mae gan Gymru ddwy lywodraeth sy’n gweithio gyda’i gilydd i gyflawni blaenoriaethau pobl sy’n gweithio a theuluoedd ledled y wlad ac mae’r manteision yn dechrau dod i’r amlwg.
Dywedodd Ysgrifennydd Cymru y bydd Llywodraeth y DU yn parhau i gyflawni ar gyfer cymunedau Cymru drwy gydol 2026, gan adeiladu ar fuddsoddiad trawsnewidiol 2025.
Bydd dau Borthladd Rhydd yn Ynys Môn a De-orllewin Cymru yn dechrau gweithredu, gan greu manteision tollau a chynllunio symlach i ddenu buddsoddiad ac i greu swyddi.
Bydd rhagor o welliannau i seilwaith rheilffyrdd Cymru yn parhau, gan adeiladu ar y cynnydd a wnaed yn 2025 i wella cysylltedd, i gefnogi trafnidiaeth gynaliadwy ac i sbarduno twf economaidd, gyda gwaith yn dechrau ar ailwampio Gorsaf Ganolog Caerdydd, gyda chefnogaeth cyllid gan Lywodraeth y DU, a bydd gorsafoedd newydd, croesfannau rheilffordd mwy diogel ac uwchraddio rheilffyrdd yn dilyn hynny.
Ac wrth i waith barhau i adeiladu ffwrnais arc drydan newydd Tata Steel ym Mhort Talbot, bydd cymorth Llywodraeth y DU i weithwyr dur ac i’r gymuned leol yn parhau, gyda rhagor o fuddsoddiad mewn ailhyfforddi, cyfleoedd economaidd newydd a chefnogaeth i weithwyr a theuluoedd yr effeithir arnynt.
Ychydig cyn y Nadolig, ychwanegodd Llywodraeth y DU £22 miliwn arall at gronfa Bwrdd Pontio Tata Steel / Port Talbot – gan godi cyfraniad Llywodraeth y DU i’r gronfa i £102 miliwn - felly bydd rhagor o fusnesau yn yr ardal yn parhau i gael eu cefnogi yn ystod 2026.
Dywedodd Jo Stevens, Ysgrifennydd Cymru:
Rydym bellach yn cyflawni ein huchelgais i sicrhau newid cadarnhaol ym mywydau pobl a chymunedau ledled Cymru. Megis dechrau ydym ni a byddwn yn symud ymhellach ac yn gyflymach yn 2026.
Wrth i ni edrych ymlaen at y flwyddyn newydd, mae Llywodraeth y DU yn dal i ganolbwyntio ar gyflawni ar gyfer cymunedau Cymru, creu swyddi, sbarduno buddsoddiad a sicrhau bod pobl ym mhob rhan o Gymru yn teimlo manteision twf economaidd.
A’r tu hwnt i wleidyddiaeth, rwy’n gobeithio gweld Cymru’n llwyddo i gyrraedd twrnamaint mawr arall a mynd i Gwpan y Byd yng Ngogledd America yr haf hwn.
Mae 2026 disglair o’n blaenau yng Nghymru wrth i ni barhau â’n gwaith i ganfod cyfleoedd a chreu degawd o adnewyddu cenedlaethol.