Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru: Ystadegau’r Farchnad Lafur yn ‘galonogol’ ond rhaid i ni wneud mwy i roi hwb i’r economi yng Nghymru

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi rhoi croeso gofalus i Ystadegau diweddaraf y Farchnad Lafur, sy’n dangos bod lefelau cyflogaeth yng Nghymru…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi rhoi croeso gofalus i Ystadegau diweddaraf y Farchnad Lafur, sy’n dangos bod lefelau cyflogaeth yng Nghymru wedi cynyddu. Anogodd Cheryl Gillan Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i helpu i droi’r gyfres hon o ffigurau unigol yn gynnydd tymor hir.

Mae’r ystadegau diweddaraf yn dangos bod lefelau cyflogaeth yng Nghymru wedi cynyddu a bod lefelau diweithdra wedi disgyn ychydig.  Disgynnodd lefel a chyfraddau anweithgarwch economaidd yn sylweddol ac roedd cyfradd y rhai sy’n hawlio budd-dal diweithdra yn arwydd bod mwy o bobl wedi rhoi’r gorau i dderbyn Lwfans Ceisio Gwaith na nifer y bobl a oedd yn ei dderbyn. 

Dywedodd Mrs Gillan: “Mae hyn yn newyddion calonogol, ond mae’n rhaid i ni gofio mai dim ond cyfres unigol o ffigurau sydd yma, ac mae llawer i’w wneud eto.  Mae sialens enfawr o’n blaenau, gan fod y gyfradd diweithdra yng Nghymru yn dal i fod yn annerbyniol o uchel ar 8.9% ac mae 130,000 o bobl yn dal i chwilio am waith.

“Dyma’r ail fis yn olynol ble mae mwy o bobl yn rhoi’r gorau i dderbyn Lwfans Ceisio Gwaith na’r nifer sy’n ei dderbyn, sy’n rhywbeth i’w groesawu.  Rhaid i ni wneud yn siŵr bod amodau da ar gyfer twf, er mwyn gwneud yn siŵr bod cyfleoedd go iawn i bobl Cymru ddangos beth allan nhw ei wneud.  

“Rwy’n annog Llywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU, i helpu i droi’r gyfres unigol hon o ffigurau yn gynnydd tymor hir. Rydyn ni’n gwybod bod gennyn ni’r adnoddau a’r cymorth i wneud Cymru’n lleoliad o’r radd flaenaf i fusnesau, felly ein cyfrifoldeb ni yw cydweithio i hyrwyddo cyfleoedd busnes yng Nghymru a denu buddsoddiadau o’r tu allan.”

Nodiadau i Olygyddion:

  • 68.2% oedd y gyfradd cyflogaeth yng Nghymru, cynnydd o 0.9% ers y chwarter diwethaf.
  • 8.9% oedd  y gyfradd diweithdra, sef 0.1% yn is na’r chwarter diwethaf, ond 0.5% yn uwch na’r un chwarter yn 2010.
  • 25.1% oedd y gyfradd anweithgarwch economaidd, 0.8% yn is na’r chwarter diwethaf, a 1.0% yn is na’r un chwarter y llynedd.
  • Roedd cyfradd y rhai sy’n hawlio budd-dal diweithdra yn 5.5% ym mis Rhagfyr, ac nid oedd y ffigur hwn wedi newid ers mis Tachwedd 2011 ac roedd 0.5% yn uwch o gymharu a’r llynedd.
  • 26,200 oedd lefel y bobl ifanc sy’n hawlio budd-daliadau diweithdra, sef cynnydd o 3,000 ers mis Rhagfyr 2010.

Mae’r Sefydliad Llafur Rhyngwladol (ILO) yn cyfrif y nifer sy’n ddi-waith ond sydd eisiau swydd, sydd wedi bod yn chwilio am waith yn y pedair wythnos diwethaf ac sydd ar gael i ddechrau gweithio yn y pythefnos nesaf; hefyd y rheini sydd allan o waith, sydd wedi dod o hyd i waith ac sy’n disgwyl dechrau yn y pythefnos nesaf.

Cyhoeddwyd ar 18 January 2012