Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru’n ymuno ag ymgais First Great Western i dorri record rhwng Caerdydd a Llundain

Heddiw, 26ain Hydref 2011, mae Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, wedi ymuno ag arweinwyr busnes ar daith ddi-stop First Great Western o Gaerdydd…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Heddiw, 26ain Hydref 2011, mae Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, wedi ymuno ag arweinwyr busnes ar daith ddi-stop First Great Western o Gaerdydd i Lundain.

Bydd y tren arbennig hwn yn ceisio teithio rhwng y ddwy brifddinas mewn tua 90 munud, heb stopio o gwbl, gan roi cipolwg ar y dyfodol pan fydd trydaneiddio rheilffyrdd yn golygu y bydd modd cwblhau’r siwrnai rhwng Caerdydd a Llundain mewn llai na dwy awr.

Nod y siwrnai yw dangos y manteision a’r posibiliadau ar gyfer buddsoddi yn y gymuned fusnes yn y dyfodol. Bydd hefyd yn ceisio torri’r record gyflymaf bresennol o 97 munud 37 eiliad, a osodwyd ym mis Awst 1998.

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru:

“Rydw i wrth fy modd yn cael bod ar siwrnai ddi-stop gyntaf First Great Western o Gaerdydd i Lundain heddiw. Mae’r tren arbennig hwn yn dangos y cyswllt da sydd rhwng De Cymru a Llundain a pha mor fyr mewn gwirionedd yw’r siwrnai rhwng y ddwy brifddinas.”

“Mae’r Llywodraeth yn buddsoddi bron i £1 biliwn mewn trydaneiddio’r rheilffordd rhwng Llundain a De Cymru a bydd hyn yn sicrhau llai o amser teithio, fel y dangosir gan First Great Western heddiw. Bydd o gymorth i sicrhau manteision i fusnesau, unigolion a theuluoedd fel ei gilydd.”

“Gyda’n polisiau economaidd ni, rydym ni’n benderfynol o leihau biwrocratiaeth a sicrhau ei bod yn gyflymach ac yn haws i fusnesau fuddsoddi yng Nghymru a gwneud defnydd o weithlu medrus a chymwys y wlad hon. Rydym ni hefyd yn helpu busnesau Cymru i sicrhau cyfleoedd mewn marchnadoedd eraill yn y DU a thramor.”

“Rydw i eisiau sicrhau bod ymwelwyr a buddsoddwyr yn gwybod bod Cymru’n lle gwych yn gymdeithasol, yn ddiwylliannol ac yn economaidd a bod y wlad yn lleoliad hwylus iawn i fusnesau. Mae teithio rhwng Llundain a Chaerdydd mewn llai na dwy awr yn ffordd ragorol o ddangos hyn.”

Cyhoeddwyd ar 26 October 2011