Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru yn lansio fforwm busnes Cymru-Ffrainc

Alun Cairns yn amlinellu ei uchelgais ar gyfer y fforwm newydd yn y derbyniad lansio yn Llysgenhadaeth Prydain ym Mharis

Guests networking at the Wales-France Business Forum launch in the British embassy in Paris

Guests networking at the Wales-France Business Forum launch in the British embassy in Paris

Lansiodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, fforwm busnes Cymru-Ffrainc mewn derbyniad a gynhaliwyd gan Lysgenhadaeth Prydain ym Mharis. Bydd y fforwm yn cysylltu pobl fusnes ar draws y ddwy wlad, gan annog masnach rhwng Cymru a Ffrainc a chreu cyfleoedd datblygu busnes newydd.

Amcangyfrifir bod Cymru yn gartref i 85 o gwmnïau o Ffrainc sy’n cyflogi dros 9,000 o bobl. Mae’r rhain yn cynnwys Keolis a Bouygues, sydd wedi ymrwymo i gefnogi’r fforwm newydd yn sgil buddsoddiadau diweddar yng Nghymru. Enillodd Keolis Amey y contract i redeg Trafnidiaeth Cymru ac mae Bouygues wedi buddsoddi mewn campws arloesi newydd ym Mhrifysgol Caerdydd a fydd yn creu mwy na 60 o swyddi.

Ffrainc yw’r ail gyrchfan allforio mwyaf ar gyfer gwasanaethau a nwyddau o Gymru. Mae Fforwm Cymru-Ffrainc yn bwriadu meithrin y cysylltiadau hyn sydd eisoes yn bodoli rhwng y ddwy wlad drwy ddarparu llwyfan ehangach i fusnesau Cymru hyrwyddo eu hunain i gwsmeriaid newydd.

Yn y derbyniad lansio, siaradodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Cymru, am ei ddyheadau ar gyfer y fforwm gan ddweud:

Bydd y fforwm hwn yn croesawu cysylltiadau cryfach rhwng Cymru a Ffrainc lle gall cynrychiolwyr busnes o bob sector rwydweithio a dysgu oddi wrth ei gilydd.

Wrth i’r DU baratoi i adael yr UE, mae’r berthynas hon sy’n datblygu rhwng y DU a Ffrainc yn bwysig o safbwynt economaidd a gwleidyddol.

Mae cefnogaeth llywodraeth Cymru, Ffrainc a’r DU yn allweddol i lwyddiant y bartneriaeth hon er mwyn creu’r amodau iawn i gefnogi cwmnïau i allforio a thyfu dramor.

Bydd y fforwm yn cynnal digwyddiadau rhwydweithio ar gyfer busnesau ac entrepreneuriaid o Gymru a Ffrainc ledled Cymru, gan sicrhau bod Cymru yn parhau i fod yn gadarn ac yn agored i fusnes wrth i’r DU ymadael â’r Undeb Ewropeaidd.

DIWEDD

Cyhoeddwyd ar 8 March 2019